Gorffwyswch, ewch i nôl paned ac ymunwch yn arolwg bywyd gwyllt yr ardd mwya’r byd

Eleri Wynne

Thursday 26 January 2017

Mae Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB ar fin dechrau

Bydd pobl Cymru yn troi eu llygaid i'r awyr ar 28, 29 a 30 Ionawr 2017 er mwyn cymryd rhan yn arolwg blynyddol Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB.

Gofynnir i blant ac oedolion fel ei gilydd dreulio un awr yn gwylio ac yn cofnodi'r adar a'r bywyd gwyllt arall yn eu gardd neu fan gwyrdd lleol, cyn anfon eu canlyniadau at yr RSPB.

Yn awr yn ei 38ain flwyddyn, Gwylio Adar yr Ardd yw'r arolwg mwyaf o fywyd gwyllt yr ardd yn y byd ac eleni, am y tro cyntaf mewn hanes, mae gennych chi ddiwrnod ychwanegol i gofnodi'r ymwelwyr yn eich gerddi wrth i Wylio Adar yr Ardd yn ymestyn i dridiau1. Mewn ymateb i alw mawr gobeithir y bydd hyn yn galluogi hyd yn oed fwy o bobl i gymryd rhan, fydd yn helpu'r RSPB i ddeall sut y mae ein bywyd gwyllt yn ymdopi. Dywedodd Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru, Eleri Wynne: "Bu mwy na 24,000 o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan y llynedd2 ac mae'n gyfle perffaith i'r teulu cyfan ddod at ei gilydd - mae'n syml, rhowch y tegell ymlaen, gwnewch eich hun yn gyfforddus a chyfrwch yr adar rydych yn gweld yn eich gardd neu yn eich man gwyrdd lleol. Gyda chanlyniadau o gymaint o erddi drwy Gymru, gallwn weld pa mor gyfoethog, syfrdanol a gwerthfawr yw ein cymdogion gwyllt. Does dim ots os welwch chi gyfoeth o fywyd gwyllt neu dim byd o gwbl - hoffwn glywed gennych chi beth bynnag." Yn ogystal â chyfrif ein hoff adar yr ardd, mae'r RSPB yn gofyn i'r rhai sy'n cymryd rhan gofnodi'r bywyd gwyllt arall y maen nhw'n ei weld yn eu gerddi a'u mannau gwyrdd drwy gydol y flwyddyn, fel draenogod, llwynogod, carlymod a gwiwerod3. Mae gerddi a mannau gwyrdd yn adnoddau gwerthfawr i fywyd gwyllt a bydd hyn yn helpu i greu darlun cyffredinol o ba mor bwysig yw ein gerddi ar gyfer darparu cartref i fyd natur.

Ychwanegodd Eleri: "Rydym ni'n hoffi clywed sut y mae pobl yn dod ynghyd i ddarganfod y bywyd gwyllt cyffrous yn eu gerddi, ac nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i gymryd rhan. Mae gennym ni becyn arlein o bopeth yr ydych chi ei angen, ac mae canllawiau hwylus i'ch helpu chi i wahaniaethu rhwng ji-binc a nico! Gydag ychydig o ymdrech, gall ein cartrefi fod yn gartrefi gwych ar gyfer adar y genedl hefyd."

Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd, mae gennym ni llond trol o ddigwyddiadau drwy Gymru - o ddarganfod sut i wneud bwydwyr adar gwych at adnabod y creaduriaid yr ydych chi'n rhannu eich cartref gyda nhw...

Dewch i RSPB Conwy ar 21 a 22 Ionawr i ddysgu sut y gallwch chi ddenu mwy o fywyd gwyllt i'ch gardd a darganfod beth i roi i'ch ymwelwyr unwaith y maen nhw'n cyrraedd. Mae'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle - dim ond cyrraedd unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yh ac ymuno yn yr hwyl.

Ar 22 Ionawr, bydd tîm RSPB Llyn Efyrnwy yn barod i'ch helpu chi i wneud peli braster suddlon a bwydwyr blasus ar gyfer adar eich gardd, y gallwch chi wedyn fynd gyda chi i'w rhoi yn eich gardd yn barod ar gyfer y cyfrif mawr. Galwch i mewn unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yh ac mae llefydd yn rhad ac am ddim.

Ymunwch â ni yn RSPB Ynys Lawd ar 21 a 22 Ionawr lle byddwn ni'n eich helpu i greu rhai danteithion blasus ar gyfer adar eich gardd, a bydd staff wrth law i gynnig awgrymiadau gwych ar sut i sylwi ar y bywyd gwyllt ar eich stepen drws. Pris y digwyddiad yw £3 i aelodau a £4 i'r rhai nad ydyn nhw'n aelodau ac mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yh.

Sicrhewch eich bod yn adnabod eich adar a chrëwch ddanteithion blasus ar gyfer yr adar yn eich gardd yn RSPB Ynys-hir ar 22 Ionawr. Pris y digwyddiad yw £3 i aelodau a £4 i'r rhai nad ydyn nhw'n aelodau a gallwch chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yh. Yn ogystal, mae gennym ni gyfres o ddigwyddiadau ledled Gaerdydd gyda phrosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd. Byddwn ni'n gwneud bwyd sy'n tynnu dwr o'ch dannedd i'n hadar yn Fferm y Fforest Caerdydd, Parc Bute, Pugh's Garden Village, Canolfan Siopa Dewi Sant, Amgueddfa Byd Natur Sain Ffagan a Techniqest - yn ogystal â hogi ein sgiliau sylwi ar adar a bod yn greadigol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ewch ihttp://www.rspb.org.uk/reserves-and-events/events-dates-and-inspiration/events/ am fwy owybodaeth os gwelwch yn dda.

Ewch i rspb.org.uk/birdwatch er mwyn cofrestru i gymryd rhan a llawrlwythwch eich pecyn Gwylio Adar yr Ardd am ddim. Yn ogystal, gallwch ddilyn yr hyn sy'n digwydd drwy'r penwythnos drwy ddilyn @RSPB Cymru ar Drydar neu ddefnyddio #GwylioAdar / #BigGardenBirdwatch. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2017.

Mae ein digwyddiad cyfatebol, Gwylio Adar yr Ysgol yn digwydd yn ystod hanner cyntaf Tymor y Gwanwyn, 3 Ionawr - 17 Chwefror 2017. Ewch i rspb.org.uk/schoolswatch am fwy o wybodaeth.

1. Newyddion gwych ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd 2017: mewn ymateb i lawer o geisiadau a dderbyniwyd dros y blynyddoedd, byddwn yn rhoi prawf ar ymestyn y penwythnos i gynnwys dydd Llun 30 Ionawr. Rydym ni'n gobeithio y bydd hyn yn galluogi hyd yn oed fwy o bobl i gymryd rhan a threulio awr yn cyfrif yr adar yn eu parc neu yn eu gardd, gan ychwanegu ciplun o sut y maen nhw'n ymdopi. Bob blwyddyn, gofynnwyd inni a all pobl gymryd rhan ar y dydd Llun os ydyn nhw'n brysur dros y penwythnos. O bersbectif gwyddonol, bydd ychwanegu diwrnod arall yn parhau i ddarparu 'sampl' o'r adar sy'n ymweld â'n gerddi ar yr adeg honno o'r flwyddyn. Y peth pwysig yw bod cyfnod cyffredinol yr arolwg ei hun wedi aros yr un fath, ac nid oes unrhyw reswm bod y nifer o adar a gofnodwyd ar ddydd Llun yn wahanol i'r rhai a welwyd dros y penwythnos. Dylai'r diwrnod ychwanegol roi cyfle i fwy o bobl gymryd rhan gan ychwanegu hyd yn oed fwy o ddata ar gyfer ei ddadansoddi.

2. Er mwyn cymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd, yn syml, gwyliwch yr adar yn eich gardd neu'ch man gwyrdd lleol am un awr ar unrhyw adeg dros y tridiau. Cyfrifwch yr adar sy'n glanio yn eich gardd neu'ch parc lleol yn unig, ac nid y rhai hynny sy'n hedfan drostyn nhw. Rhowch wybod inni y nifer uchaf o bob rhywogaeth adar yr ydych yn ei weld ar unrhyw adeg os gwelwch yn dda - ac nid y cyfanswm yr ydych yn ei weld yn ystod yr awr. Gallwch chi gofrestru er mwyn cymryd rhan a llawrlwytho eich pecyn rhad ac am ddim yn www.rspb.org.uk/birdwatch. Cymerodd mwy na 519,000 o bobl drwy'r DU ran mewn cyfrif nifer anferthol o 8,262,662 o adar yn 2016. Parhaodd aderyn y to fel yr aderyn a welwyd fwyaf yn yr ardd yng Nghymru a gwelwyd ef mewn bron i dri chwarter o erddi'r rhai a gymerodd ran, gyda'r titw tomos las a'r ddrudwen yn cwblhau'r tri uchaf. Fodd bynnag, yn anffodus, gwelsom ostyngiad yn y nifer o rywogaethau adnabyddus fel y drudwennod a'r bronfreithod. Dyma'r canlyniadau llawn ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd 2016 yng Nghymru:

Safle

Rhywogaeth

Cymedr

% gerddi

Cymedr 2006

Safle 2006

% gerddi 2006

Newid rhwng 2006 a 2016

% newid yn % gerddi a gofnodwyd rhwng 2006 a 2016

1

Aderyn y to

5.89

72.5

5.23

1

76.09

12.6

-4.8

2

Titw tomos las

4.08

81.3

3.77

2

86.76

8.2

-6.3

3

Drudwen

3.16

36.2

3.68

4

47.81

-14.0

-24.2

4

Ji-binc

2.72

57.0

3.70

3

74.42

-26.7

-23.4

5

Mwyalchen

2.24

85.7

2.79

5

94.51

-19.6

-9.3

6

Titw mawr

2.12

64.5

1.87

6

62.83

13.3

2.6

7

Robin goch

1.53

87.4

1.62

8

90.70

-5.5

-3.6

8

Nico

1.52

28.8

0.80

14

22.56

89.6

27.4

9

Titw cynffon-hir

1.41

27.4

0.77

15

20.18

82.7

35.9

10

Jac-y-do

1.41

33.3

1.27

10

31.93

11.2

4.2

11

Pioden

1.36

60.3

1.23

11

56.43

11.3

6.9

12

Titw penddu

1.14

48.1

1.03

13

48.48

9.8

-0.8

13

Ysguthan

1.11

47.7

0.62

17

28.21

78.5

69.1

14

Turtur dorchog

1.04

39.8

1.31

9

52.10

-20.6

-23.7

15

Llwyd y gwrych

0.90

44.4

1.22

12

55.26

-26.2

-19.7

16

Brân dyddyn

0.84

28.5

0.72

16

27.22

16.9

4.6

17

Llinos werdd

0.56

19.6

1.78

7

49.32

-68.8

-60.2

18

Colomen ledwyllt

0.46

12.1

0.31

23

9.09

45.7

33.2

19

Gwylan y gweunydd

0.37

9.1

0.22

28

5.90

66.7

54.2

20

Dryw

0.33

27.9

0.44

20

36.36

-24.5

-23.3

3. Yn 2014, fel rhan newydd o Wylio Adar yr Ardd, gofynnodd yr RSPB i'r rhai a oedd yn cymryd rhan ddweud wrthym am rai o'r anifeiliaid eraill yn eu gardd. Eleni, rydym yn gofyn i bobl edrych ar lwynogod, nadroedd y gwair, draenogod, nadroedd defaid, carlymod, chwilod corniog, madfallod dwr cribog a thyrchod daear. Mae'n debyg na fydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gweld y creaduriaid hyn yn ystod eu hawr o wylio - gan fod draenogod, nadroedd y gwair a nadroedd defaid yn gaeafgysgu ar hyn o bryd. Nid yw bob un ohonyn nhw ar y rhestr i'w gweld ymhobman yn y DU, ond hoffem ni gael gwybod a yw rhai ohonyn nhw wedi ymweld â'u gardd neu'u parc lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac os ydyn nhw, pa mor aml. Bydd yr RSPB yn rhannu'r canlyniadau nad ydyn nhw'n ymwneud ag adar â Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC), People's Trust for Endangered Species (PTES) a Chymdeithas y Mamaliaid er mwyn iddyn nhw eu hychwanegu i'w cronfeydd data rhywogaethau.

4. Elusen cadwraeth natur fwyaf y DU yw'r RSPB, sy'n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Ynghyd â'n partneriaid, rydym ni'n gwarchod adar a bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad fel bod ein trefi, ein harfordiroedd a'n cefn gwlad yn gyforiog gyda bywyd gwyllt unwaith eto. Rydym ni'n chwarae rhan flaenllaw yn BirdLife International, sy'n bartneriaeth o sefydliadau cadwraeth natur drwy'r byd. Mae ymgyrch Rhoi Cartref i Natur yr RSPB yn cael ei anelu at ymdrin â'r argyfwng cartrefi sy'n wynebu bywyd gwyllt o dan fygythiad yn y DU. Mae'r elusen yn gofyn i bobl ddarparu lle ar gyfer bywyd gwyllt yn eu gerddi eu hunain a'u mannau y tu allan - p'un ai yw'n gosod blwch nythu i adar, creu pwll ar gyfer brogaod a llyffantod neu adeiladu cartref ar gyfer draenogod. Ewch i rspb.org.uk/myplan a gallwch chi greu eich cynllun personol eich hun a rhoi cartref i fyd natur wrth eich ymyl chi.

Tagged with: Country: Wales Topic: Big Garden Birdwatch