Skip navigation
Home > Cymru > Ynglyn â Chymru > Beth yw eich ffefryn chi?

Beth yw eich ffefryn chi?

Pair of gannets displaying at nest

Ai’r barcud trawiadol, y rugiar ddu ddirgel neu’r robin goch lliwgar a chyfeillgar yw eich dewis chi? Rhwng nawr a’r hydref, mae RSPB Cymru a BBC Wales yn gwahodd pobl ledled Cymru i enwebu eu hoff aderyn.

Dechreuodd Iolo Williams yr enwebiadau yn y gyfres newydd o Iolo’s Welsh Safari ar BBC One Wales yn y gwanwyn.

Meddai: ‘Rydym yn hynod o ffodus yng Nghymru fod gennym dirluniau mor ddramatig a hardd a bywyd gwyllt mor amrywiol.  Yng Nghymru mae safleoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol ar gyfer llawer o rywogaethau o adar fel y frân goesgoch, y rugiar ddu a’r hugan – yn y blynyddoedd diwethaf mae hyd yn oed pâr o weilch y pysgod wedi dewis Cymru fel cartref – felly mae yma gyfoeth o adar bendigedig i bobl ddewis ohonynt.’

Mae llawer o bobl ar hyd a lled y wlad yn dangos diddordeb cynyddol mewn adar a bywyd gwyllt arall.  Bu mwy na 21,000 o bobl ledled Cymru’n cymryd rhan yn arolwg Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB ym mis Ionawr eleni, a chafwyd dros 70,000 o ymweliadau â chynlluniau gwylio ‘Tydy adar yn wych!’ RSPB Cymru yn 2006.

Gallwch anfon enwebiadau ar gyfer hoff aderyn Cymru drwy gyfrwng gwefan natur BBC Wales neu ar warchodfeydd natur yr RSPB a safleoedd ‘Tydy adar yn wych!’ ledled Cymru drwy gydol yr haf.  Bydd panel o arbenigwyr yn llunio rhestr fer o’r enwebiadau a dderbynnir yna gofynnir i bobl bleidleisio am eu ffefryn ar y rhestr.  Cyhoeddir y rhywogaeth gyda’r nifer fwyaf o enwebiadau fel hoff aderyn Cymru yng nghyfres yr hydref o Iolo’s Welsh Safari.

I anfon enwebiad neu am fwy o wybodaeth am hoff aderyn Cymru, ewch i: http://www.bbc.co.uk/walesnature

Last modified: 13 June 2007