Canfod cigfran wedi’i gwenwyno ar waun Rhiwabon

Danny Wyn Griffith

Friday 31 May 2019

  • Cafodd yr aderyn marw ei ganfod ar yr un stâdger Wrecsam, wrth ymyl yr ardal lle diflannodd dau fod tinwyn â thagiau lloeren yn ddiweddar.
  • Mae’r heddlu bellach yn gofyn am wybodaeth gan y cyhoedd.

Gallwn gadarnhau bod cigfran a gafodd ei chanfod wedi marw ar Ros Rhiwabon ger Pen Draw’r Byd, gogledd Cymru, wedi cael ei gwenwyno’n fwriadol - ac mae’r heddlu wedi dechrau ymchwilio i’r mater.

Dyn a oedd wedi bod allan yn tynnu lluniau o adar wnaeth ddarganfod yr aderyn marw, ar 28 Awst 2018. 

Dywedodd: “Roeddwn i ar y ffordd adref o Wrecsam pan sylwais ar aderyn ar y llawr, ychydig oddi ar y ffordd ar ddarn bach o laswellt. Roedd ar ei ben i lawr, ei lygaid wedi suddo a’i draed i fyny yn yr awyr. Nid oedd yn edrych fel pe bai wedi marw ers hir.”

Roedd yn credu bod yr aderyn wedi cael ei saethu, felly cysylltodd ag Uned Ymchwiliadau’r RSPB. Ar ôl cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru, trefnodd Llywodraeth Cymru brofion tocsicoleg ar yr aderyn. Datgelwyd fod y gigfran wedi cael ei gwenwyno’n fwriadol â’r pryfladdwr gwenwynig iawn, bendiocarb. Mae’n debyg ei fod wedi cael ei roi ar abwyd. Nid yw ymholiadau gan yr heddlu yn yr ardal wedi arwain at ganfod pwy oedd yn gyfrifol. 

Mae cigfrain yn cael eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae lladd cigfran yn drosedd, a gallai arwain at ddirwy ddiderfyn neu garchar am hyd at chwe mis.

Mae Rhos Rhiwabon yn cynnwys nifer helaeth o’r boblogaeth grugieir duon yng Nghymru ac mae hefyd yn ardal sy’n cael ei rheoli ar gyfer saethu grugieir cochion. Yn 2018, fe aeth diflannodd dwy foda tinwyn o’r enw Heulwen ac Aalin. Roedd y ddwy wedi’u gosod â dyfais tracio lloeren fel rhan o’r broject Hen Harrier LIFE Project sydd wedi’i ariannu gan yr UE.

Yn ôl Jenny Shelton o Uned Ymchwiliadau’r RSPB: “Mae’n ymddangos nad oes croeso i gigfrain ac adar ysglyfaethus yn yr ardal hon, ac yn naturiol, bydd pobl yn gofyn pam. Mae hanes ar hyd a lled y DU o adar ysglyfaethus a chigfrain yn cael eu targedu ar ardaloedd sy’n cael eu rheoli ar gyfer saethu grugieir. Mae hyn oherwydd bod pobl yn credu bod yr ysglyfaethwyr naturiol hyn yn fygythiad i’r grugieir. Ond, mae’r ddeddf yn glir: mae lladd adar ysglyfaethus a chigfrain yn groes i’r gyfraith.

“Hefyd, mae rhoi gwenwyn mewn ardal gyhoeddus yn rhywbeth anghyfrifol iawn i’w wneud. Bydd nifer o bobl yn dod â’u teuluoedd i lefydd fel hyn wrth i’r tywydd gynhesu. Mae’n ofnadwy meddwl y gallai plentyn neu anifail anwes fod wedi dod o hyd i’r aderyn hwn. Rhaid rhoi stop ar y troseddau hyn cyn i rywun gael niwed difrifol.”

Hefyd, meddai Jenny: “Mae nifer y cigfrain yn dechrau cynyddu yn y DU ar ôl degawdau o gael eu herlid, ac mae Cymru yn gadarnle pwysig ar gyfer yr adar trawiadol hyn. Yn anffodus, mae’r gwanwyn - sef dechrau’r tymor nythu - yn gyfnod lle mae adar ysglyfaethus a chigfrain yn cael eu lladd yn anghyfreithlon. Os byddwch chi’n sylwi ar aderyn ysglyfaethus wedi marw ar y llawr mewn amgylchiadau amheus, ffoniwch yr heddlu ar unwaith.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru nawr yn apelio am ragor o wybodaeth.

Dywedodd Rob Taylor, Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae lladd aderyn yn fwriadol â gwenwyn yn arwain at risg ddifrifol i bobl ac anifeiliaid eraill, fel rhai adar ysglyfaethus penodol sy’n mynd i’r ardal. Rydyn ni’n parhau gyda’n hymchwiliad, ac yn gofyn i aelodau’r cyhoedd sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni neu ffonio Crimestoppers Cymru yn ddienw.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwn, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Os byddwch chi’n canfod aderyn ysglyfaethus gwyllt ac yn amau ei fod wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon, cysylltwch â thîm ymchwiliadau’r RSPB ar 01767 680551 neu lenwi’r ffurflen ar-lein: https://www.rspb.org.uk/our-work/our-positions-and-campaigns/positions/wildbirdslaw/reportform.aspx

Neu, i siarad yn gyfrinachol am adar ysglyfaethus sy’n cael eu herlid yn eich ardal chi, ffoniwch y Llinell Frys ar gyfer Troseddau’n Ymwneud ag Adar Ysglyfaethus: 0300 999 0101. Dim ond ar gyfer materion sy’n gysylltiedig ag adar ysglyfaethus y mae’r rhif hwn.

DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, ac i drefnu cyfweliad, cysylltwch â: Jenny Shelton, swyddog cyswllt ymchwiliadau’r RSPB, ar 01767 693087 neu jenny.shelton@rspb.org.uk

Ffotograffau a chyfweliadau radio:

Cysylltwch â Jenny Shelton i gael rhagor o luniau neu i drefnu cyfweliad radio ISDN o safon ar gyfer darlledu.

Tagged with: Topic: Wales