Adroddiad newydd yn canfod bod traean o adar Cymru yn dirywio

Danny Griffith

Thursday 6 December 2018

Kittiwake Rissa tridactyla, adult in flight

Mae Sefyllfa Adar yng Nghymru 2018 hefyd yn pwysleisio’r rôl hanfodol y mae gwyddoniaeth dinasyddion yn ei chwarae o ran achub ein rhywogaeth rhag difodiant.

English version available here.

Dangosa adroddiad partneriaeth newydd, adroddiad Sefyllfa Adar yng Nghymru 2018, fod traean o niferoedd ein rhywogaethau adar paru a gaeafu yn dirywio’n sylweddol – gan bwysleisio’r angen cadwraeth brys i ddiogelu rhai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig.

Mae adroddiad Sefyllfa Adar yng Nghymru 2018 yn siop un stop o ganlyniadau arolygon pwrpasol blynyddol, cyfnodol, ac unigol a gynhaliwyd ledled Cymru. Fe’i lluniwyd gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO), Cymdeithas Adaryddol Cymru (WOS), Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) a RSPB Cymru.

Pwysleisia’r adroddiad y ffordd y mae adar paru o gynefinoedd ucheldir a ffermdir, megis gylfinirod, cwtiaid aur, grugieir duon, grugieir a mwyeilch y mynydd, wedi profi gostyngiad yn eu niferodd. Tra bod Cymru’n cynnal dros hanner y boblogaeth brain coesgoch yn y Deyrnas Unedig ac Ynys Manaw a bod niferoedd yng Nghymru’n sefydlog yn gyffredinol, ceir pryder go iawn am y dirywiad yn niferoedd y rhai sy’n paru’n fewndirol yng ngogledd Cymru ac yng nghanolbarth Cymru ers 2002. Yn ogystal, dangosodd yr adroddiad fod niferoedd gwylanod coesddu sy’n paru wedi dirywio 35% yng Nghymru ers 1986, tra bod ystod baru’r gwylanod penddu wedi gostwng 52% ers 1970.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio ein bod mewn perygl gwirioneddol o fethu â dysgu o hanes. Mae llawer o rywogaethau eisoes wedi diflannu o Gymru, megis breision yr ŷd, hutanod ac eosiaid o ganlyniad i’r amgylchedd a hinsawdd yn effeithio ar eu cynefinoedd a’u strategaethau atgenhedlu.

Dangosa’r adroddiad fod Cymru’n gartref i gyfran fawr o boblogaethau’r Deyrnas Unedig o rhywogaethau paru a gaeafu. Mae Cymru’n cynnal dros hanner poblogaethau paru’r gwybedogion brith a’r tingochiaid yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â thros chwarter o boblogaethau paru boda’r mêl, gwalch marth, telor y coed, y barcud a gigfran y Deyrnas Unedig. Mae Cymru’n cynnal poblogaethau pwysig o adar y môr a chanddi gyfrifoldeb byd-eang am adar drycin Manaw, a chanfu hyd at 60% o boblogaeth baru’r byd ar bedair ynys Gymreig (Ynys Sgomer, Ynys Sgogwm, RSPB Ynys Dewi ac Ynys Enlli). Mae ynys arall oddi ar arfordir Sir Benfro, Gwales, yn cynnal huganfa sydd ymhlith y tri mwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Cynhelir y rhan fwyaf o waith monitro adar yng Nghymru gan wirfoddolwyr2 sy’n cyfrannu dros 5,000 o oriau o’u harbenigedd bob blwyddyn i arolygon a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn. Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn chwarae rôl hanfodol o ran arbed rhywogaethau Cymru rhag difodiant a cheir digon o gyfleoedd i bobl gymryd rhan, a chynorthwyo â’r wyddoniaeth, trwy ymyrraeth ymarferol neu drwy ddangos cefnogaeth i fywyd gwyllt ledled Cymru. I ddysgu mwy am sut gallwch gymryd rhan, ewch i wefan y sefydliadau sy’n gyfrifol am yr adroddiad.

Meddai Neil Lambert, Pennaeth Rheoli Cadwraeth RSPB Cymru: “Mae’n annerbyniol i ni fod traean o niferoedd adar Cymru’n dirywio’n sylweddol ac ni chafwyd amser mwy hanfodol erioed i gymryd rhan yn y frwydr dros ddyfodol byd natur. Y cyhoedd yw’r cynhwysyn hollbwysig o ran newid y lefelau dirywio trwy ein galluogi i ddarganfod mwy am eu trafferthion a helpu i ddiogelu eu dyfodol.

“Mae 90% o Gymru’n dir amaeth ac mae arferion byd amaeth yn cael effaith enfawr ar adar a bywyd gwyllt arall. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle unigryw i ddatblygu polisïau rheoli tir newydd i Gymru a fydd yn helpu amaethwyr i adfer byd natur. Bydd ein cymunedau a’n cenedlaethau yn y dyfodol yn dlotach heb glywed galw’r gylfinir neu weld arferion paru y grugiar du ac rydym yn werthfawrogol i bawb a roddodd ei amser pwysig i helpu i lunio’r adroddiad hwn.”

Meddai Patrick Lindley, Adaregwr y Môr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Y problemau sy’n wynebu adar y Deyrnas Unedig, boed yn adar paru ai peidio, yw pwysau a bygythiadau sy’n wynebu ecosystemau cyfan

“Mae adar yn ddangosyddion da o iechyd ein hamgylchedd. Mae’r dirywiadau parhaol ym mhoblogaethau adar mewn cynefinoedd amaeth, cynefinoedd coetir a chynefinoedd ucheldiroedd yn awgrymu bod themâu daearyddol mawr sy’n cael effaith niweidiol.

“Ceir optimistiaeth i rai rhywogaethau. Mae’r llwyddiant diweddar o ran paru adar y bwn, bodaod y gwern a garanod yng Nghymru’n dangos yr hyn y gellid ei wneud trwy adfer ecosystemau corsleoedd a thiroedd gwlybion ar raddfeydd priodol.

“Fodd bynnag, profir achos brys o ran cadwraeth, sy’n annhebyg i unrhyw beth a brofwyd eisoes i adnabod ac i weithredu’r mecanweithiau i atal dirywiad yn niferoedd adar yng Nghymru o fewn egwyddorion rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy ac o fewn ein cydfodolaeth â’r byd naturiol.”

Meddai Kelvin Jones, BTO Cymru: “Mae Cymru’n lle arbennig iawn i adar, fel y dangosir gan y poblogaethau pwysig y mae’n eu cynnal, mae’n anodd gweld y gwybedog brith, tingoch, a telor y coed unman arall ym Mhrydain. Mae’n bwysig iawn i ni beidio â thanbrisio pwysigrwydd Cymru, a’n bod yn parhau i gasglu data o ansawdd uchel i helpu i sicrhau bod yr adar hyn yn parhau i fod gyda ni yn y dyfodol. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolygon amrywiol, heboch chi byddai’r darlun yn llai clir o lawer.”

Meddai Mick Green, Cadeirydd Cymdeithas Adareg Cymru: “Mae’r arolwg hwn yn dangos bod Cymru mewn perygl go iawn o golli rhai o’n hoff adar o’n cefn gwlad. Mae aelodau WOS ymhlith y cyfranogwyr mwyaf gweithredol sy’n dogfennu’r newidiadau hyn ac sy’n awyddus i helpu i adfer niferoedd yr adar; ond bydd angen penderfyniad gwleidyddol ac adnoddau go iawn i wirfoddolwyr chwarae eu rôl gyflawn ac i ddefnyddio eu gwybodaeth i helpu i natur adfer.”

Cewch weld yr adroddiad llawn yma.

Tagged with: Topic: Wales