
Mae RSPB Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ledled Cymru sydd ag ychydig oriau i'w sbario bob mis i helpu eu hachos.
Fel codwr arian hanfodol ar gyfer yr elusen gadwraeth, mae gwirfoddolwyr casglu bathodynnau pin yn chwarae rhan bwysig wrth osod a gwirio blychau bathodynnau pin mewn safleoedd sy’n cynnwys caffis, canolfannau garddio a siopau yn eu hardal leol.
Y llynedd fe amharodd Covid-19 ar gynllun bathodyn pin yr RSPB, ac mewn rhai ardaloedd lleihawyd rhoddion gan tua 70% o gymharu ag incwm y flwyddyn flaenorol, gan effeithio ar waith yr elusen i achub byd natur.
Eleni, mae RSPB Cymru yn awyddus i ailadeiladu’r cynllun ar ôl colli gwirfoddolwyr gwerthfawr a lleoliadau blwch bathodynnau o ganlyniad i’r pandemig. Mae'r rôl yn cynnwys ailstocio blychau gyda'u hamrywiaeth hyfryd o fathodynnau pin bywyd gwyllt enamel a rhoddion bancio. Mae’n rôl hyblyg iawn, ac mae’n gweithio o amgylch ffyrdd o fyw pobl, boed yn astudio, yn gweithio neu’n ymddeol.
Dywedodd Daniel Suge, Swyddog Codi Arian Cymunedol RSPB Cymru:
“Mae angen help i daclo’r yr argyfwng natur a hinsawdd ac rydw i wastad wedi gweld ein gwirfoddolwyr fel rhan hollbwysig o’r frwydr hon. Trwy weithio gyda gwirfoddolwyr a chymunedau, gallwn ddylanwadu a helpu bywyd gwyllt i fynnu yn ein cymunedau.”
Dywedodd Brian Thomas, Gwirfoddolwr Bathodyn Pin o Ferthyr Tudful:
“Er bod fy aelodaeth yn cyfrannu at waith yr RSPB, rydw i wastad wedi meddwl y gallwn i fod yn gwneud mwy i gynorthwyo’r achos. Pan welais eu bod yn chwilio am bobl i wirfoddoli a pha mor hanfodol yw codi arian i’r gymdeithas, roedd yn rhaid i mi gymryd rhan.”
Ychwanegodd Daniel:
“Os hoffech ymuno â’n tîm gwych o wirfoddolwyr, yna cysylltwch â thîm Codi Arian Cymunedol RSPB Cymru ar cymru@rspb.org.uk, a bydd eich Swyddog Codi Arian Cymunedol mewn cysylltiad.”
DIWEDD