RSPB
Print page

Pleidleisiwch i gael parc chwarae yng nghanol byd natur yn RSPB Ynys Lawd

Last modified: 23 February 2016

Ellins Tower at the RSPB South Stack cliffs nature reserve, Anglesey

Image: Chris Gomersall

Pleidleisiwch i gael parc chwarae yng nghanol byd natur yn RSPB Ynys Lawd

Mae'r warchodfa natur eiconig yn dibynnu ar eich pleidlais chi i greu parc chwarae bywyd gwyllt cyffrous ar gyfer plant lleol.
Mae RSPB Ynys Lawd yn galw arnoch chi, a phobl Ynys Môn, i bicio draw i archfarchnad TESCO Extra yng Nghaergybi neu i siop TESCO ym Menllech rhwng 27 Chwefror a 6 Mawrth i bleidleisio dros y warchodfa arfordirol eiconig i ennill ymgyrch ‘Bags of Help’ TESCO (nodyn 2). Bydd eich pleidlais yn golygu y bydd RSPB Ynys Lawd yn gallu creu parc chwarae bywyd gwyllt cyffrous a gardd natur fendigedig ar gyfer eich plant, er mwyn iddyn nhw allu mwynhau oriau di-ben-draw o hwyl yng nghanol byd natur.  Mae TESCO wedi ymuno â'r elusen gymunedol, Groundwork (nodyn 3), i lansio'r fenter ‘Bags of Help’ mewn cannoedd o ardaloedd ledled Cymru a Lloegr. O dan y cynllun hwn, bydd tri o brosiectau a grwpiau cymunedol ym mhob un o'r ardaloedd hyn yn cael grantiau gwerth £12,000, £10,000 ac £8,000 - pob ceiniog yn deillio o'r tâl pump ceiniog am fagiau. Os ydyn nhw yn llwyddo, bydd y cyfraniad yn golygu y bydd RSPB Ynys Lawd yn gallu creu parc antur am ddim ar gyfer plant sy’n ymweld â'r warchodfa - o siglen nyth aderyn i bwll tywod, llwybr boncyffion a mwy.  Nid yn unig y bydd y parc chwarae yn lle diogel i blant ifanc redeg yn wyllt, bydd hefyd yn gyfle i rieni a gwarcheidwaid gael ychydig bach o amser iddyn nhw eu hunain wrth ryfeddu at y golygfeydd arfordirol bendigedig. Byddai cyfraniad o'r maint hwn hefyd yn golygu y bydd posib troi darn o laswelltir yn y warchodfa yn ardd natur hygyrch a rhyngweithiol y gall pobl ei defnyddio yn rhad ac am ddim ac a fydd yn cynnwys blodau, llwyni a choed brodorol yn ogystal â phwll naturiol a chartref i ddraenogod, adar a bwystfilod bach.

Dywedodd Laura Kudelska, Rheolwr Prosiect RSPB Ynys Lawd: “Mae RSPB Ynys Lawd yn atyniad pwysig i ymwelwyr ar Ynys Môn. Mae ei golygfeydd godidog, ei goleudy eiconig, a’i nythfeydd anhygoel o adar y môr yn denu ymwelwyr wrth eu miloedd. Mae gennym gaffi gwych sy’n agored drwy gydol y flwyddyn a llwybrau cerdded hyfryd gyda golygfeydd bendigedig, ond rydym yn awyddus iawn igynnig mwy - yn enwedig i'r bobl leol – drwy gynnig parc chwarea gwerth chweil yn y lleoliad ffantastig yma.  Dim ond ychydig funudau sydd ei angen i fwrw eich pleidlais ac rydym yn dibynnu’n drwm ar y gymuned leol i’n helpu i wireddu'r weledigaeth hon er mwyn i blant lleol ei mwynhau am flynyddoedd i ddod.

“Byddai’r cyfraniad hwn yn golygu y byddem yn gallu creu parc chwarae mewn rhan o'r warchodfa sydd ddim yn cael ei defnyddio ddigon ar hyn o bryd. Po fwyaf o bleidleisiau rydym yn eu cael, y gorau fydd y parc chwarae.  Bydd hefyd yn gyfle i blant chwarae allan yn yr awyr agored, gan fwynhau eu hunain yn neidio, dringo a siglo wrth werthfawrogi ein bywyd gwyllt gwerthfawr.  Ar ben hynny, tra bo'r plant yn cael amser gwych yn chwarae, bydd rhieni yn gallu ymlacio, cael paned a mwynhau darn o deisen flasus yn y caffi!” 

Bydd popeth yn yr ardd chwarae antur wedi’i wneud o ddefnyddiau naturiol er mwyn hybu creadigrwydd y plant a’u hysbrydoli i ofalu am y bywyd gwyllt o'u hamgylch. Os bydd y warchodfa yn llwyddo i ennill y brif wobr, gwerth £12,000, y gobaith yw y bydd yn gallu datblygu lle chwarae mwy yn y warchodfa lle gall plant fynd i'r afael â her boncyffion crog, dringo rhwydi neu wal fowldro.  Mae RSPB Ynys Lawd hefyd yn gobeithio denu plant hŷn i fwynhau pleserau'r warchodfa, drwy ddylunio murlun â thema bywyd gwyllt ar y wal y tu allan i'r caffi, wedi’i greu gan bobl ifanc lleol.  Mae ‘Bags of Help’ yn cynnig cyfran o'r refeniw sy'n deillio o'r tâl pum ceiniog a godir am fagiau siopa untro i brosiectau a grwpiau cymunedol ym mhob un o'r 390 ardal ledled y DU lle ceir siop Tesco. I fwrw eich pleidlais dros RSPB Ynys Lawd, piciwch i mewn i archfarchnad TESCO Extra yng Nghaergybi neu i siop TESCO ym Menllech rhwng 27 Chwefror a 6 Mawrth i annog mwy o blant i fwynhau'r bywyd gwyllt sydd ar stepen eu drws.

Nature reserves

Share this

Twitter