Print
Prynwch oen mynydd Cymreig organig

Mae'r RSPB a Dwr Hafren Trent yn cydweithio mewn partneriaeth o amgylch Llyn Efyrnwy i sicrhau tirlun amaethu iach a ffyniannus. Drwy brynu oen mynydd organig Cymreig, rydych yn cefnogi ein gwaith ac yn helpu cadwraeth natur.
Fferm iach – bwyd iach
Perchennog y fferm organig ar gyrion Llyn Efyrnwy yw Dwr Hafren Trent ac mae hi'n cael ei rheoli gan yr RSPB. Amaethir y fferm er budd adar, bywyd gwyllt a'ramgylchedd. Mae'r defaid yn pori ar rug, perlysiau naturiol a glaswelltoedd y bryniau, a dywedir bod y rhain yn gwella blas y cig. Mae blas unigryw yr oen mynydd Cymreig organig hwn ar gael bellach yn siop yr RSPB ar y safle.
Amaethu er budd adar
Mae'r RSPB yn meithrin cymysgedd cyfoethog o gynefinoedd yn Llyn Efyrnwy er mwyn denu amrywiaeth o adar. Mae'r rhostir grugog, yr orgors, y goedlan, y glaswelltir a'r dwr agored yn gartref i rai o'r adar sydd o dan fygythiad yng Nghymru megis y boda tinwyn, mwyalchen y mynydd a'r rugiar ddu.
Llyn Efyrnwy yw ffynhonnell ddwr pobl Lerpwl. Mae'r mesurau rheoli llygredd a weithredir gennym, ynghyd â'r dulliau organig o amaethu, yn golygu bod ansawdd y dwr yn yr amgylchedd o gwmpas yn cael ei warchod. Gyda'i gilydd mae'r RSPB a Dwr Hafren Trent yn dangos ei bod yn bosibl rhedeg fferm effeithiol tra'n sicrhau buddion i fywyd gwyllt a phobl leol, a gwarchod ffynhonnell bwysig o ddwr yfed.
Os byddwch yn ymweld â'r siop yn Llyn Efyrnwy, gallwch brynu cig oen wedi ei rewi a mynd ag ef adref yr un diwrnod. Mae stoc ar gael drwy'r flwyddyn gron, ond fe'ch cynghorir i ffonio'r siop ymlaen llaw i sicrhau y bydd eich archeb yn barod ar y diwrnod. Edrychwn ymlaen at gynnig croeso cynnes i chi.
Contact