RSPB Cors Ddyga – agor drws ar un o ryfeddodau cudd Môn

Danny Wyn Griffith

Thursday 13 July 2017

Mae cyn-bwll glo sy'n llawn o fywyd gwyllt rhyfeddol a phlanhigion prin, newydd gychwyn ar bennod newydd yn ei hanes...

Mae RSPB Cymru wrth eu bodd o gyhoeddi bod eu gwarchodfa natur dawel ar Ynys Môn, RSPB Cors Ddyga, oedd gynt wedi'i henwi yn 'Malltraeth Marsh', yn cael ei hagor yn swyddogol gan Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth am 13:00,17 Gorffennaf 2017.

 Yn gynharach eleni gwobrwywyd y warchodfa gwlyptir ag arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, i wella a gwarchod y cynefin a rhywogaethau prin y warchodfa. Mae'r project hefyd wedi cael cymorth gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, cynllun gan Lywodraeth Cymru yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn. 

Diolch i'r ariannu hyn, mae'r warchodfa wedi elwa mewn tri maes:

1. Crewyd paneli dehongli ynghyd â llwybr dau gilometr i ymwelwyr weld rhyfeddodau'r gwlyptir.

2. Galluogwyd tîm RSPB Cors Ddyga i osod llifddorau i wella'r gwelyau cyrs gan fod cynyddu lefel y dwr yn dda i ddenu rhywgaethau amrwyiol i'r warchodfa.

3. Comisiynwyd Duncan Kitson i greu cerflun pren o aderyn y bwn, i ddynodi uchafbwynt diweddar y wrachodfa pan nythodd aderyn y bwn ar RSPB Cors Ddyga nôl yn 2016 - y tro cyntaf yng Nghymru ers 32 mlynedd.

Meddai Ian Hawkins, Rheolwr Safle RSPB Cors Ddyga: "Dyma le perffaith i dreulio awr neu ddwy a chael seibiant oddi wrth y byd mawr. Mae'n fwrlwm o hanes a rydym yn falch iawn o gael agor ein drysau i'r cyhoedd er mwyn dangos ffrwyth ein llafur ers inni ddechrau rheoli'r warchdfa nôl yn 1994. Dyma brofi os adeiladwch gartref i fyd natur, mae nhw'n dod iddo!"

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: "Pleser fydd cael agor RSPB Cors Ddyga yn swyddogol er mwyn i bobl leol ac ymwelwyr gael gwerthfawrogi'r warchodfa. Mae safleoedd fel Cors Ddyga yn un o'n trysorau naturiol ni, a rydw i'n ddiolchgar i RSPB Cymru am y gwaith mae nhw wedi ei wneud yn gofalu am y gors. Un o lwyddiant mawr eu gwaith caled nhw oedd fod Aderyn y Bwn wedi dewis nythu yno'r llynedd - y tro cyntaf iddo nythu yng Nghymru ers tri degawd - ac rydw i'n edrych ymlaen i gael clywed plant Ysgol Esceifiog yn perfformio'r gân 'Deryn y Bwn'."

Ychwangodd Ian Hawkins: "Mae'r cyllid hael rydym wedi derbyn wedi ei gwneud yn bosibl i RSPB Cors Ddyga i ddechrau ar bennod newydd yn ein hanes gan helpu ei datblygiad parhaus er mwyn sicrhau bod y planhigion a bywyd gwyllt yn parhau i ffynnu.

"Mae phob tymor yn dod â'i chyfoeth ei hun o fywyd gwyllt. Mae blodau gwlypdir hardd yn ymddangos yn y gwanwyn: yr yr ellesgen, pluddail y dwr a'r pelenllys gronynnog rhedynog prin, tra yn y gaeaf gallwch weld boda tinwyn, hebogiaid tramor a'r cudyll bach - mae pob un yn bleser i'w gweld. Rwy'n aml yn cael syrpreis annisgwyl pan dwi'n cerdded o amgylch y warchodfa, o weld dyfrgwn yn popian eu pennau uwchben y dwr i'r foment arbennig pan sylweddolais fod aderyn y bwn yn nythu ar y warchodfa - dwi'n dal i wenu. Pwy a wyr be' fydda' i'n weld yfory. "

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae ein treftadaeth naturiol yn adnodd mwyaf gwerthfawr a, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae grantiau CDL wedi helpu i ddiogelu amrywiaeth anhygoel o dirweddau, cynefinoedd, a rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch iawn i gefnogi'r prosiect yma, fydd yn ysgogi diddordeb pobl yn y byd naturiol, ac felly eu helpu i warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. "

Mae'r warchodfa hefyd yn cynnig profiadau gwirfoddoli newydd gwych i'r gymuned leol a'r cyfle i ddarganfod treftadaeth leol y safle; trwy waith ymarferol, sgiliau treftadaeth a chyfleoedd ymchwil. Am fwy o wybodaeth am y cyfleon yma cysylltwch â Swyddog Cymunedol a Datblygu Gwirfoddolwyr RSPB Cymru, Eva Vaquez-Garcia, ar 01248 672850/ eva.vazquezgarcia@rspb.org.uk.

Felly, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi RSPB Cors Ddyga ar eich rhestr 'lleoedd i ymweld â nhw' yr haf hwn...

1. Yr RSPB yw elusen gadwraeth natur fwyaf y DU, ac mae hi'n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Ynghyd â'n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt mewn perygl fel bod ein trefi, ein harfordir a'n cefn gwlad unwaith eto'n llawn o fywyd gwyllt. Mae gennym ran arweiniol o fewn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o gyrff cadwraeth byd natur.

2. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn buddsoddi arian i helpu pobl ar draws y DU i archwilio, mwynhau a gwarchod y dreftadaeth maent yn gofalu amdano - o'r archaeoleg o dan ein traed i'r parciau ac adeiladau hanesyddol yr ydym yn garu, o atgofion gwerthfawr a casgliadau i fywyd gwyllt prin. www.hlf.org.uk. Dilynwch nhw ar Twitter, Facebook a Instagram a defnyddio #HLFsupported.

3. Mae'r warchodfa yn rhan allweddol o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) Cors Ddyga. Mae'r llynnoedd, pyllau a ffosydd ymysg y pwysicaf yn y DU am eu planhigion gwlyptir. Mae nhw'n cynnal dros 30 o rywogaethau prin fel pluddail y dwr (Hottonia palustris) a'r pelenllys gronynnog (Pilularia globulifera) - a ffynnodd o ganlyniad i reolaeth y warchodfa ar ran y gornchwiglen. O ganlyniad mae yma un o gytrefi mwyaf y DU. Mae'r SDdGA yn un o ddim ond tri yng Nghymru a ddynodwyd oherwydd cyfoeth ei infertebratau dyfrol - fel chwilod dwr, a gweision neidr a mursennod prin. Yma ceir gwas y neidr blewog, sy'n brin yn genedlaethol, a'r fursen dinlas gyffredin sydd hefyd yn anghyffredin.

4. Mae Ynys Môn yn arbennig o gyfoethog o ran gwlyptir, gydag amryw o lynnoedd bellach yn llenwi pantiau a grafwyd o'r tirlun yn ystod yr oes iâ ddiwethaf. Mae sawl ffen yng ngogledd Môn ymysg y mwyaf cyfoethog yn y DU ac yn rhyngwladol bwysig. Mae RSPB Cors Ddyga -a grëwyd gan law dyn - yn eithaf newydd o'i chymharu, ond mae'n un o wlyptiroedd mwyaf iseldir Cymru.

5. Ar un pryd roedd y warchodfa'n lleoliad i bwll glo Berw. Wrth i'r glöwyr ddilyn y gwythiennau glo roedden nhw'n hwalu'r ddaear y tu ôl iddyn nhw er diogelwch. Roedd hyn yn creu pantiau a lenwodd yn fuan iawn â dwr a bywyd gwyllt.

Last Updated: Tuesday 28 August 2018

Tagged with: Country: Wales Topic: Reserves