Gwarchod natur yn ystod Brexit – trafodaethau pwysig am gadwraeth yng Nghaerdydd

Eleri Wynne

Wednesday 1 February 2017

Mae RSPB Cymru yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau bod safonau a mesurau i ddiogelu'r amgylchedd yn flaenoriaeth hollbwysig pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Ar 2 Chwefror 2017, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Andrea Leadsom AS, yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, ac amrywiaeth eang o randdeiliaid amgylcheddol ac amaethyddol[1], i drafod goblygiadau Brexit i foroedd a chefn gwlad Cymru.

Yn sgil cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, Diogelu Dyfodol Cymru2, mae RSPB Cymru yn awr yn galw ar Lesley Griffiths AC i gael cytundeb i sicrhau bod cynnal mesurau a safonau uchel i ddiogelu'r amgylchedd yn flaenoriaeth i Weinidog y DU yn ystod y trafodaethau a fydd yn cael eu cynnal ar Brexit. Mae RSPB Cymru yn croesawu'r Papur Gwyn, sy'n cydnabod bod safonau a mesurau i ddiogelu'r amgylchedd yn hollbwysig i ansawdd bywyd pobl2.

Dywedodd Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-jo Luxton: "Rydym yn croesawu'r ymrwymiadau ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fynd ati, fan leiaf, i gynnal y safonau a'r mesurau presennol i ddiogelu'r amgylchedd. Rydym ni hefyd yn cefnogi'r datganiad na ddylai gadael yr UE fod yn esgus i leihau na chwtogi ar y safonau hyn sydd â'r nod o ddiogelu'r amgylchedd naturiol sydd wedi gwella bywydau pobl yng Nghymru[2]."

"Rydym yn disgwyl y Bil Diddymu Mawr4 yn ystod y misoedd nesaf, ac ar hyn o bryd ychydig iawn o fanylion sydd ar gael ynglyn â beth fydd yn y ddeddfwriaeth. Rydym yn annog Andrea Leadsom AS a Lesley Griffiths AC i wneud yn siwr bod mesurau diogelu a deddfwriaethau amgylcheddol, gan gynnwys Cyfarwyddebau Natur yr Undeb Ewropeaidd, yn rhan allweddol o'r Bil."

"Mae gofyn bod cynnal mesurau diogelu a safonau amgylcheddol uchel yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig yn y broses o drafod telerau cytundebau masnach - gyda'r UE neu wladwriaethau eraill. Ar hyn o bryd, mae'r llywodraethau'n dal yn ceisio penderfynu sut gallant weithio gyda'i gilydd i gytuno ar drefniadau cyffredin2. Mae amaethyddiaeth a physgodfeydd yn feysydd lle byddai modd cytuno ar safonau cyffredin i'r DU i gyd, ac wrth wneud hynny, gellid osgoi 'ras i'r gwaelod'. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod adfer natur wrth graidd unrhyw bolisïau yn y dyfodol, a bod Gweinidogion yn helpu i wneud yn siwr bod Cymru a gweddill y DU yn cael eu rheoli mewn ffordd integredig a chynaliadwy - ar y tir ac ar y môr - gan sicrhau manteision ehangach i ni ac i'r amgylchedd."

"Gwyddom o edrych ar adroddiad diweddaraf Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru5 bod y bywyd gwyllt sydd mor annwyl i ni yn brysur diflannu o'n hardaloedd gwledig a'n moroedd. Mae un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu'n llwyr erbyn hyn - gyda niferoedd 57% o blanhigion gwyllt, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar yn prysur ostwng4. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i fyd natur ac felly mae'n allweddol ein bod yn cynnal ac yn gwella'r mesurau diogelu sydd gennym. Mae llawer o'r mesurau a'r safonau amgylcheddol hyn yn deillio o ddeddfwriaeth yr UE; os ydym am achub natur Cymru mae'n rhaid i ni ddal gafael ar y safonau hyn ac adeiladu arnynt, gan wneud yn siwr bod polisïau blaengar yn gadarn yn eu lle."

1. Yr RSPB yw'r elusen cadwraeth natur fwyaf yn y DU, ac mae'n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Gyda'n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt dan fygythiad fel y bydd ein trefi, ein harfordir a'n cefn gwlad yn llawn bywyd unwaith eto. Rydym yn chwarae rhan arweiniol yn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o sefydliadau cadwraeth natur. Mae'r RSPB yn un o'r rhanddeiliaid a wahoddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, i ddod i'r cyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Andrea Leadsom AS.

2. Mae'r RSPB yn croesawu papur gwyn Llywodraeth Cymru, Diogelu Dyfodol Cymru, sy'n cydnabod bod cynnal safonau a mesurau i ddiogelu'r amgylchedd yn hanfodol i ansawdd ein bywyd (tudalen 29 mesurau diogelu a gwerthoedd): https://beta.llyw.cymru/sites/default/files/2017-01/30683%20Securing%20Wales%C2%B9%20Future_WELSH_WEB.pdf

3. Dyfyniadau eraill o ddiddordeb gan Lywodraeth Cymru: "Mae polisïau a deddfwriaeth yr UE wedi cael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd a'n hiechyd, ac wedi diogelu a chefnogi ein diwydiannau ffermio a physgota. Wrth i ni baratoi i adael yr UE byddwn yn edrych ar sut y gall y rheoliadau pwysig hyn gael eu dyblygu, a lle y bo'n bosibl, eu haddasu a'u cryfhau i fodloni anghenion penodol Cymru. Mae ein partneriaid yn yr UE yn bwysig iawn i ni. Mae Cymru yn genedl allblyg, ac mae bellach yn fwy pwysig nag erioed ein bod yn cydweithio â'n partneriaid er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar gyfer Cymru." http://gov.wales/newsroom/environmentandcountryside/2016/160926-cabinet-secretary-in-brussels-for-agriculture-and-environment-talks/?skip=1&lang=cy

Mae Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn sylfeini cryf i adeiladu arnynt a bwrw ymlaen â'n hymrwymiad i fioamrywiaeth. Yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fyddwn yn cwtogi ar ein deddfwriaeth bresennol nac ychwaith ar ein hymrwymiad i fioamrywiaeth. Bydd ein deddfwriaeth yn caniatáu i ni hyrwyddo dulliau newydd, dyfeisgar, arloesol a hirdymor i reoli ein bywyd gwyllt.

http://www.assembly.wales/cy/bus-home/Pages/rop.aspx?meetingid=4003&language=en&assembly=5&c=Record%20of%20Proceedings&startDt=09/11/2016&endDt=09/11/2016

4. Ar 2 Hydref 2016, cyhoeddodd David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, fod Llywodraeth y DU yn bwriadu diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972. Y Ddeddf hon sy'n rhoi cyfraith yr UE ar waith, a bydd cyflwyno Bil newydd i'w diddymu yn golygu na fydd y Ddeddf yn berthnasol o'r diwrnod pan fydd y DU yn gadael yr UE ymlaen. Ar yr un pryd, bydd y Bil newydd yn troi cyfraith bresennol yr UE yn gyfraith ddomestig, gan ganiatáu i'r Senedd ddiwygio, diddymu neu wella unrhyw gyfraith ar ôl craffu a chynnal trafodaethau priodol. https://www.gov.uk/government/news/government-announces-end-of-european-communities-act Y Bil Diddymu Mawr yw'r enw sy'n cael ei roi ar y Bil newydd hwn.

5. Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru yn cael ei lunio mewn partneriaeth rhwng 50 o sefydliadau ymchwil a bywyd gwyllt ledled y DU sydd wedi cyfuno eu gwybodaeth a'u harbenigedd i gyflwyno darlun cliriach byth o sefyllfa bywyd gwyllt Cymru. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae niferoedd 57% o blanhigion fasgwlaidd, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar wedi gostwng yng Nghymru. Ers 1970, ar draws y DU, mae lefelau 56% o rywogaethau wedi gostwng, gyda 40% yn dangos gostyngiad sylweddol neu gymedrol, 31% yn dangos ychydig o newid a 29% yn dangos cynnydd sylweddol neu gymedrol. Yn ystod y degawd diwethaf, gwelwyd gostyngiad mewn 53% o rywogaethau a chynnydd mewn 47%. Seiliwyd y mesurau hyn ar dueddiadau meintiol ar gyfer bron i 4,000 o rywogaethau daearol a dwr croyw yn y DU. Mae mesurau cenedlaethol y Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII) yn rhoi ffordd o asesu hyd a lled diflaniad byd natur o ganlyniad i weithgareddau dynol sy'n mynd yn ôl ganrifoedd. Awgrymir bod gwerthoedd BII o dan 90% yn dangos bod ecosystemau o bosib wedi cwympo'n is na'r pwynt lle gellir dibynnu arnyn nhw i ddiwallu anghenion cymdeithas. Felly mae'r gwerth ar gyfer Cymru - 82.8% - yn peri pryder mawr; o'r 218 o wledydd y cyfrifwyd gwerthoedd BII ar eu cyfer, mae Cymru yn 49 o'r gwaelod. Mae hyn yn gosod Cymru ym mhump isaf/chwarter isaf yr holl wledydd a ddadansoddwyd. http://www.rspb.org.uk/our-work/conservation/centre-for-conservation-science/research/projects/363867-the-state-of-nature-report

Last Updated: Tuesday 28 August 2018

Tagged with: Country: Wales Topic: About the RSPB