Adferiad Gwyrdd Cymru Llwyddiant wrth i gannoedd ddweud eu dweud yn rhithiol

Friday 24 July 2020

“Cyfiawnder amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol fydd tair colofn cynllun adfer Cymru o Covid-19,” cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fel rhan o ŵyl rithiol Adferiad Gwyrdd Cymru.

English version available here.

Cynhaliwyd yr ŵyl ar-lein am ddim, rhwng 20 a 23 Gorffennaf, ymunodd cannoedd o bobl mewn trafodaethau byw, gweithdai a gweithgareddau ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy gwyrdd.

Mae RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, WWF Cymru, Coed Cadw, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Coleg y Mynyddoedd Du, Tyfwyr a Ffermwyr Organig, y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad a'r Rhwydwaith Ffermwyr sy'n Gyfeillgar i Natur ymhlith y sefydliadau a'r elusennau a ymunodd i greu’r digwyddiad digidol yma.

Wrth lansio’r ŵyl cymeradwyodd y Prif Weinidog ymdrechion greadigol y trefnwyr i ddod â chyfranogwyr ynghyd gan gynnwys mwy o bobl yn y trafodaethau ar sut rydym ar y cyd yn siapio Cymru’r dyfodol.

“Mae coronavirus wedi bod yn her enfawr i bob un ohonom mewn cymaint o ffyrdd, ond ar yr un pryd mae wedi dangos creadigrwydd enfawr yn y ffordd y mae pobl wedi dod o hyd i wahanol ddulliau o ddod ynghyd.

“Rydym yn darganfod gwahanol ffyrdd o gyrraedd ac ennyn diddordeb mwy o bobl yn rhai o’r trafodaethau a’r sgyrsiau nag y byddem mewn ffyrdd mwy confensiynol,” meddai Mr Drakeford.

Roedd gweithio ar y cyd yn un o’r themâu a oedd yn codi trwy gydol yr ŵyl a gynhaliwyd dros bedwar niwrnod wrth i wleidyddion, lluniwyr penderfyniadau, arloeswyr ar draws y sectorau amgylcheddol, bwyd a ffermio, a’r cyhoedd ymuno â sgyrsiau ar y ffordd ymlaen i Gymru.

Gwelwyd dros 50 o weithgareddau ac 17 sesiwn fyw yn yr ŵyl, gyda thrafodaethau gafaelgar am argyfyngau hinsawdd a natur, sut rydym yn cynhyrchu ein bwyd, lles pobl yng Nghymru a'n hymateb i Covid-19.

Trwy gydol yr wythnos, rhannwyd negeseuon o gefnogaeth gan y cyflwynydd Iolo Williams, y ffermwr Gareth Wyn Jones, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe a Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar-lein.

I gloi’r ŵyl, gwahoddwyd cyfranogwyr i gyflwyno eu syniad ar sut rydym yn symud ymlaen i sicrhau adferiad gwyrdd i Gymru [1]. Dyma beth oedd gan rai o'r siaradwyr gwadd i'w ddweud:

Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Rebecca Williams:

“‘Mae ein bywydau’n rhy llawn, yn rhy gyflym ac yn rhy swnllyd. Mae angen tawelwch arnom. Mae angen harddwch arnom. Mae angen lle i anadlu arnom.’ Mae geiriau sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Octavia Hill yr un mor berthnasol heddiw ag oeddent 125 mlynedd yn ôl. Rhaid i’r Adferiad Gwyrdd gydnabod bod mynediad at natur, harddwch a hanes yn hanfodol i’n llesiant a rhaid i hyn fod yn ganolog i bolisïau’r dyfodol.”

Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton:

“Sefydlu cynllun cyflogadwyedd a hyfforddi Gweithlu Gwyrdd i ddiwallu’r anghenion cyflogaeth gyfredol, gan gynnwys darparu hyfforddiant newydd i bobl ifanc yn ogystal â rhai a wnaed yn ddi-waith yn ddiweddar i helpu i sicrhau swyddi gwyrdd a chyfrannu at adferiad cynefinoedd naturiol Cymru ac economi carbon niwtral.”

Cyfarwyddwr Coed Cadw, Natalie Buttriss:

“Taliadau cefnogi ffermydd y dyfodol i gynnwys cynllun Gwrychoedd ac Ymylon a fydd ar gael i bawb sy’n buddsoddi arian cyhoeddus yn seilwaith gwyrdd ffermydd gan roi cymorth uniongyrchol gweladwy i amaethyddiaeth gyda buddiannau cyhoeddus pendant i fywyd gwyllt, rheoli adnoddau dŵr a storio carbon.”

Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru:

“Yr unig beth sy'n sicr am ein dyfodol yng Nghymru yw’r angen am newid, mae angen i ni gofleidio hyn a gwneud penderfyniadau dewr os ydym am wireddu dyfodol cynaliadwy i'n plant. Rhaid mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas, ni ddylid gadael neb ar ôl a thrwy ddeall rôl natur wrth alluogi cymunedau cydlynol iach sy’n cael eu hamddiffyn rhag yr effeithiau mewn newid hinsawdd, gallwn ddechrau ar y siwrnai hon. Ein cam cyntaf ar y newid hwn fydd sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi a rhaid i hyn fod mewn Adferiad Gwyrdd a Chyfiawn.”

Anne Meikle, Cyfarwyddwr WWF Cymru:

“Mae gan Gymru ddyletswydd unigryw i edrych yn y tymor hir ar fuddiannau cenedlaethau'r dyfodol. Oherwydd yr argyfyngau natur ac hinsawdd, gwyddom mai'r materion mwyaf y byddant yn eu hwynebu fydd effeithiau dirywiad amgylcheddol a chwymp gwasanaethau ecosystem; a'r argyfyngau economaidd, cymdeithasol ac iechyd sy'n deillio o hynny. Rhaid i'r Llywodraeth fuddsoddi’n ddoeth i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan sicrhau swyddi hir dymor."

Cyfarwyddwr Black Mountains College, Ben Rawlence:

“Os ydym am gael dyfodol mwy gwyrdd rhaid ei addysgu. Nid oes dim y mae mwy o frys amdano na galluogi cenedlaethau’r dyfodol i wynebu heriau creadigol ac addasedig planed gynhesach a mwy ansicr.”

Cadeirydd Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur Cymru, Hilary Kehoe:

Cynnal ac ailgyfeirio taliadau uniongyrchol tuag at ffermio cyfeillgar i natur prif ffrwd: dylai polisi amaethyddiaeth newydd fod yn seiliedig ar arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus sy’n gwobrwyo ffermio cyfeillgar i natur a’r buddiannau amgylcheddol lluosog sy’n dod yn ei sgil.”

Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, Sue Pritchard: “Dylai pawb allu cael bwyd iach sy’n wedi’u gynhyrchu’n gynaliadwy. Mae cyswllt anorfod rhwng hyn a phenderfyniadau ar iechyd a llesiant, ffermio, defnydd o dir, adferiad natur a’r economi wledig. Er mwyn newid mewn ffordd deg, rhaid sicrhau buddsoddiad cyhoeddus i gyflawni uchelgais fframwaith cyfreithiol Cymru.”

Prif Weithredwr Ffermwyr a Thyfwyr Organig, Roger Kerr:

“Mae angen buddsoddi mewn rhaglenni ymchwil a datblygu agro-ecolegol a Chyfnewid Gwybodaeth. Bydd costau tymor hir, yn gymdeithasol ac economaidd, yn lleihau’n sylweddol drwy fynd i’r afael â’n heriau mwyaf drwy help i ffermwyr a busnesau wrth iddynt droi at systemau y profwyd sy’n amrywiol a chadarn.”

Am ragor o wybodaeth am Adferiad Gwyrdd Cymru ac i wylio trafodaethau panel yr ŵyl, ewch i: https://greenrecovery.wales

Diwedd

Tagged with: Country: Wales Topic: Wales Topic: Wales Topic: Wales