Gwylio Adar yr Ysgol, 3 Ionawr - 17 Chwefror 2017
Bydd miloedd o blant ysgol ledled Cymru yn cyfnewid eu llyfrau am ysbienddrych y tymor hwn er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg bywyd gwyllt mwyaf ar gyfer ysgolion y DU.
Bydd Gwylio Adar yr Ysgol yr RSPB 2017 yn digwydd yn ystod hanner cyntaf tymor y gwanwyn a bydd yn helpu plant i ddarganfod y bywyd gwyllt rhyfeddol sy'n rhannu eu tiroedd ysgol, wrth ddarparu cipolwg defnyddiol i ba rywogaethau sy'n ffynnu neu'n dirywio.
Yn ôl ymchwil a wnaed gan yr RSPB2, mae un mewn pump o blant wedi datgysylltu oddi wrth natur. Mae Gwylio Adar yr Ysgol yn bwriadu ysbrydoli plant i ofalu am y byd naturiol o'u cwmpas, yn y gobaith y byddan nhw'n dymuno'i warchod yn y dyfodol.
Y llynedd, cymerwyd rhan gan bron i 100,000 o ddisgyblion ac athrawon o ysgolion drwy'r DU drwy gyfrif yr adar a oedd yn ymweld â thir eu hysgol, a gobeithir y bydd hyd yn oed mwy yn cymryd rhan eleni. Dros y blynyddoedd, mae mwy na 70 o wahanol rywogaethau wedi cael eu cofnodi ar diroedd ysgolion, sy'n amrywio o bïod a thitw tomos las i farcutiaid coch a bwncathod. Yr aderyn du oedd yr ymwelydd a welwyd fwyaf ar feysydd chwarae Cymru yn 2016, gydag aderyn y to yn ail a'r drudwy yn drydydd5.
Ers iddo gael ei lansio yn 2002, mae Gwylio Adar yr Ysgol wedi darparu llawer o gyfleoedd i blant ac athrawon i ddarganfod sut i roi cartref i fyd natur ar dir eu hysgol. Mae llawer o ysgolion yn paratoi ar gyfer y digwyddiad ymlaen llaw drwy osod bwydwyr a blychau nythu a gwneud teisen ar gyfer yr adar. Mae gweld a chyfrif yr adar sy'n dod at y bwydwyr yn ystod Gwylio Adar yr Ysgol yn wobr berffaith am eu hymdrechion.
Dywedodd Sarah Mitchell, Swyddog Addysg, Teuluoedd ac Ieuenctid RSPB Cymru: "Gobeithiwn y bydd y cyffro a'r disgwyliad o weld eu bywyd gwyllt yn ystod Gwylio Adar yr Ysgol yn ysbrydoli plant i fynd allan a mwynhau'r profiad o'r byd naturiol o'u cwmpas.
"Gyda phlant yn dod yn fwyfwy datgysylltiedig efo byd natur, sydd yn aml o ganlyniad i iechyd corfforol ac iechyd meddyliol gwael, rydym ni'n dymuno rhoi cymaint o gyfleoedd ag sy'n bosibl i bobl ifanc fwynhau a deall bywyd gwyllt, ac yn bwysicach na hynny, cael hwyl."
Gwylio Adar yr Ysgol yw'r fersiwn ysgol o Gwylio Adar yr Ardd - arolwg bywyd gwyllt yr ardd fwyaf yn y byd sydd wedi cael ei anelu at deuluoedd ac unigolion a gynhelir dros dridiau ar 28, 29 a 30 Ionawr 2017. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan yr RSPB yn rspb.org.uk/birdwatch
Er mwyn cofrestru i gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ysgol yr RSPB yn 2017, ewch i rspb.org.uk/schoolswatch os gwelwch yn dda.
1. Elusen cadwraeth natur fwyaf y DU yw'r RSPB, sy'n ysbrydoli pawb i roi cartref i natur. Ynghyd â'n partneriaid, rydym ni'n gwarchod adar a bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad, fel bod ein trefi, ein harfordiroedd a'n cefn gwlad yn gyforiog gyda bywyd gwyllt unwaith eto. Rydym ni'n chwarae rhan flaenllaw yn BirdLife International, sy'n bartneriaeth o sefydliadau cadwraeth natur drwy'r byd www.rspb.org.uk
2. Mae prosiect ymchwil tair blynedd, a wnaed gan yr RSPB ? a adroddwyd yn Connecting with Nature - yn datgelu pa mor gysylltiedig â natur yw plant drwy'r DU. Dengys y canlyniadau cenedlaethol ar hyn o bryd mai 21 y cant yn unig o blant rhwng 8-12 oed sydd â chysylltiad â lefel o natur y mae'r RSPB yn ei gredu sy'n darged realistig a chyraeddadwy i bob plentyn. Mae'r adroddiad llawn, a'r adroddiad methodolegol o Brifysgol Essex ar gael i'w lawrlwytho o rspb.org.uk/connectionmeasure
3. Un awr yn unig y mae Gwylio Adar yr Ysgol yn ei gymryd a gall athrawon ddewis unrhyw ddiwrnod yn ystod hanner cyntaf tymor y gwanwyn. Mae'n gweithio drwy ystod oed a gallu eang ac mae digon o hyblygrwydd i'w weithredu'n syml fel y byddai athrawon yn hoffi, un ai fel canolbwynt ar gyfer astudiaethau trawsgwricwlaidd, gwaith prosiect neu fel ffordd o wella tir eu hysgol.
4. Mae Gwylio Adar yr Ysgol a Gwylio Adar yr Ardd yn rhan o ymgyrch yr RSPB i Roi Cartref i Natur, sydd wedi'i anelu at ymdrin ag argyfwng cartrefi sy'n wynebu bywyd gwyllt o dan fygythiad yn y DU. Mae'r RSPB yn gofyn i bobl ddarparu lle i fywyd gwyllt ar dir eu hysgol, yn eu gerddi eu hunain neu mewn lleoedd y tu allan.
5. Canlyniad Cymru ar gyfer Gwylio Adar yr Ysgol 2016:
Safle 2016 |
Rhywogaeth |
Cyfartaledd yr ysgol yn y DU 2016 |
% o ysgolion yn y DU 2016 |
1 |
Mwyalchen |
5.90 |
81.6 |
2 |
Aderyn y to |
5.03 |
66.0 |
3 |
Drudwen |
4.88 |
53.4 |
4 |
Jac-y-do |
3.71 |
54.4 |
5 |
Pioden |
3.47 |
74.8 |
6 |
Titw tomos las |
3.44 |
61.2 |
7 |
Brân dyddyn |
3.15 |
62.1 |
8 |
Gwylan benddu |
3.11 |
41.7 |
9 |
Gwylan y penwaig |
2.90 |
43.7 |
10 |
Ysguthan |
2.15 |
53.4 |
11 |
Robin goch |
2.12 |
78.6 |
12 |
Ji-binc |
1.40 |
35.0 |
13 |
Colomen ledwyllt |
1.39 |
20.4 |
14 |
Titw mawr |
1.32 |
40.8 |
15 |
Titw cynffon-hir |
0.88 |
14.6 |
16 |
Titw penddu |
0.87 |
27.2 |
17 |
Turtur dorchog |
0.70 |
25.2 |
18 |
Llwyd y gwrych |
0.51 |
14.6 |
19 |
Ydfran |
0.46 |
7.8 |
20 |
Dryw |
0.45 |
29.1 |
6. Mae ymgyrch Rhoi Cartref i Natur yr RSPB wedi'i anelu at ymdrin â'r argyfwng cartrefi sy'n wynebu bywyd gwyllt o dan fygythiad yn y DU. Mae'r elusen yn gofyn i bobl ddarparu lle ar gyfer bywyd gwyllt ar dir eu hysgol, yn eu gerddi eu hunain ac mewn lleoedd y tu allan - p'un ai drwy osod blwch nythu ar gyfer adar, creu pwll ar gyfer brogaod a llyffantod neu adeiladu cartref ar gyfer draenog. Ewch i rspb.org.uk/myplan a gallwch greu eich cynllun personol eich hun a rhoi cartref i natur wrth eich ymyl chi.
Last Updated: Tuesday 28 August 2018