Feature

Canolbwyntio ar eu dyfodol

Helpwch y gwyddonwyr i ddeall effeithiau hirdymor clefydau bywyd gwyllt. Gyda’n gilydd, gallwn warchod adar sydd dan fygythiad.

Hugan yn edrych yn syth at y camera. Mae ganddo iris du, sy’n dangos ei fod wedi goroesi Ffliw Adar.
On this page

English | Cymraeg

Diolch i roddion hael i’n Cronfa Clefydau Bywyd Gwyllt, mae gan yr RSPB dîm ymroddedig o wyddonwyr erbyn hyn sy’n chwilio am atebion i fygythiad cynyddol clefydau fel Ffliw Adar, Trichomonosis, a feirws Usutu. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y gymuned wyddonol ehangach i ddeall effaith hirdymor clefydau.

Cefnogwch ein Cronfa Clefydau Bywyd Gwyllt bob mis

Nid yw bygythiad clefydau bywyd gwyllt yn diflannu, a bydd effaith hyn yn cael ei theimlo am flynyddoedd i ddod, wrth i boblogaethau rhywogaethau sydd eisoes dan fygythiad, fel yr Hugan a Llinos Werdd, ei chael hi’n anodd adfer. Mae angen eich cymorth misol parhaus ar ein gwyddonwyr heddiw, i helpu i gyflawni ymchwil hanfodol. Bydd y gwaith yn:

  • Llywio lle mae angen i ni gymryd camau cadwraeth uniongyrchol ar frys i achub yr adar sydd dan y bygythiad mwyaf.
  • Helpu i greu achos dros bolisïau sy’n ystyriol o fywyd gwyllt i fynd i’r afael â bygythiadau eraill sy’n wynebu adar, gan eu helpu i allu gwrthsefyll achosion o glefydau yn well yn y dyfodol.
  • Helpu ni i fod yn fwy parod ar gyfer y cynnydd nesaf mewn achosion neu glefyd newydd a ddaw i’r amlwg.

Drwy ganolbwyntio ar y dyfodol, gyda’n gilydd gallwn ddod o hyd i atebion y mae mawr eu hangen i drin clefydau bywyd gwyllt.

Dewiswch i roi’n fisol

Gwylanod Goesddu yn clwydo ar ymyl clogwyn, y môr oddi tanynt.

Sut mae clefydau’n effeithio ar ddyfodol bywyd gwyllt?

Mae Ffliw Adar wedi cael effaith drychinebus ar adar môr y DU. Bu gostyngiad o 76% yn nifer y Sgiwennod Mawr sy’n bridio ledled yr Alban, a chollwyd 25% o’n Huganod bridio yn 2023 hefyd. Mae Dr Susie Gold, Gwyddonydd Cadwraeth yr RSPB, yn edrych ar ymchwil fyd-eang i helpu i ragweld sut y gall adar wella ar ôl dioddef effeithiau Ffliw Adar. Gall eich rhodd fisol helpu Susie i ddeall pa gamau allai wneud poblogaethau adar yn fwy cydnerth, a beth y gellir ei wneud yn well os bydd achos arall o glefyd er mwyn cyfyngu ar ei effaith.

Yn swabio am arwyddion Trichomonosis ar declyn bwydo adar yn yr ardd.

Sut mae Trichomonosis yn lledaenu ymhlith adar yr ardd?

Ar hyn o bryd, mae’r Gwyddonydd Cadwraeth, Will Kirby, yn arolygu gerddi ledled y wlad i ddeall sut mae’r parasit hwn yn pasio o un aderyn i’r llall. Ai drwy rieni sy’n bwydo eu cywion? Neu drwy declynnau bwydo adar neu faddonau adar? Drwy swabio am arwyddion o’r parasit, mae Will yn gobeithio mynd i’r afael â chlefyd marwol sy’n rhoi’r Llinos Werdd ar y Rhestr Goch o Adar o Bryder Cadwraethol. Gallai ei ddarganfyddiadau helpu i ddatblygu trefniadau neu ddyluniadau glanhau gwell fyth ar gyfer teclynnau bwydo er mwyn eu gwneud yn fwy diogel.

Staff trwyddedig yr RSPB yn gosod tag yn ofalus ar Hugan i helpu i fonitro’r rhywogaeth.

Sut mae modd adfer yr Huganod?

Mae Dr Connie Tremlett yn edrych ar yr effaith y mae Ffliw Adar wedi'i chael ar ein poblogaethau Huganod sy'n bwysig ar lefel fyd-eang. Yn 2022, arweiniodd y clefyd at 16,000 o nythod gwag yn RSPB Gwales yng Nghymru, gan haneru maint y nythfa. Gan mai dim ond un cyw'r flwyddyn y mae Huganod yn ei gael, bydd yn cymryd blynyddoedd iddynt adfer yn ôl i’r niferoedd blaenorol. Ond gallai eich cefnogaeth bob mis ein helpu i barhau i fonitro safleoedd nythu a gweld faint o gywion a enir yn y tymor hir. Gallai’r wybodaeth hon ein helpu i bwyso am weithredu polisïau a chymryd camau cadwraeth i gyfyngu ar fygythiadau, er mwyn i Huganod allu wynebu heriau yn y dyfodol yn well.

Llun clawr o gylchgrawn Impact, sy’n cynnwys albatros.

Gweld eich effaith

Bydd pob rhodd fisol i’n Cronfa Clefydau Bywyd Gwyllt yn cefnogi ymchwil wyddonol, gwaith polisi a chamau cadwraeth i fynd i’r afael â chlefydau sy’n bygwth ein hadar gwyllt heddiw ac mewn blynyddoedd i ddod. I ddiolch i chi, byddwn yn anfon ein cylchlythyr Impact atoch, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein holl waith a sut mae bywyd gwyllt yn dod yn ei flaen.

Share this article