Grant Cyfoeth Naturiol Cymru yn llwyddo i gyllido adferiad gwyrdd o’r pandemig

Friday 12 February 2021

Yn ystod Hydref 2020, derbyniodd RSPB Cymru grant o £194,379.00 gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o Gronfa Dyrannu Strategol gyda’r prif ddiben o gefnogi’r sector i addasu i amgylchedd newydd Covid-19 a gwneud cefn gwlad yn le diogel a hy

English version available here

Bu’n amser heriol i bawb a gwyddom fod natur wedi chwarae rhan ganolog i helpu hybu ein hiechyd emosiynol a’n hiechyd corfforol.

Roedd y cyllid hwn yn wir yn hwb hanfodol inni ac elusennau amgylcheddol eraill oherwydd bod y pandemig wedi effeithio ar lawer o’n ffrydiau incwm eleni, gan fod ein canolfannau ymwelwyr wedi bod ar gau am gyfnodau hir ac mae gweithgareddau cymunedol ar gyfer codi arian wedi cael eu cwtogi.

Gyda chefnogaeth y grant, rydym wedi gallu parhau â gwaith allweddol drwy Gymru.  Mae hyn yn cynnwys cwblhau gwaith ar ledu a rheoli llwybrau troed, archwilio llwybrau a rhodfeydd, diogelu coed, dehongli natur, cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch a mynediad, a chreu systemau un ffordd sy’n cydymffurfio â Covid-19 yn ein canolfannnau ymwelwyr ac arwyddion pwysig ynglŷn â beth y gallwch chi ei weld yn y gwarchodfeydd ynghyd â sut i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel.  Gyda llawer o ymwelwyr newydd nad ydyn nhw erioed wedi bod yn y gwarchodfeydd natur lleol o’r blaen, mae croeso cynnes a gwybodaeth ynglŷn â beth sydd yno a sut i gael y gorau o’u hymweliad wedi bod yn bwysig iawn.

Uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru yw rhoi ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd a cholli natur wrth galon adferiad Cymru o’r pandemig.  Mae RSPB Cymru wrth ei fodd yn gallu cefnogi’r uchelgeisiau hynny drwy’r grant hwn.  Gyda’r cyllid, mae gweithgareddau a gwaith cadwraeth wedi gallu parhau yn Gwenffrwd Dinas, Ynys Lawd, Cors Ddyga, Llyn Efyrnwy a Gwlyptiroedd Casnewydd.

Dywedodd Mike Sidaway, Rheolwr Safle RSPB Cymru yn Gwenffrwd Dinas:

“Mae’r gronfa yma wedi bod yn fendith go iawn inni yng ngwarchodfa natur Gwenffrwd Dinas yn Sir Gaerfyrddin.  Roeddem yn awyddus i fuddsoddi amser i ddisodli’r hen lwybr bordiau pren gydag un plastig wedi’i ailgylchu a fydd yn caniatáu mwy o ymwelwyr i weld y byd natur ysblennydd sydd gennym ni i’w gynnig.  Mae’n ffantastig fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y byd naturiol ar gyfer ein llesiant a’u bod wedi ein cefnogi gyda’r prosiect hwn.  Maen nhw wedi helpu gydag agweddau eraill o’n gwaith yn y warchodfa natur hefyd, gan ein galluogi i addasu’r ffordd yr ydym yn gweithio i ymdrin â chanllawiau pwysig Covid-19 ar gyfer ymwelwyr.”

Ar warchodfa natur Cors Ddyga ar Ynys Môn, mae’r gronfa wedi cefnogi’r gwaith pwysig o agor llwybrau, codi llwybr cerrig a disodli hen ffensys.  Ar ôl nifer o flynyddoedd o gael problemau gyda llifogydd, mae codi’r llwybr cerrig wedi caniatáu i dîm y safle ychwanegu mwy o gerrig ar ran isaf y llwybr, er mwyn ei wneud yn llai tueddol o ddioddef llifogydd, ac yn ei dro, caniatáu mwy o ymwelwyr i fwynhau’r llwybr natur rhyfeddol.

Mae’r ffens sy’n rhedeg ar hyd rhwydwaith llwybrau Seiclo Lôn Las ar y warchodfa yn gwahanu defnyddwyr y llwybr oddi wrth anifeiliaid a bywyd gwyllt, gan ddarparu diogelwch ar gyfer yr anifeiliaid gan gynnwys adar gwyllt, y gwyach fach, cudyll coch, dyfrgwn ac adar y bwn. Mae’r tîm wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn disodli’r hen ffensys pydredig gyda ffens newydd sbon.  Mae’r gronfa hefyd wedi caniatáu’r tîm yng Nghors Ddyga i ailagor rhodfeydd drwy eu lledu, gan sicrhau y gall ymwelwyr basio ei gilydd yn ddiogel a chadw pellter cymdeithasol.

Gydag ansicrwydd yn parhau ynghylch y tymor ymwelwyr yn ystod y gwanwyn a’r haf eleni, nid ydym eto yn gwybod pa effeithiau a fydd ar y sector elusennol a’n gallu i godi arian yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ond gwyddom fod natur angen elusennau bywyd gwyllt mwy nag erioed.  Mae RSPB Cymru yn ddiolchgar iawn i Cyfoeth Naturiol Cymru am ein galluogi ni i barhau â’n gwaith hanfodol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon.

Troednodyn: https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/692604/final-green-recovery-engo-support-report-cymraeg.pdf

Last Updated: Friday 12 February 2021

Tagged with: Country: Wales