· Byd natur a byd digidol yn cyfuno ym Mharc Bute Caerdydd
· Am ddim i'r teulu cyfan, rhwng 15 Gorffennaf a 4 Awst
· Cyflwynwyd gan RSPB Cymru a Migrations mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd
Yn dilyn llwyddiant TAPE yn 2015, mae RSPB Cymru a Migrations, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd, yn eich gwahodd i ddarganfod y byd o'r newydd haf yma trwy brofiad rhith realiti 360 gradd yng nghanol Parc Bute yng Nghaerdydd. Yn rhedeg rhwng 15 Gorffennaf a 4 Awst, bydd Drwy Lygaid yr Anifail yn rhoi'r cyfle i deuluoedd a phlant ymgolli ym mywydau cyffrous creaduriaid y goedwig, gan eu hysbrydoli i warchod bywyd gwyllt gwych Caerdydd a dod yn nes at natur. Wedi'i greu gan y stiwdio profiad ymdrwytho, Marshmallow Laser Feast, bydd y gosodiad yn galluogi ymwelwyr i gadw'u traed yn gadarn ar ddaear y goedwig wrth wisgo ffonau pen wedi'u deilwra. Byddant yn cael eu tywys ar daith aml synhwyraidd, gan gropian trwy'r goedwig a hedfan yn uchel ymysg y coed - a'r cyfan drwy lygaid tylluan, broga a gwas y neidr sy'n byw ym Marc Bute.
Nid yw'r profiad yn dod i ben gyda hynny. Gall deuluoedd hefyd fwynhau rhywfaint o amser gwyllt ychwanegol gyda gweithgareddau dyddiol gyda naws digidol; o helfeydd trychfilod mawr i ddarganfod llwybrau anifeiliaid y goedwig. Meddai Carolyn Robertson, Rheolwr Prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd: "Mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn dod â miloedd o bobl ifanc Caerdydd yn nes at natur ac rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o Drwy Lygaid yr Anifail - cyfle i ymwelwyr brofi natur o safbwynt hollol newydd ac ymgolli ym mywyd gwyllt creaduriaid y goedwig. Mae'n esgus perffaith i dreulio diwrnod bythgofiadwy ym Mharc Bute a mwynhau amser hudol ymhlith y coed."
Meddai Karine Decorne, Cyfarwyddwr Artistig Migrations: "Rydym wedi gwirioni ar y cyfle hwn i gael cydweithio â Marshmallow Laser Feast, nid yn unig i ddod â'r profiad rhyfeddol hwn i Gaerdydd ond hefyd i gael cyflwyno Cymru i brofiad rhithwir mor wych. Mae wedi bod yn braf iawn cael gweithio ag RSPB Cymru ac roedd llwyddiant TAPE y llynedd y tu hwnt i bob disgwyl. Rydym yn siwr y bydd Drwy Lygaid yr Anifail yn tanio dychymyg pobl mewn ffordd fythgofiadwy." Dyma'r tro cyntaf i Drwy Lygaid yr Anifail ddod i Gymru, a bydd yn galluogi cynulleidfaoedd i gamu i mewn i fyd lle mae natur a thechnoleg yn dod wyneb yn wyneb. Ond bydd y daith yn parhau ar ôl i'r gosodiad ddod i ben hefyd, gan y bydd RSPB Cymru, Migrations a Chyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio i wrthbwyso'r ôl troed carbon a ddefnyddiwyd ym Marc Bute.
Meddai'r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cyng Bob Derbyshire: "Mae prifddinas Cymru wedi'i bendithio gan barciau a mannau gwyrdd hyfryd ond mae'n hawdd iawn byw mewn dinas heb feddwl o ddifrif am y byd naturiol sydd o'n gwmpas. Mae prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn helpu i ddod â natur yn ôl i blentyndod plant a bydd Drwy Lygaid yr Anifail yn cyfoethogi'r ymdeimlad o ryfeddod a gawn trwy fyd natur, gan gysylltu teuluoedd, a'r rhai sy'n caru natur a chelf , gyda bywyd gwyllt cyfoethog y ddinas."
Last Updated: Tuesday 28 August 2018