Pedwar o fôr-wenoliaid prin yn deor ar arfordir Cymru

Monday 5 August 2019

Newyddion da ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, oddi ar Ynys Môn, lle mae pedwar o gywion môr-wennol wridog wedi deor i ddau bâr o’r adar môr urddasol

English version available here.

• Dyma’r nifer mwyaf o gywion y môr-wennol wridog ar Ynysoedd y Moelrhoniaid
ers 29 o flynyddoedd
• Mae’r deor a’r magu llwyddiannus o ganlyniad i waith caled staff yr RSPB sy’n
gofalu am yr ardaloedd lle mae’r adar yn nythu

Am y tro cyntaf mewn 29 o flynyddoedd, mae’r môr-wenoliaid gwridog, adar môr prinnaf sy’n nythu’n y DU, wedi deor pedwar o gywion ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, oddi ar Ynys Môn. Cyrhaeddodd y cywion ddiwedd Mehefin, gyda dau bâr o fôr-wenoliaid gwridog yn gorfod bwydo dau o bigau llwglyd yr un. Mae mwy o newyddion da wedi dod gyda’r pedwar cyw wedi magu’n (fledgling) llwyddiannus.

Mae gan fôr-wenoliaid gwridog gynffonau hir a phlu gwelw prydferth, gyda rhywfaint o ros liw sy’n rhoi eu henw iddynt. Mae’r adar prin hyn, a elwir yn “rosys”, yn hedfan o Orllewin Affrica pob gwanwyn i nythu mewn llond llaw o fannau arfordirol yn y DU ac Iwerddon.

Yng Nghymru, mae môr-wenoliaid gwridog sy’n nythu yn brin. Felly, roedd ymgais nythu llwyddiannus un pâr yn 2018 ar Ynysoedd y Moelrhoniaid am y tro cyntaf mewn 12 mlynedd yn ddatblygiad cyffrous. Mae dyfodiad yr ail bâr eleni yn arwydd calonogol bod nifer yr adar hyn yn cynyddu.

Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn gasgliad o ynysoedd bychain, creigiog ychydig i ffwrdd o gornel gogledd orllewin Ynys Môn. Oherwydd llystyfiant prin a thir garw, nid oes modd i bobl fyw yno. Fodd bynnag, mae’r ynysoedd yn hafan bwysig iawn i’r adar môr sy’n nythu, yn enwedig môr-wenoliaid. Mae nythfa fwyaf Môr-wenoliaid y Gogledd yn y DU yn dibynnu ar yr ynysoedd hyn: yn 2018, bu i dros 3000 pâr o’r adar hyn fagu eu cywion yma, ynghyd â mwy na 300 pâr o fôr-wenoliaid cyffredin. Yn ystod yr haf, mae’r ynysoedd hefyd yn gartref i balod sy’n nythu, ynghyd â gwylanod penwaig, gwylanod cefnddu lleiaf a gwylanod cefnddu mwyaf.

Dywedodd Warden RSPB Cymru, Ian Sims:
“Mae dyfodiad y cywion hyn wedi bod yn bosib diolch i ymroddiad staff yr RSPB sydd wedi gweithio’n galed i warchod yr adar môr ar Ynysoedd y Moelrhoniaid ers nifer o flynyddoedd. Mae’r môr-wenoliaid gwridog yn hoff o gael môr-wenoliaid eraill yn gwmni, ac mae llwyddiant un pâr yn 2018 a dau eleni yn dangos eu bod yn cael eu denu i’r nythfa ffyniannus mae ein wardeniaid wedi’i meithrin. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair yma i’r rosys!”

Mae’r gwaith i gadw’r ynysoedd yn berffaith ar gyfer y môr-wenoliaid yn cynnwys cadw’r gwylanod mwyaf draw a sicrhau nad yw mamaliaid ymledol megis llygod mawr yn dod o hyd i ffordd i mewn i’r nythod, gan y buasai’r anifeiliaid hyn yn bwyta cywion ac wyau’r môr-wenoliaid.

Mae Ian a’i dîm yn gobeithio tra bydd eu gwaith cadwraeth yn parhau, y bydd y môr-wenoliaid prin hyn yn ymgartrefu ar yr ynys ac yn dychwelyd i nythu yma mewn blynyddoedd i ddod, gan greu nythfa Gymreig i’r môr-wenoliaid gwridog.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae prosiect LIFE i Adfer y Fôr-wennol Wridog sy’n cael ei ariannu gan yr UE wedi ffocysu ar warchod gweddill yr ardaloedd a chreu mwy o fannau cyfeillgar i fôr-wenoliaid gwridog ledled y DU ac Iwerddon gyda’r gobaith o ail-sefydlu nythod ffyniannus. Mae prosiect LIFE wedi darparu staff, offer a ffyrdd o reoli cynefinoedd ychwanegol.

Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid dan berchnogaeth Trinity House a gyda’u caniatâd nhw mae’r RSPB yn llwyddo i warchod nythod adar môr.

Am fwy o wybodaeth am brosiect LIFE i Adfer y Fôr-wennol Wridog, ewch i www.roseatetern.org neu dilynwch y tîm ar Twitter: @RoseateTernLIFE

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd:
1. Yr RSPB yw elusen gadwraeth natur fwyaf y DU, ac mae hi’n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Ynghyd â’n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt mewn perygl fel bod ein trefi, ein harfordir a’n cefn gwlad unwaith eto’n llawn o fywyd gwyllt. Mae gennym ran arweiniol o fewn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o gyrff cadwraeth byd natur.
2. Mae prosiect LIFE i Adfer y Fôr-wennol Wridog yn cael ei gefnogi gan offeryn ariannol LIFE yr Undeb Ewropeaidd, mewn partneriaeth â RSPB, Birdwatch Ireland ac Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru. Mae’r prosiect pum mlynedd hwn (2015-2020) yn canolbwyntio ar gyfoethogi amodau bridio mewn tair o nythod yn Iwerddon a’r DU, tra hefyd yn gwella cyn-nythod y môr-wenoliaid gwridog i baratoi ar gyfer y potensial i ehangu. Gan fod y môr-wenoliaid gwridog fel arfer yn bridio ochr yn ochr ag o leiaf un rhywogaeth arall o fôr-wenoliaid, mae’n hanfodol gwella amodau bridio ar gyfer môr-wenoliaid cyffredin, môr-wenoliaid y Gogledd a môr-wenoliaid pigddu yn eu hen safleoedd nythu. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: roseatetern.org
3. Yn 2018, bu i bâr o fôr-wenoliaid gwridog fagu dau o gywion ar Ynysoedd y Moelrhoniaid.
4. Dengys data am fôr-wenoliaid gwridog Ynysoedd y Moelrhoniaid i ddau bâr nythu yn 2003 ond methwyd i fagu’r ifanc. Cyn hynny, y tro olaf i’r adar ddeor ar yr ynys oedd yn 1990, roeddent yn credu i saith pâr fagu dau gyw yn llwyddiannus. Cyn hynny, yn 1989, bu i 19 pâr fagu 18 o gywion.

Last Updated: Monday 5 August 2019

Tagged with: Country: Wales Country: Wales Country: Wales Topic: Birds Topic: Roseate tern Topic: Wales Topic: Wales