Mae hi’n amser gweld adar y môr ar glogwyni RSPB Ynys Lawd

Rhys Aneurin

Monday 16 March 2020

Razorbill | The RSPB

Wrth i’r gwanwyn ddynesu, mae adar y môr yn dychwelyd at eu nythfeydd, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd y lleoliad hwn yng Nghymru fel lle poblogaidd ar gyfer bridio.

Ar ddechrau'r gwanwyn, bydd adar y môr fel llursod, gwylogod a phalod yn dechrau dychwelyd i’w safleoedd nythu ar RSPB Ynys Lawd, Ynys Môn.  Mae’r achlysur blynyddol hwn yn digwydd pan mae’r tymhorau yn newid o’r gaeaf i’r gwanwyn, ac wrth i adar gyrraedd yn eu cannoedd, mae’n ffordd o’n hatgoffa bod y lleoliad hwn yn un o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer adar môr sy’n nythu.

Nid yn unig bod RSPB Ynys Lawd yn le o falchder mawr i bobl Ynys Môn – mae’n lleoliad mewnforio hanfodol hefyd i Gymru fel lle poblogaidd ar gyfer adar y môr.  Mae oddeutu 11% o lursod a 19% o wylogod o boblogaeth fridio Cymru yn nythu bob blwyddyn ar RSPB Ynys Lawd, ac mae’r niferoedd hyn wedi codi yn ddramatig yn ystod y blynyddoedd diweddar.  Yn 1999, cafodd 612 o lursod eu cyfrif, tra roedd y nifer yn 2019 wedi codi i bron 1,400.  Mae niferoedd y gwylogod hefyd wedi cynyddu – o 3,315 yn 1999 i oddeutu 11,000 yr haf diwethaf.  Rhywogaethau nodedig eraill sy’n aros bob blwyddyn yw adar drycin y graig a’r gwylanod coesddu, a fydd yn nythu ar silffoedd digysgod a rhannau o wyneb clogwyni sydd bron yn anhygyrch.

Dengys hyn y pwysigrwydd mawr sydd i RSPB Ynys Lawd, ynghyd â lleoedd poblogaidd eraill ar ein harfordir.  Mae’r DU yn croesawu 25 rhywogaeth o adar y môr sy’n bridio yn rheolaidd, ac mae Cymru yn gartref i 20 o’r rhai hynny.  Un o’r rhywogaethau hyn yw’r pâl, ac er gwaethaf bod dirywiad pryderus yn eu niferoedd mewn rhannau eraill o’r DU, maen nhw’n gwneud yn gymharol dda yng Nghymru, gydag Ynys Lawd yr RSPB yn un o’u lleoliadau nythu.

Yn ogystal, rydym yn dysgu hyd yn oed mwy am ein hadar môr sy’n byw ar ein harfordir drwy gymorth technoleg newydd.  Drwy ddefnyddio data GPS sydd ar flaen y gad mewn safleoedd nythu adar môr eraill yng Nghymru, rydym wedi gallu dilyn symudiadau 12 rhywogaeth o adar môr – gan gynnwys llursod, gwylogod, gwylanod coesddu a mulfrain gwyrddion – sydd o ganlyniad yn ein galluogi ni i weld pa rannau o’n harfordir yr oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn mynd a pha ddyfroedd sy’n cael eu defnyddio fwyaf ganddyn nhw ar gyfer bwydo. Un ffactor sy’n gyfrifol am weld Ynys Lawd yn datblygu yn safle nythu hanfodol oedd cyflwyno deddfwriaeth yn ystod y 1980au a oedd yn cyfyngu ar fynediad dringwyr i wynebau’r clogwyni lle mae’r adar yn nythu.  Mae hyn wedi galluogi adar môr i ddefnyddio’r safleoedd hyn yn ddidrafferth, heb y bygythiad o gael eu tarfu.  O ganlyniad i hyn, mae’r niferoedd sydd ar Ynys Lawd wedi cynyddu yn sylweddol.

Dywedodd Laura Kudelska, Rheolwr Safle RSPB Ynys Lawd:

“Bob blwyddyn, mae staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn edrych ymlaen at weld y gwylogod, y llursod a’r palod yng nghyffiniau RSPB Ynys Lawd.    Maen nhw’n teimlo fel hen ffrindiau wrth inni eu cyfrif, eu gwylio ar ein camerâu byw a chyda’n hysbienddrychau.  Mae miloedd o bobl yn tyrru yno i’w gweld ac i rai mae hyn yn brofiad na ellir ei golli.  Mae RSPB Ynys Lawd yn un o safleoedd mwyaf hygyrch y DU i weld yr adar hyn ac maen nhw’n dod â chymaint o hapusrwydd i bobl o bell ac agos.

“Mae Ynys Lawd hefyd yn lleoliad pwysig ar gyfer bywyd gwyllt eraill, fel brain coesgoch a hebogiaid tramor.  Mae’r cynefinoedd cyfoethog o flodau gwyllt ar frig y clogwyni hefyd yn denu amrywiaeth rhyfeddol o löynnod byw, fel y glesyn serennog.  Rydym ni hyd yn oed wedi bod yn ddigon lwcus i weld orcas (morfilod danheddog) o’r wylfan yn Nhŵr Elin.  Mae’n le ysblennydd ar gyfer natur, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl sy’n ymweld â’r warchodfa hon yn gadael y lle gan deimlo eu bod wedi cael eu hysbrydoli a’u bod yn angerddol ynglŷn â gwarchod natur.”

DIWEDD

Nodiadau ar gyfer Golygyddion:

  1. Elusen gadwraeth natur fwyaf y DU yw’r RSPB, sy’n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Ynghyd â’n partneriaid, rydym ni’n gwarchod adar a bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad, fel bod ein trefi, ein harfordiroedd a’n cefn gwlad yn gyforiog gyda bywyd gwyllt unwaith eto.  Rydym ni’n chwarae rhan flaenllaw yn BirdLife International, sy’n bartneriaeth o sefydliadau cadwraeth natur drwy’r byd.

  2. Mae mwy o wybodaeth benodol i Gymru ynglŷn â’r prosiect tracio adar y môr ar gael drwy ofyn amdano. Ewch i: https://www.rspb.org.uk/our-work/conservation/projects/tracking-seabirds-to-inform-conservation-of-the-marine-environment/

  3. Mae prosiect gwyddoniaeth y dinesydd o’r enw ‘Puffarazzi’ ar y gweill, sy’n annog y cyhoedd i dynnu lluniau o balod yn bwyta pysgod, er mwyn deall mwy ynglŷn â’u harferion bwydo. Er mwyn darganfod mwy, ewch i: https://www.rspb.org.uk/reserves-and-events/events-dates-and-inspiration/puffarazzi/ 

 

 

Last Updated: Wednesday 1 April 2020

Tagged with: Country: Wales Topic: South Stack Cliffs