Cyhoedd Cymru yn aros efo natur - wrth i sgrech y coed esgyn i fyny’r siartiau

Friday 8 April 2022

Cyhoedd Cymru yn aros efo natur - wrth i sgrech y coed esgyn i fyny’r siartiau

English available here.

Gwylio Adar yr Ardd yw arolwg bywyd gwyllt mwyaf y byd ac mae’n rhoi cipolwg i wyddonwyr yr RSPB ar sefyllfa'r adar yn ein gerddi.

36,269 o bobl wedi dychwelyd 21,368 o arolygon yng Nghymru, sy’n dangos gwelliant aruthrol o’i gymharu â’r niferoedd cyn cyfnod clo Covid

Yn cael ei gynnal ers 43 o flynyddoedd eleni, mae Gwylio Adar yr Ardd yn gyfle i bobl o bob oed gyfrif nifer yr adar sy’n ymweld â’u gardd, gan helpu’r RSPB i gael cipolwg ar sefyllfa’r adar hyn. Cymerodd dros 36,000 o bobl ran yng Nghymru eleni, gan gyfrif bron i 71,2641 o adar.

Er bod gwylio adar 2021 wedi digwydd pan oedd Cymru yn y cyfnod clo, gan olygu y dychwelwyd nifer anarferol o fawr o arolygon, rydyn ni’n falch o ddweud ein bod ni wedi gweld llawer o’r bobl hynny’n aros gyda ni am flwyddyn arall – wrth i ni weld dros 36,000 o bobl yn cymryd rhan, gwelliant enfawr ar yr ychydig dros 24,000 yn 2020. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae llawer o bobl wedi cofleidio’r byd natur ar garreg eu drws, ac rydyn ni’n falch iawn o weld cynifer yn parhau i wneud hynny.

Yn ôl y disgwyl, roedd aderyn y to ar frig y rhestr, ond y syndod eleni yw bod sgrech y coed wedi llamu 11 cam fyny’r siartiau i rif 22 – cynnydd o 296% o’i gymharu â niferoedd 2021. Bob hydref, gellir gweld sgrechod y coed, aelodau lliwgar o deulu’r brain, yn hedfan yn ôl ac ymlaen i ganfod a chuddio mes i’w cynnal drwy’r gaeaf. Mae’r rhain wedyn yn cael eu cuddio yng nghraciau ac agennau coed, ond hefyd mewn pentyrrau o ddail ar y llawr. Gall sgrech unigol storio tua 8,000 o fes bob blwyddyn ac mae llawer ohonynt yn parhau wedi’u claddu gan dyfu’n goed derw.

Dywedodd Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Alun Prichard:

“Dydyn ni ddim yn gwybod y rhesymau dros y cynnydd sydyn a welwyd yn nifer sgrechod y coed eleni. Efallai fod hynny oherwydd y bwyd sydd ar gael gan y cafwyd adroddiadau bod y llynedd yn flwyddyn wael am fes, ond beth bynnag fo’r rheswm mae gweld yr aderyn syfrdanol hwn yn ddigon i godi ysbryd rhywun unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn, heb sôn am ar benwythnos diflas ym mis Ionawr.

“Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan eto eleni, yn rhoi o’u hamser i wylio ac ailgysylltu ag adar ac yna’n cyflwyno’r hyn a welsant yn hael iawn i helpu gwyddonwyr yr RSPB gael cipolwg ar sut mae adar yr ardd yn ymdopi.”

Mae canlyniadau Gwylio Adar yr Ardd hefyd wedi gweld cynnydd bach yn y Llinos werdd o’i gymharu â 2021. Mae hyn yn rhoi llygedyn o obaith i wyddonwyr y gallai hyn fod yn arwydd cyntaf o adferiad, ond dim ond amser a ddengys. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Llinos werdd wedi dioddef cwymp yn y boblogaeth (62% yn y DU er 1993) a achoswyd gan achos difrifol o’r clefyd trichomonosis ac o ganlyniad ychwanegwyd y rhywogaeth at restr Goch y DU y llynedd. Mae’r haint hwn yn cael ei ledaenu drwy fwyd a dŵr yfed wedi’u halogi, neu gan adar yn bwydo ei gilydd gyda bwyd wedi’i ailgyfogi yn ystod y tymor magu. Gall perchnogion gerddi helpu i arafu cyfraddau trosglwyddo drwy roi’r gorau i ddarparu bwyd dros dro os gwelir adar sâl a gwneud yn siŵr bod teclynnau bwydo adar yr ardd yn cael eu glanhau’n rheolaidd.

Unwaith eto, aderyn y to oedd ar frig rhestr Gwylio Adar yr Ardd fel yr aderyn a welir amlaf, gyda 141,850 wedi’u gweld a’u cofnodi dros y penwythnos. Arhosodd y drudwy a’r titw Tomos las yn safleoedd dau a thri yn y drefn honno.

Dros bedwar degawd mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd wedi bod yn tynnu sylw at enillwyr a chollwyr byd adar yr ardd. Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf i dynnu sylw’r RSPB at y gostyngiad yn niferoedd y fronfraith, sy’n dal 81% yn is nag yr oeddent yn y digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd cyntaf yn 1979. Roedd y rhywogaeth hon mewn safle gadarn yn y 10 uchaf yn 1979. Erbyn 2009, roedd y niferoedd yn llai na hanner y rhai a gofnodwyd yn 1979, ac chyrhaeddodd rif 23 yn y rhestr eleni, gan gael ei gweld mewn dim ond 12.3% o erddi Cymru.

Yn ystod hanner cyntaf tymor y gwanwyn, bu plant mewn ysgolion ledled y wlad yn cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol. Treuliodd bron i 2,971 o blant ysgol a’u hathrawon awr ym myd natur yn cyfrif yr adar – gyda’r aderyn du unwaith eto’n cadw’i le ar y brig fel yr aderyn a welwyd amlaf yn ysgolion Cymru.

Ychwanegodd Alun:

“Ein gobaith yw y gallwn barhau i gasglu cymaint o gefnogaeth a momentwm ag yr ydym wedi’i weld gyda’r digwyddiad Gwylio Adar yng Nghymru – gan symud ymlaen ac ymlaen tuag at adferiad gwyrdd a fydd yn golygu ein bod ni’n rhoi byd natur wrth galon pob agwedd wahanol ar y ffordd y mae Cymru fel gwlad yn gweithredu – boed hynny o ran ein hamgylchedd, ein hiechyd neu ein heconomi. Wedi’r cyfan, mae eleni’n flwyddyn hollbwysig i natur a hinsawdd Cymru, wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth newydd drwy’r Bil Amaethyddiaeth.”

I gael rhagor o wybodaeth, ac i drefnu cyfweliad, cysylltwch â:

Rhys Aneurin, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru: 07712 519100 / rhys.aneurin@rspb.org.uk

Carwyn Evans, Swyddog Cyfathrebu: 07761 331050 / carwyn.evans@rspb.org.uk

Ffotograffau:

Mae lluniau i gefnogi'r stori hon ar gael yn RSPB Images. Cliciwch ar y ddolen isod a phan ofynnir teipiwch yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair.

http://www.rspb-images.com/respages/storysetsignon.aspx?key=36556a09-a739-406c-a39c-6a72e656f32e

Enw defnyddiwr: Garden
Cyfrinair: Birdwatch

 

Nodiadau i olygyddion:

1.       Yr RSPB yw'r elusen cadwraeth natur fwyaf yn y DU, ac mae'n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Gyda'n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt dan fygythiad fel y bydd ein trefi, ein harfordir a'n cefn gwlad yn llawn bywyd unwaith eto. Rydym yn chwarae rhan flaenllaw yn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o sefydliadau cadwraeth natur.

Tagged with: Country: Wales Country: Wales Topic: Bird Identification Topic: Habitats Topic: Wales Topic: Welsh Topic: Big Garden Birdwatch Topic: Reserve Topic: Wales Topic: Bird species