Derwen hynod Cwm yr Esgob ar y rhestr fer Coeden y Flwyddyn 2016

Danny Wyn Griffith

Wednesday 28 September 2016

Mae coeden hynod sydd wedi'i lleoli ar safle RSPB Carngafallt ym Mhowys wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn Coed Cadw 2016, sydd wedi'i noddi gan Loteri'r Cod Post.

Mae ein coeden ni sydd ar y rhestr fer, ac a gredir ei bod wedi bod ar y safle ers dros 500 mlynedd, gyda siawns o ennill y wobr gyntaf, sef pecyn 'Tree LC' sy'n werth £1,000 tra bod bob cystadleuwr ar y rhestr fer sy'n derbyn 1,000 o bleidleisiau yn cael eu gwobrwyo'n awtomatig gyda phecyn 'Tree LC' o £500.

Mae'r pecynnau gwobr 'Tree LC' yn amrywio o arolygon coed a rheolaeth broffesiynol, at docio, ffensio a thaenu tomwellt er mwyn diogelu'r gwraidd.

Dychmygwch eich bod yn 500 mlwydd oed. Meddyliwch am yr holl ryfeddodau yr ydych chi wedi'u gweld. Meddyliwch am yr holl newidiadau amgylcheddol a'r datblygiadau technolegol yr ydych chi wedi bod yn dyst iddyn nhw. Ond dychmygwch fod yn fyw am hanner canrif, heb wybod byth sut beth yw cael eich canmol. Dim un 'da iawn', ac erioed wedi teimlo'r curiad ar eich cefn. Roedd hyn yn wir am ein coeden arbennig ni - tan rwan.

Dywed Lesley Fletcher, Rheolwr Safle RSPB Carngafallt: "Rwy'n hynod o falch bod y goeden wedi cael ei roi ar y rhestr fer. Mae ein derwen hynod ni ymysg y fwyaf, ac o bosibl y goeden hynaf ar borfa coetir hynod Cwm yr Esgob. Mae'n dderwen amlfonyn wedi asio i'w gilydd, gyda 'choeden awyr' sy'n gerddinen - coeden sy'n tyfu o'r tu mewn heb i'w gwreiddiau gyffwrdd y ddaear."

Fodd bynnag, mae ein derwen hynod ni wedi cael ei magu mewn modd unigryw.

Yn 1184, gwyddys bod Tywysog o Gymru, sef Rhys o Ddeheubarth, wedi rhoi'r ystâd gyfan i fynaich Sistersaidd Abaty Ystrad Fflur - a oedd yn golygu bod yr enw Cwm yr Esgob yn addas.

Gwyddys bod ein coeden wedi dechrau ei bywyd fel coeden ifanc tua diwedd amser y mynaich oddeutu 1500 OC, gan dyfu ymysg coed derw hynod mawr eu dydd ac ers hynny mae wedi'u disodli.

Yn 1536, gyda'r Ddeddf Uno, daeth Cymru o dan gyfraith Lloegr, a daeth yr holl diroedd mynachaidd yn eiddo i Harri VIII. Yn y modd hynny, mae'n debygol fod ein derwen ni wedi dod yn eiddo i'r hen drwyn-gopr pan oedd ond yn 50 mlwydd oed.

Yn ogystal, mae gan goetir Cwm yr Esgob fannau cynhyrchu golosg nodweddiadol, gyda llawer o'r coed yn hen brysgwydd neu docbrennau - yn cynnwys ein derwen ni sydd ar y rhestr fer - gydag ychydig o'r pren yn cael ei ddefnyddio i greu golosg heb dorri'r goeden yn gyfan gwbl.

Er hynny, parhaodd ein derwen i ffynnu, ac efallai y gall tocio fod yn un o'r rhesymau sylfaenol ei bod wedi goroesi a chyrraedd gymaint o oedran.

Piles of boulders from field clearance in Cwm yr Esgob

Photo: Peter Quelch

Yn gynnar yn y 19eg ganrif, gwnaed gwaith clirio ar raddfa fawr yn y caeau o gwmpas er mwyn tyfu cnydau. Yn ffodus, cafodd y borfa mewn coetir a'n derwen ni yng Nghwm yr Esgob eu harbed oherwydd natur greigiog y tir.

Yn 1893, dechreuodd oes newydd pan adeiladwyd argaeau Cwm Elan gan greu cronfeydd mawrion i ddarparu dwr yfed i boblogaeth Birmingham. Bron i ganrif yn ddiweddarach, agorodd canolfan ymwelwyr Cwm Elan yn 1985 a chroesawyd niferoedd cynyddol o ymwelwyr.

Prynwyd y coetiroedd a'r borfa mewn coetir hynod gan yr RSPB yn 1990, gan greu'r hyn yr ydym ni yn ei adnabod heddiw fel gwarchodfa Carngafallt. Mae'n cael ei hadnabod am ei hamrywiaeth neilltuol o rywogaethau, ac ers hynny mae wedi cael ei chydnabod am hyn drwy gael ei gwneud yn ardal warchodaeth.

Aeth Lesley ymlaen i ddweud: "Mae ein derwen hynod neilltuol ni sydd ar y rhestr fer yn rhan o dirwedd arbennig ac yn goetir arbennig iawn. Mae'n gartref i gyfoeth o adar coetir, yn cynnwys cnocellau brith lleiaf, corhedyddion y coed a gwybedogion brith, yn ogystal â chasgliadau o gennau, bryoffytau ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn saprocsilig (pren marw). Mae'r goeden ei hun wedi'i gorchuddio mewn epiffytau (planhigion sy'n tyfu ar blanhigion eraill) a chennau prin fel Calicium salicinum, ac mae'n gartref i rai chwilod nodedig fel yr 'chwilyswr' anghyffredin. Mae ein coeden ni'n ecosystem fach gyfan ynddi'i hun, sydd wedi tyfu drwy'r oesoedd."

Yn awr, beth am i ni i gyd ddangos ein gwerthfawrogiad o un o aelodau hynaf RSPB Cymru. Mae'r amser wedi dod iddi dderbyn y ganmoliaeth y mae hi'n ei haeddu ac rydym yn galw arnoch chi i bleidleisio rhwng 19 Medi a 9 Hydref drwy fynd i - https://www.woodlandtrust.org.uk/visiting-woods/tree-of-the-year/.

Last Updated: Tuesday 28 August 2018

Tagged with: Country: Wales Topic: Getting involved