
English version available here
Mae RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd yn cynnal cyfres o weithgareddau i’r teulu ar wythnos gyntaf Mis Awst. Wrth i filoedd deithio o bob cwr o’r wlad i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y brifddinas, mae’r gweithgareddau sydd yn eich taflu’n ôl i oes arall yn digwydd ychydig filltiroedd o faes yr Eisteddfod.
Mae ‘Gweithgareddau hwyliog Oes y Cerrig’, sydd yn cael eu rhedeg o 1 – 9 Awst, yn gyfle gwych i blant a theuluoedd gael gweld olion traed a ffosiliau cynhanesyddol. Mi fydd yna hefyd gyfle i roi cynnig ar adeiladu potiau a chytiau mwd Oes y Cerrig, cloddio am hoelion dinosoriaid, a chastio olion traed.
Bydd staff yr RSPB yn barod i groesawu unrhyw ymwelwyr o’r Eisteddfod fydd yn chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol ag amgen i’w wneud yn ystod y brifwyl.
Dywedodd Rheolwr RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd, Lorraine Leicester: “Mae’r gweithgareddau hyn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am hen hanes yr ardal unigryw yma o Gymru. Mae Gwylptiroedd Casnewydd yn llawn oelion difyr sydd filoedd flynyddoedd oed, ac yn llawn bywyd gwyllt anhygoel. Mae digon yma i’r teulu i gyd, ynghyd â chaffi a siop.
“Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd i lawr y lôn ym Mae Caerdydd, mae’r gweithdai yma hefyd yn gyfle gwych i gael seibiant o brysurdeb y brif ddinas. Dewch draw i weld ychydig o fywyd gwyllt yr ardal. Yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r warchodfa yn llawn bwrlwm, gyda gloÿnnod byw, hwyaid o bob math a gwyddau Canada yma yn eu niferoedd.”
Lleoliad: RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd, NP18 2BZ
Dyddiadau mis Awst:
•Mercher 1
•Iau 2
•Llun 6
•Mawrth 7
•Mercher 8
•Iau 9
Amser: 10.30yb – 12.00 a 2yp – 3.30yp
Mae’r weithgaredd yn £4.40 i aelodau’r RSPB a £5.50 i’r rhai sydd ddim yn aelodau
Bydd hefyd weithgareddau Hwyl Cynhanesyddol Oes y Cerrig i blant iau ar Awst 3 a 10, a Phenwythnos Ysbienddrych a Thelesgop ar 4 a 5 Awst
Er mwyn archebu lle, ffoniwch y warchodfa ar 01633 636363
DIWEDD
Am wybodaeth bellach ac i drefnu cyfweliad, cysylltwch â:
Deio Gruffydd, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru, 02920 353007 deio.gruffydd@rspb.org.uk
Nodiadau i’r golygydd:
1.Yr RSPB yw elusen gadwraeth natur fwyaf y DU, ac mae hi’n ysbrydoli pawb i roi cartref i fyd natur. Ynghyd â’n partneriaid, rydym yn gwarchod adar a bywyd gwyllt mewn perygl fel bod ein trefi, ein harfordir a’n cefn gwlad unwaith eto’n llawn o fywyd gwyllt. Mae gennym ran arweiniol o fewn BirdLife International, partneriaeth fyd-eang o gyrff cadwraeth byd natur.
2.Mae ‘Ewch yn frwnt yn y Mesolithig - Gweithgareddau hwylus Oes y Cerrig’ yn cael ei gynnal ar y cyd gydag Amgueddfa ac Oriel Celf Casnewydd
Last Updated: Tuesday 28 August 2018