Prosiect ynni adnewyddol Morlais yn peryglu dyfodol bywyd gwyllt Ynys Môn

Ffion Llŷr

Tuesday 11 August 2020

Mae RSPB Cymru yn codi pryderon enbyd am Barth Arddangos Morol oddi ar arfordir Ynys Môn.

English version available here.

Mae’r elusen amgylcheddol yn poeni bod y pwysau gwleidyddol ac economaidd i gwblhau’r cais yn gwthio'r datblygiad hwn i gymryd risgiau nad oes modd eu rheoli gyda’n hamgylchedd morol bregus. 

Rydyn ni’n cydnabod bod angen mynd ati ar frys i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a glân fel rhan bwysig o’r ymdrech i ddatgarboneiddio Cymru. Fodd bynnag, mae prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd wedi’u lleoli’n anaddas neu eu dylunio’n wael yn peri risgiau sylweddol i’n hamgylchedd naturiol. Wrth i ni wynebu argyfwng hinsawdd a natur deuol, rhaid i ni gynllunio ein prosiectau ynni adnewyddadwy carbon isel mewn cytgord â’r amgylchedd naturiol, ac osgoi cael mwy o effaith ar fywyd gwyllt.  

Mae’r Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol gan Menter Môn yn nodi y gallai’r prosiect arwain at golli 60% o’r gwylogod sy’n bridio a 98% o’r llursod sy’n bridio ar y clogwyni yng ngwarchodfa natur RSPB Ynys Lawd, sy’n cael ei rhedeg gan yr RSPB. Ac yntau’n denu 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn, mae hwn yn atyniad allweddol i dwristiaid ar Ynys Môn.  

Dywedodd Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: 

“Os yw’r prosiect o ddifrif am brofi technolegau cynhyrchu ynni morol newydd mewn modd amgylcheddol sensitif, rhaid iddo weithredu fesul cam a dysgu o bob cam. Fodd bynnag, mae ein ffydd ni yn y dull hwn yn cael ei beryglu oherwydd bod Menter Môn yn chwilio am gydsyniadau hollgynhwysfawr ar raddfa fawr. Rydyn ni’n galw am dynnu’r cynnig graddfa fawr 240MW yn ôl a’i ddisodli â phrosiect ‘peilot’ cychwynnol ar raddfa lai. Byddai cydsyniad ar raddfa lai yn lleihau'r risgiau o wneud niwed amgylcheddol ac yn golygu bod modd dysgu cymaint â phosibl am dechnolegau newydd yn y lleoliad hynod amgylcheddol sensitif hwn.  

Mae RSPB Cymru yn cynnig yr ateb amgen hwn yn sgil pryderon ynghylch pa mor ddigonol yw’r dull presennol o ran rheoli risgiau amgylcheddol y prosiect. Mae ein dull arfaethedig yn dal yn caniatáu i gamau pellach o'r prosiect fynd rhagddynt yn y dyfodol pe ceir tystiolaeth nad yw’n cael unrhyw effaith, gan gadw'r cydbwysedd sydd ei angen i sicrhau bod bywyd gwyllt morol, sensitif yn cael ei warchod.”

Yn ei araith yng Ngŵyl Adferiad Gwyrdd Cymru ar 23 Gorffennaf, roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn glir bod “dysgu drwy wneud” yn yr amgylchedd morol yn golygu sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i gynllunio yn erbyn effeithiau niweidiol, a defnyddio dyfeisiau ar raddfa gymedrol er mwyn rheoli unrhyw effeithiau niweidiol a difrod anfwriadol nad oedd modd eu rhagweld.  Pwysleisiodd hefyd fod rhaid i’r monitro fod yn ddigon da i adnabod effeithiau niweidiol.  Rydyn ni’n cytuno’n llwyr â’r sylwadau hyn ond dydy prosiect Morlais, fel y mae wedi’i gynllunio ar hyn o bryd, ddim yn bodloni’r safonau hyn. 

“Ar hyn o bryd, mae gofyn i ni dderbyn y bydd y risgiau amgylcheddol difrifol i’n hadar môr a’n mamaliaid morol yn cael eu rheoli drwy ‘Gynlluniau Rheoli Addasol’. Fodd bynnag, mae gormod o ansicrwydd yn y prosiect i fynd ar y trywydd hwn. Nid yw’r mathau o dechnoleg newydd a fydd yn cael eu defnyddio ar y safleoedd wedi cael eu diffinio, felly mae eu heffeithiau yn anhysbys ac mae ansicrwydd o ran a yw’r systemau monitro’n bosibl, o ystyried cyfyngiadau’r dechnoleg bresennol. Ni allwn weld sut bydd yr effeithiau niweidiol yn cael eu nodi, heb sôn am eu lliniaru neu eu hosgoi.   

Gan ystyried hyn ochr yn ochr â’r effeithiau amgylcheddol sylweddol posibl sydd eisoes wedi’u cydnabod – gan gynnwys colli poblogaethau cyfan, fwy neu lai, rhai o’r adar môr ar Ynys Lawd – nid ydym yn credu y gallai cydsynio i brosiect ar y raddfa hon, drwy broses nad yw’n cynnwys unrhyw fesurau diogelu amgylcheddol ar hyn o bryd wrth i’r prosiect gael ei gyflwyno, fyth fod yn dderbyniol,” meddai Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru.

Rydyn ni’n credu y dylai'r datblygwr, Menter Môn, neu Lywodraeth Cymru leihau graddfa’r prosiect (gan ystyried y £4.5m o bwrs y wlad sy’n cael ei fuddsoddi yn y cynllun). Byddai hyn yn golygu, yn hytrach na gwrthwynebu, y byddem o blaid profi ynni adnewyddadwy glân mewn cytgord â natur. 

Hefyd, mae cyfleoedd economaidd yn deillio o ddull profi llai, oherwydd byddai angen i'r prosiect weithio gydag ymchwilwyr ac academia i ddatblygu sylfaen dystiolaeth amgylcheddol, er enghraifft, datblygu’r dechnoleg fonitro sydd ei hangen i asesu effaith y technolegau newydd, lliniaru llawer o bryderon, a sbarduno Adferiad Gwyrdd a Glas gwirioneddol ar ôl Covid-19.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion 

  • Mae Morlais yn gofyn am ganiatâd o dan Ddeddf Gorchymyn Trafnidiaeth a Gweithfeydd i gynnal prosiect 240MW ar Ynys Lawd oddi ar arfordir Ynys Môn.  
  • Mae adroddiad byd-eang 2019 IPBES1, wnaeth hysbysu’r byd bod miliwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu, hefyd yn cydnabod bod newid hinsawdd yn fygythiad sylweddol ac mae yn y trydydd safle ar ôl newidiadau yn nefnydd y tir a’r môr, a chamfanteisio’n uniongyrchol ar organebau, e.e. pysgota a thorri a thrin coed. Ar gyfer y DU, mae’r adroddiadau Sefyllfa Byd Natur rhwng 2016 a 2019 yn dweud wrthym ni mai’r prif bethau sy’n gyrru’r newid yn yr amgylchedd morol yw cyfuniad o orecsbloetiaeth, e.e. pysgodfeydd a newid hinsawdd2. O ganlyniad i hynny, ni fydd modd gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth forol drwy leihau allyriadau carbon yn unig, felly mae angen dull mwy integredig o wneud penderfyniadau, sy’n gweld yr un gwerth mewn diogelu bywyd gwyllt a chanlyniadau adfer ag y mae mewn canlyniadau lleihau carbon.
  • 1 Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Ecosystemau a Bioamrywiaeth (IPBES). 
  • 2 I gynyddu perthnasedd yr adroddiad hwn i bolisi, mae awduron yr asesiad, am y tro cyntaf erioed ar y raddfa hon (ac yn seiliedig ar ddadansoddiad trylwyr o’r dystiolaeth sydd ar gael), wedi pennu’r pum prif beth sy’n gyrru newidiadau mewn natur yn uniongyrchol ac sydd wedi cael yr effeithiau byd-eang mwyaf hyd yn hyn, a’u rhoi mewn trefn. Dyma’r rhai sy’n gyfrifol, o’r mwyaf i’r lleiaf: (1) newid defnydd y tir a'r môr; (2) camfanteisio ar organebau’n uniongyrchol; (3) newid hinsawdd; (4) llygredd; a (5) rhywogaethau goresgynnol estron.
  • Araith y Prif Weinidog Mark Drakeford yn yr Ŵyl Adferiad Gwyrdd (22 munud i mewn i'r fideo)

Last Updated: Friday 4 September 2020

Tagged with: Country: Wales Country: Wales Country: Wales Topic: South Stack, Anglesey Topic: Conservation Topic: Energy Topic: Marine Topic: Wales