· Mae RSPB Cymru yn galw ar bobl i fynd allan yr haf hwn i ddatgelu'r creaduriaid rhyfeddol sy'n byw yn eu gerddi drwy gymryd rhan yn y Sialens Wyllt
· Yr arolwg bywyd gwyllt diweddaraf yn dangos fod draenogod, llwynogod a thyrchod daear ymysg y creaduriaid mwyaf cyffredin a welwyd mewn gerddi neu fannau awyr agored ledled Cymru y llynedd.
· Dim ond ychydig lwcus a welodd rywogaethau eraill fel madfallod dwr cribog, nadroedd defaid, nadroedd gwair a chwilod corniog.
Mae arolwg newydd wedi datgelu mai draenogod, llwynogod a thyrchod daear yw'r creaduriaid mwyaf cyffredin sy'n ymgartrefu mewn gerddi ar draws y DU, gydag RSPB Cymru yn galw ar deuluoedd i fynd allan yr haf hwn i ddarganfod y bwyd gwyllt rhyfeddol sy'n byw yn eu mannau awyr agored.
Datgelodd canlyniadau'r arolwg o dros 8,000 o erddi yng Nghymru mai draenogod oedd yr ymwelwyr mwyaf cyffredin â gerddi, gydag un yn cael ei weld mewn 64% o fannau awyr agored. Yn bryderus iawn, ni wnaeth bron i chwarter y gerddi gofnodi gweld y mamal pigog hwn drwy gydol y llynedd. Yr oedd y patrwm hwn yn amlwg ar draws Lloegr, gyda'r ffigur yn codi'n agos i 30% yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd tyrchod daear yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser ar ben eu hunain, un ai'n cloddio rhwydwaith eang o dwneli neu'n chwilio am fwyd, a dim ond weithiau y byddant yn dod i'r wyneb. Roedd y creadur dirgel yn llawer mwy cyffredin yng Nghymru nac mewn mannau eraill gyda thros hanner y gerddi (58%) yn cael cipolwg ar un o dwmpathau cyfarwydd y twrch. Yr oedd madfallod dwr cribog yn llawer mwy prin, gyda'r ymlusgiaid celgar yn cael eu gweld mewn 6% o erddi yn unig yng Nghymru.
Yr oedd llwynogod yn ymwelwyr cyffredin eraill â mannau agored ledled Cymru, gyda un yn cael ei weld yn 61% o erddi, ond gwelwyd nadroedd gwair, nadroedd defaid a chwilod corniog gan lawer llai o bobl.
Meddai Gwyddonydd Cadwraeth yr RSPB, Daniel Hayhow: "Yn aml y bywyd gwyllt a welwn yn ein gerddi yw'r profiad cyntaf a gawn gyda natur - boed yn robin goch ar y ffens neu ddraenog yn snwffian o gwmpas yn chwilio am ei bryd nesaf. Yn anffodus, mae gweld a chlywed bywyd gwyllt a oedd unwaith yn gyffredin i ni wedi dod yn brofiad amheuthun i lawer o bobl.
"Mae pethau syml y gallwn eu gwneud er mwyn i'n gerddi fod yn ardaloedd perffaith i fywyd gwyllt. O greu gorsaf fwydo ar gyfer adar neu ddraenogod i gloddio pwll bychan i helpu amffibiaid, gall y gweithgareddau rhwydd hyn droi eich gardd yn hafan i fywyd gwyllt."
Gyda'r bywyd gwyllt ar stepen drws pobl yn dod yn gynyddol anghyfarwydd iddynt, mae RSPB Cymru yn galw ar deuluoedd i dreulio mwy o amser y tu allan yr haf hwn ac ail-gysylltu â'r natur sydd o'u cwmpas drwy ymgymryd â'r Sialens Wyllt.
Drwy wneud gweithgareddau hwyliog a difyr yn ymestyn o saffari bwystfilod bach ac archwilio pyllau rhwng creigiau, i greu caffi ar gyfer draenogod a phlannu ar gyfer bywyd gwyllt, gall teuluoedd gymryd eu camau cyntaf ar eu hantur wyllt eu hunain. Mae 24 o weithgareddau i ddewis ohonynt a fydd yn mynd â chi o'ch gardd gefn i archwilio trefi, dinasoedd, coetiroedd a hyd yn oed yr arfordir.
Dywedodd Rheolwr Teuluoedd yr RSPB, Paul Birmingham: "Mae mynd allan a darganfod natur yn bwysig waeth beth yw eich cymhelliant, - plant hapus ac iach, amser cofiadwy i'r teulu neu i weld ein trefi a'n cefn gwlad yn gyfoethocach drwy fyd natur. Dylai'r cyfle i gysylltu â natur fod yn rhan o fywyd pob plentyn ac mae Sialens Wyllt yr RSPB yma i helpu pob teulu i fynd ar eu hantur wyllt eu hunain."
Uchelgais yr RSPB yw i'r Sialens Wyllt gynorthwyo mwy o deuluoedd ledled y wlad i gywain manteision treulio amser yn yr awyr agored ynghanol byd natur. Dangosodd ymchwil4 fod plant sydd â chysylltiad iach â natur yn fwy tebygol o gyflawni'n uwch yn yr ysgol, bod â iechyd meddyliol a chorfforol gwell, a datblygu sgiliau cymdeithasol cryfach.
I ddysgu mwy am Sialens Wyllt yr RSPB a gweld sut y gallwch chi gymryd eich camau cyntaf ar eich antur bywyd gwyllt eich hun, ewch i www.rspb.org.uk/wildchallenge
1. Yr RSPB yw'r elusen cadwraeth natur fwyaf yn y DU, ac mae'n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Gyda'n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt dan fygythiad fel y bydd ein trefi, ein harfordir a'n cefn gwlad yn llawn bywyd unwaith eto. Rydym yn chwarae rhan arweiniol yn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o sefydliadau cadwraeth natur.
2. Rhoddodd 12,134 o'r rhai a gymerodd ran yn Gwylio Adar yr Ardd (8,082 o erddi) ledled Cymru wybodaeth am fywyd gwyllt arall sy'n ymweld â'u gerddi. Bu 24Dyma ganlyniadau cyffredinol Cymru:
2017 |
O leiaf unwaith y mis % |
O gwbl y flwyddyn hon % |
Erioed % |
Ddim yn gwybod % |
Llwynog |
29 |
61 |
25 |
14 |
Neidr y gwair |
8 |
12 |
62 |
24 |
Madfall ddwr gribog |
1 |
6 |
65 |
30 |
Draenog |
24 |
64 |
22 |
15 |
Twrch Daear |
44 |
58 |
32 |
10 |
Neidr ddefaid |
8 |
33 |
43 |
24 |
Chwilen gorniog |
4 |
16 |
43 |
41 |
Carlwm |
2 |
15 |
63 |
23 |
% newid 2016-17 |
O leiaf unwaith y mis % |
O gwbl y flwyddyn hon % |
Erioed % |
Ddim yn gwybod % |
Llwynog |
0 |
-2 |
-4 |
17 |
Neidr y gwair |
-38 |
-11 |
-6 |
25 |
Draenog |
-2 |
-1 |
-7 |
15 |
Neidr ddefaid |
-7 |
-6 |
-6 |
23 |
Carlwm |
-12 |
3 |
-10 |
44 |
3. Mae arolwg bywyd gwyllt Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB yn bartneriaeth rhwng RSPB, yr Ymddiriedolaeth Amffibiaid a Mamaliaid, Cymdeithas Mamaliaid a'r People's Trust for Endangered Species. Ym mis Ionawr bu dros 24,000 o bobl yn Nghymru yn gwylio ac yn cyfri 455,606 o adar fel rhan o Gwylio Adar yr Ardd 2017.
4. Yn ôl adroddiad Cysylltu â Byd Natur yr RSPB, dim ond un plentyn o bob wyth yng Nghymru sydd wedi cysylltu â byd natur. Mae'r RSPB yn credu y dylai cysylltu â byd natur fod yn rhan o fywyd bob plentyn - er mwyn meithrin teimladau ac agweddau dwfn at fywyd gwyllt a'r byd rydym yn byw ynddo. Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei gyflawni yn sgil cefnogaeth garedig Sefydliad Calouste Gulbenkian a Phrifysgol Essex.
Last Updated: Tuesday 28 August 2018