Caerdydd yn dod yn fyw gyda 100 o bobl, 100 o ddawnsfeydd a 100 o fannau gwyrdd

Eleri Wynne

Thursday 20 April 2017

Mae Boombox Caerdydd yn eich gwahodd i ddathlu pobl a llefydd chwedlonol Caerdydd y gwanwyn hwn

O Stadiwm Principality a'r Cynulliad Cenedlaethol i Ganolfan y Mileniwm a Chastell Caerdydd, mae prifddinas Cymru, sy'n enwog am ei chwtsh cyfeillgar a'i chroeso cynnes Cymreig, yn sicr yn le eiconig.

Wrth i ni ddathlu Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru yn 20176, hoffai RSPB Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a Migrations eich gwahodd i ddathlu llefydd gwyllt chwedlonol Caerdydd drwy ddawnsio ym mannau gwyrdd bendigedig y brifddinas. Mewn cydweithrediad â'r artist o America, Ely Kim5, bydd Boombox Caerdydd1 yn dod â 100 o bobl ynghyd i gael eu ffilmio'n dawnsio i'w hoff gerddoriaeth yn eu hoff fannau gwyrdd yn y ddinas - gan ddathlu a mynegi eu cysylltiad â byd natur a'r mannau maen nhw'n eu mwynhau fwyaf. Dywedodd Rheolwr Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd RSPB Cymru, Carolyn Robertson: "Ers 2014, mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd2 wedi ennyn diddordeb dros 20,000 o bobl ym mywyd gwyllt rhyfeddol Caerdydd. Ond gyda dros 400 o fannau gwyrdd ar draws y ddinas, Boombox Caerdydd yw'r cyfle perffaith i bobl Caerdydd roi sylw i'r mannau sy'n golygu rhywbeth iddyn nhw - a dathlu'r llefydd a'r bobl sy'n rhoi ein dinas chwedlonol ar y map."

O Barc hyfryd Bute, a siapiwyd gan yr eicon Andrew Pettigrew, i Ynys Echni - ynys wyllt y ddinas yn yr aber a'r man lle trosglwyddwyd signal di-wifr gan yr enwog Marconi - mae gan Gaerdydd bob math o lefydd eiconig i ddawnsio ynddyn nhw. Gallech roi clod i'n hadar gleision chwedlonol drwy ddawnsio yn Stadiwm Dinas Caerdydd, neu yng Ngerddi'r Orsedd ochr yn ochr â'r gwleidydd enwog, David Lloyd George. Neu efallai yr hoffech chi anrhydeddu'r Dyn Gwyrdd mytholegol ym Mharc Thompson, a dathlu natur yn ei holl ogoniant y gwanwyn hwn? Chi piau'r dewis. Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw dweud wrthym ble mae'ch hoff fan gwyrdd a pha drac fyddech chi'n hoffi dawnsio iddo ac fe wnawn ni'r gweddill. Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Migrations, Karine Décorne: Yr hyn sy'n wych am Boombox Caerdydd yw nad oes rhaid i chi fod yn ddawnsiwr proffesiynol i gymryd rhan - gall unrhyw un, yn ifanc neu'n hen ymuno. Yr hyn sy'n bwysig yw cael hwyl a phrofi pleser dawnsio. Rydym wedi bod yn brysur yn ffilmio rhai o drigolion eiconig Caerdydd dros y gaeaf ar gyfer Boombox, ond wrth i'r dydd ymestyn ac wrth i'r tywydd gynhesu, bydd yn bleser anrhydeddu mannau gwyllt y ddinas wrth iddyn nhw groesawu'r gwanwyn."

Mae Boombox Caerdydd yn dilyn llwyddiant Boombox Eryri yng ngogledd Cymru, lle bu 100 o bobl yn dawnsio i'w hoff ganeuon mewn 100 o lefydd ar draws Eryri. Bydd y ffilm fer ar gyfer Boombox Caerdydd yn cael ei dangos yn hwyrach yn y flwyddyn yng Nghaerdydd i anrhydeddu cymunedau'r ddinas a'i mannau gwyllt.

Dywedodd Swyddog Cadwraeth i Gyngor Dinas Caerdydd, Nicola Hutchinson: "Mae Caerdydd, gyda'i mannau gwyrdd a'i pharciau hyfryd, ei harwyr chwaraeon a'i heiconau diwylliannol, yn sicr yn ddinas o fri. Rydym ni'n lwcus iawn ein bod yn byw mewn dinas sy'n llawn o bobl eiconig sy'n helpu i wneud Caerdydd yn unigryw. Mae'r prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn helpu i gysylltu miloedd o bobl â natur ledled y ddinas, a drwy Boombox Caerdydd, rydym am ddathlu'r bobl sy'n helpu i wneud Caerdydd yn chwedlonol - gan anrhydeddu ein mannau hanesyddol a mawrion heddiw."

Os oes gennych chi awydd gwisgo eich sgidiau dawnsio a bod yn rhan o Boombox Caerdydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ewch i http://migrations.uk/Boombox+Cardiff i gael rhagflas ac i gofrestru am ddim.

1. Mae Boombox Caerdydd yn gydweithrediad â'r artist Ely Kim o Unol Daleithiau America, lle byddwn yn ffilmio 100 o bobl yn dawnsio i'w hoff gerddoriaeth yn eu hoff fannau gwyrdd yng Nghaerdydd. Bydd y ffilm yn dathlu dawnsio, Caerdydd wyllt a'i chymunedau, a bydd yn cael ei dangos mewn lansiad cyhoeddus arbennig yn y ddinas yn haf 2017. Gall unrhyw un - yn hen neu'n ifanc, sy'n byw, yn gweithio neu'n chwarae yng Nghaerdydd - gymryd rhan. Nid oes rhaid i chi fod yn ddawnsiwr proffesiynol ac nid oes angen profiad blaenorol. I gofrestru neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://migrations.uk/Boombox+Cardiff

2. Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yw prosiect blaenllaw RSPB Cymru, sy'n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd a'i gyllido gan y Gronfa Loteri Fawr hyd at 2022. Mae'r prosiect wedi ennyn diddordeb dros 20,000 o blant a'u teuluoedd ledled Caerdydd mewn bywyd gwyllt; gan eu hannog i gysylltu â byd natur ar eu stepen drws a chymryd camau i'w gefnogi. Yr RSPB yw'r elusen cadwraeth natur fwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Gyda'n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt dan fygythiad fel y bydd ein trefi, ein harfordir a'n cefn gwlad yn llawn bywyd unwaith eto. Rydym yn chwarae rhan arweiniol yn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o sefydliadau cadwraeth natur. www.rspb.org.uk

3. Wedi ei sefydlu yn 2004, daw Migrations â chelfyddydau cyfoes rhyngwladol i Gymru gan ddatblygu cydweithrediadau, comisiynau a phartneriaethau arloesol yng Nghymru a thu hwnt. Mae prosiectau wedi cynnwys perfformiadau, arddangosfeydd, dangosiadau a gweithdai. Y Cyfarwyddwr Artistig yw Karine Décorne. Cefnogir Migrations gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn. www.migrations.uk

4. Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gyfrifol am ddarparu dros 700 o wasanaethau bob blwyddyn i'r 352,000 o bobl sy'n byw ym mhrifddinas Cymru. Mae ei Gynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn y bydd y Cyngor yn ei wneud, a sut bydd yn gweithio gyda phartneriaid o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gyflawni ein gweledigaeth o fod yn brifddinas orau Ewrop i fyw ynddi. www.caerdydd.gov.uk

5. Mae Ely Kim yn Gyfarwyddwr Celfyddydol sy'n gweithio yn Brooklyn, Efrog Newydd. Yn ei eiriau ei hun, ei ddylanwadau mwyaf fu "magwraeth yn Las Vegas, cwn bach a chrisialau!" Yn ei Boombox gwreiddiol, ffilmiodd Ely ei hun yn dawnsio'n gyfrinachol mewn 100 o leoedd dros 100 o ddiwrnodau. http://www.welikehim.com

6. Cyhoeddwyd Llywodraeth Cymru mai 2016 oedd y Flwyddyn Antur yng Nghymru, sef rhan o ymgyrch dwristiaeth ehangach sy'n gweld 2017 yn cael ei dathlu yn Flwyddyn y Chwedlau a 2018 yn Flwyddyn y Môr. www.croesocymru.com

Last Updated: Tuesday 28 August 2018

Tagged with: Country: Wales Topic: Giving Nature a Home