Print
RSPB Cymru Cynllun Iaith Gymraeg

Mae RSPB Cymru wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal wrth ddelio gyda busnes cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r Cynllun Iaith Gymraeg yn ffurfio rhan o ymroddiad yr RSPB i gysylltiadau o ansawdd uchel o fewn Cymru. Mae'r cynllun hwn yn berthnasol i weithrediadau RSPB Cymru yng Nghymru, holl staff a gwirfoddolwyr RSPB Cymru sydd yn gweithio yng Nghymru, a staff yr RSPB yn y DU y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar Gymru. Nid oes dim yn y Cynllun hwn sydd yn gwrthdaro gyda neu yn peryglu amcanion elusennol yr RSPB.
Bydd yn cael ei fonitro'n barhaol i sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd a bod y Cynllun yn cael ei weithredu'n effeithiol. Mae rhoi'r Cynllun ar waith yn ymrwymiad tymor hir gan RSPB Cymru a bydd yn cael ei adolygu yn 2009.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Stuart Thompson ym Mhencadlys RSPB Cymru os gwelwch yn dda.
Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg yr RSPB gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 16 Mawrth 2006 ac mae'n bosibl ei lwytho i lawr o'r dudalen hon.
Last modified: 02 May 2006