
Meddai Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwraig RSPB Cymru:
English version available here.
‘Rydym yn croesawu ymgynghoriad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar beth ddylai polisïau ffermio a rheolaeth tir eu cyflawni yn y dyfodol yng Nghymru. Rydym yn credu fod defnyddio arian trethdalwyr i gefnogi ffermwyr i reoli tir mewn ffyrdd a fydd yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i edrych ar ôl yr amgylchedd yn gam i’r cyfeiriad cywir. Bydd hyn hefyd yn gam positif ymlaen wrth i ni weithio i fynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol sy’n bygwth goroesiad y bywyd gwyllt anhygoel sydd gennym yng Nghymru, yn ogystal â bygythiadau’r argyfwng hinsawdd.
‘Rydym hefyd yn croesawu cynigion i ddarparu cefnogaeth gynghorol fydd yn helpu ffermwyr a rheolwyr tir i edrych ar ôl yr amgylchedd. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn credu y dylai’r cyngor yma gael ei weld fel buddsoddiad yng ngallu ffermwyr i warchod natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd hyn yn holl bwysig os yr ydym am ddod a rhai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig fel y gylfinir a’r gornchwiglen yn nôl i’n cefn gwlad.
‘Mae yna lawer o waith i’w wneud i ddylunio’r polisi newydd hwn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, ffermwyr a phartïon eraill o ddiddordeb yn nes ymlaen yn y flwyddyn i archwilio sut y bydd y cynigion hyn yn gweithio ar lawr gwlad.’
DIWEDD
Nodiadau i’r golygydd:
1. Yr RSPB yw elusen gadwraeth natur fwyaf y DU, ac mae hi’n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Ynghyd â’n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt mewn perygl fel bod ein trefi, ein harfordir a’n cefn gwlad unwaith eto’n llawn o fywyd gwyllt. Mae gennym ran arweiniol o fewn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o gyrff cadwraeth byd natur.
Last Updated: Friday 12 July 2019