
Mi fydd mis Gylfinir Mewn Gofid yn gorffen gyda digwyddiad arbennig yng Ngŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll
Ddydd Gwener 1 Mehefin, bydd RSPB Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig yng Ngŵyl y Gelli 2018 i godi ymwybyddiaeth o'r gylfinir, mewn partneriaeth â Mary Colwell, yr Awdur, y Cynhyrchydd a’r Cadwraethwr nodedig.
Bydd gwesteion yn mwynhau sgwrs â darluniau am lyfr Mary, y mae newydd ei gyhoeddi, sef Curlew Moon, sy'n mynd â’r darllenydd ar stori ddarganfod ysgafn, sy'n cyd-fynd â hanes naturiol y gylfinir sydd wedi ein hysbrydoli ers sawl mileniwm. Fel rhan o'r digwyddiad, cynhelir trafodaeth banel unigryw â Martin Harper, Cyfarwyddwr Cadwraeth Fyd-eang RSPB a Mark Isherwood AC, Aelod Cynulliad Cymru a Pencampwr Rhywogaethau y Gylfinir, wrth iddynt edrych ar ddyfodol mwy disglair i'n bywyd gwyllt sydd fwyaf dan fygythiad.
Bydd y digwyddiad yn dathlu diwedd Mis Gylfinir Mewn Gofid yr RSPB sy'n cael ei gynnal drwy gydol fis Mai, gan dynnu sylw at y problemau sy'n wynebu gylfinirod drwy feithrin cefnogaeth i’w cadwraeth drwy gyfres o deithiau cerdded a digwyddiadau ledled y DU.
Mae nifer y gylfinirod yn gostwng yn gyflym
Yn anffodus, mae ofnau cynyddol y gellid colli gylfinirod bridio2 o Gymru yn yr ychydig ddegawdau nesaf os nad yw eu ffawd yn gwella. Mae nifer y gylfinirod yng Nghymru wedi gostwng 80% ers y 1980au, mae parau bridio bron â diflannu o ardaloedd o dir isel, ac er eu bod yn dal yn weddol gyffredin yn yr ucheldiroedd, mae eu niferoedd yn isel a dim ond i ddal ar mewn pocedi. Oherwydd y gostyngiad dramatig, mae gylfinirod bellach ar Restr Goch adroddiad Adar o Bryder Cadwraethol3 yng Nghymru - sy'n tynnu sylw pellach at yr angen i weithredu ar frys.
Mae gan ffermwyr a thirfeddianwyr rôl hollbwysig i’w chwarae yn nyfodol y gylfinir. O Sorcha Davies ar ei fferm yng Nghwm Elan, John Jones yn Nhŷ Uchaf Eidda ym Metws y Coed a Tony Davies yn Fferm Henfron, mae RSPB Cymru yn gweithio'n agos5 gyda nifer o ffermwyr yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn gallu darparu cynefin addas ar gyfer y rhywogaeth eiconig hon.
Yr haf hwn, bydd amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion yn gwneud arolwg o ylfinirod bridio, gan ddysgu lle maen nhw a chysylltu â’r ffermwyr a’r tirfeddianwyr sy'n gallu rheoli eu tir er mwyn rhoi cartref i ylfinirod.
Dywedodd Stephen Bladwell, Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru: “Mae amser yn brin i warchod y gylfinir. Mae angen i ni weithredu nawr oherwydd os na wnawn ni, mae’n debyg y byddant wedi diflannu o Gymru mewn cenhedlaeth - gan ddiflannu o’r cof ar ôl hynny. Fodd bynnag, does dim modd i unrhyw sefydliad nac unigolyn wneud hyn ar ei ben ei hun. Mae yna ffermwyr a rheolwyr tir ledled Cymru a’r DU hefyd yn gweithio'n galed i helpu’r gylfinir i fridio'n llwyddiannus ar eu tir. Drwy weithio gyda’r ffermwyr a’r tirfeddianwyr hyn, a drwy dreialu dulliau rheoli newydd yn y gobaith o wella pa mor llwyddiannus ydynt yn bridio, ein gobaith yw y bydd gan y gylfinir ddyfodol mwy disglair yma yng Nghymru.”
Meddai Mary Colwell, y cadwraethwr ac awdur Curlew Moon: “Byddai colli’r gylfinir yng Nghymru yn golygu mwy na cholli dim ond un rhywogaeth arall. Mae’r gylfinir yn rhan annatod o dreftadaeth Cymru, roedd eu cri atgofus yn ysbrydoliaeth i feirdd megis Dylan Thomas. Mae rhostiroedd, mynyddoedd, dolydd a’r gylfinir yn perthyn i’w gilydd - ac rwy'n gobeithio, drwy weithio mewn partneriaeth â nifer o wahanol sectorau, y gallwn wneud yn siŵr y byddant yn parhau i chwarae eu rhan yng nghyfoeth hanes naturiol Cymru.”
Os hoffech fynd i ddigwyddiad Curlew Moon, gallwch brynu tocynnau drwy wefan Gŵyl y Gelli yn: bit.ly/CurlewMoon
DIWEDD
Dilynwch newyddion diweddaraf RSPB Cymru ar Twitter drwy @RSPBCymru
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Danny Griffith, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru, ar 01248 672850 / Danny.Griffith@rspb.org.uk
Ffotograffau:
Am ddetholiad o ddelweddau, cysylltwch â Danny Griffith
Nodiadau i olygyddion:
1.Yr RSPB yw'r elusen cadwraeth natur fwyaf yn y DU, ac mae'n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Gyda'n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt dan fygythiad er mwyn sicrhau y bydd ein trefi, ein harfordir a'n cefn gwlad yn llawn bywyd unwaith eto. Rydym yn chwarae rhan arweiniol yn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o sefydliadau cadwraeth natur.
2.Y gylfinir yw aderyn hirgoes mwyaf Ewrop. Mae’n hawdd iawn ei adnabod gyda'i big crwm hir, y stribynnau brith, brown ar ei gorff, a’i goesau hir. Ac yntau'n aderyn eiconig ar dir fferm a rhostir agored, mae'n adnabyddus am ei gri a'i gân iasol. Mae’r gylfinir yn gadael y tiroedd uchel ar ddiwedd y tymor bridio ac yn treulio’r gaeaf mewn ardaloedd arfordirol lle maen nhw'n bwyta.
3.Cwmni HarperCollins Publishers sydd wedi cyhoeddi ‘Curlew Moon’. Gyda threftadaeth sy'n deillio'n ôl 200 o flynyddoedd, HarperCollins yw un o gyhoeddwyr llyfrau mwyaf blaenllaw y byd, gyda chatalog yn amrywio o ffuglen gyfoes arloesol i apiau sydd wedi ennill gwobrau a phopeth yn y canol.
4.Mae Gŵyl y Gelli yn dod â darllenwyr ac awduron ynghyd i rannu straeon a syniadau mewn digwyddiadau cynaliadwy ledled y byd. Mae’r gwyliau yn ysbrydoli, yn archwilio ac yn diddanu, gan wahodd cyfranogwyr i ddychmygu’r byd fel y mae ac fel y gallai fod. Yn 2018, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 24 Mai a 3 Mehefin.
5.Mae ein gwaith gyda’r ffermwyr hyn yn cynnwys torri llystyfiant a sicrhau lefelau pori addas er mwyn cael mosaig o lystyfiant talach, twmpathog ac ardaloedd gwelltog byrrach ar gyfer nythu a bwydo. Gall adfer ardaloedd gwlyb drwy gloddio ffosydd ac adfer gweirgloddiau llawn blodau hefyd wella cynefinoedd ar gyfer bwydo a nythu.
Last Updated: Tuesday 28 August 2018