Dewiswch iaith: Cymraeg English

RSPB organic farm at Lake Vyrnwy

Cymru

Gyda dychweliad ambell i rywogaeth brin a’n hymdrechion i gysylltu pobl gyda bywyd gwyllt Cymru, rydym wedi cael blwyddyn gofiadwy, esbonia Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru.

Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru

Yn adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru, a luniwyd gan yr RSPB a 50 o gyrff cadwraeth eraill, ceir darlun o dynged bywyd gwyllt Cymru.

Yn drist iawn, mae un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru wedi diflannu neu’n prinhau. Er gwaethaf hyn, roedd y lansiad yn ddigwyddiad lliwgar a chafwyd barddoniaeth, y gair llafar, rapio, graffiti, cerddoriaeth a brain coesgoch tal iawn (perfformwyr stryd) wrth fynd â’r adroddiad i strydoedd Caerdydd. 

Wrth lansio’r adroddiad yn gyhoeddus, bydd mwy o bobl yn gwybod amdano. O holi pobl ynglŷn â gwerth byd natur cafwyd atebion teimladwy. “Hebddyn nhw (bywyd gwyllt), does dim ni,” oedd un sylw o’r galon. Mae’r teimlad hwn wrth wraidd un arall o uchelbwyntiau eleni sef cynnwys bioamrywiaeth yng nghyfraith Cymru.

Ymrwymiad i fioamrywiaeth

Eleni rhoddwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n gosod ymrwymiad i “ddatblygu cynaliadwy” wrth wraidd holl weithrediadau cyrff cyhoeddus Cymru, ac sy’n nodi saith amcan llesiant eang dros Gymru, ar waith. Ymysg y rhain mae galwad am Gymru wydn sy’n “cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau gweithredol iach”.

Rhoddwyd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i reoli adnoddau naturiol Cymru a mynd i’r afael â newid hinsawdd, hefyd ar waith. Cyfrannodd staff RSPB Cymru tuag at gyflenwi gwybodaeth a dylanwadu ar agweddau allweddol y ddwy Ddeddf.

Gyda’i gilydd, mae’r deddfau yma’n darparu fframwaith dros ddatblygu cynaliadwy a rheolaeth amgylcheddol sy’n cynnwys ymrwymiad clir i wella bioamrywiaeth.

Y fframwaith hwn sy’n gosod y cefndir ar gyfer polisïau rheoli tir a môr yng Nghymru yn dilyn Brexit. Gyda datblygu cynaliadwy a bioamrywiaeth wrth wraidd y ddwy ddeddf yma, gobeithiwn y byddan nhw’n parhau i fod yn ganolog i unrhyw bolisïau yn y dyfodol.

Serch hyn, rydym yn gwybod bod cryn waith eto i’w wneud. Cawn weld sut y bydd pethau’n newid “ar y ddaear” ac fe weithiwn gyda’n partneriaid i sicrhau y bydd y fframwaith yn gwireddu ei amcanion dros yr amgylchedd.

European otter Lutra lutra, swimming alongside river bank, Norfolk, England
Otter

Y diweddaraf â’r ymgyrchoedd

Mae’r dyletswyddau bioamrywiaeth a datblygu cynaliadwy sy’n rhan hanfodol o’r Deddfau hyn wedi ychwanegu hwb pellach i’n gwrthwynebiad i’r “ffordd osgoi’ arfaethedig ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae’r llwybr a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn rhedeg drwy Lefelau Gwent, pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a chors bori arfordirol mwyaf Cymru ar orlifdir. Mae’n debyg o gael effaith ddifrifol ar fywyd gwyllt yn cynnwys llygod pengrwn y dŵr, ystlumod a chardwenyn main.

Nythodd garanod cyffredin yno'r llynedd – y tro cyntaf i aranod nythu yng Nghymru ers rhyw 400 o flynyddoedd – ac mae hyn yn amlygu gwir botensial y cynefin o dan fygythiad.

Aerial view of Newport Wetlands
View looking over estuary with Snowdonia in the distance, Conwy RSPB Reserve

Llunio ucheldir Cymru

O wlyptiroedd yr iseldir awn i drafod dyfodol ucheldir Cymru a’i ystod o gynefinoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol ac sy’n darparu cartrefi i rywogaethau eiconig fel y boda tinwyn, y gylfinir a’r rugiar ddu. Yn drist, mae llawer o’r cynefinoedd mewn cyflwr gwael ac mae nifer o adar yr ucheldir ar y Rhestr Goch o bryder cadwraethol uchel. Er y byddwn yn wynebu heriau amrywiol wrth i Brydain adael yr UE, cawn gyfle hefyd i ail-gysylltu ffermio ar yr ucheldir gyda pholisïau rheoli tir cynaliadwy a fydd o fudd i’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn sydd o dan fygythiad.

Ym mis Mawrth 2017 cynhaliwyd cynhadledd ar y cyd â Phrifysgol Bangor ac Ymgynghori Cynidr ar ddyfodol ffermio ar yr ucheldir yn dilyn Brexit. Daeth llawer o ffermwyr a rhanddalwyr gwledig eraill i’r gynhadledd ac roeddem yn gallu rhannu ein profiad ein hunain o reoli fferm organig ar stad Efyrnwy. Yn fusnes proffidiol, mae fferm Tŷ Llwyd yn enghraifft glir o sut all rheolaeth sensitif sicrhau buddion lu fel gwell ansawdd dŵr a thirlun y gall bywyd gwyllt ffynnu ynddo.

Yn y gynhadledd cafwyd cyfle gwych i drafod rheolaeth yr ucheldir gyda rhanddalwyr gwledig ac wedi’r digwyddiad, cyflwynwyd adroddiad i Lywodraeth Cymru yn nodi blaenoriaethau polisi mynychwyr y gynhadledd. Roedd galwad digamsyniol am weledigaeth glir ar gyfer ucheldir Cymru, a byddwn yn gweithio i roi bioamrywiaeth a chynaladwyedd wrth wraidd y weledigaeth hon.

View looking across Ynys-hir to mountains

Môr-wenoliaid gwridog ar Ynysoedd y Moelrhoniaid

Yn 2016 cafwyd yr ymgais gyntaf mewn 10 mlynedd gan bâr o fôr-wenoliaid gwridog i nythu ar Ynysoedd bach creigiog y Moelrhoniaid oddi ar Ynys Môn.

Meddai’r Warden Ian Sims: “Rydym wrth ein bodd bod môr-wenoliaid wridog yn nythu eto er, yn drist, ni oroesodd cyw’r pâr, gan iddo ddeor yn hwyr iawn yn y tymor. Roedd yn debygol iawn na fyddai’n goroesi.”

Mae’r ymgais i nythu’n arbennig o arwyddocaol gan fod poblogaeth y fôr-wennol wedi gostwng o 10% o leiaf eleni oherwydd ffynhonnell o fotwliaeth. “Mae pob dim yn iawn hyd yma”, meddai Ian am obeithion eleni.

“Rydym i gyd yn gobeithio y byddan nhw’n dychwelyd i nythu yma bob blwyddyn.”

 Roseate tern on nest amongst lichen covered rocks

Dychweliad adar prin i Gymru

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf dychwelodd adar y bwn, a nythodd am y tro olaf yng Nghymru ar warchodfa Gwlyptiroedd y Fali ym 1984, i nythu yng Nghors Ddyga (a elwid gynt yn Malltraeth Marsh), Ynys Môn. Cafwyd hyd i’w nyth ym mis Mehefin a dywedodd y Rheolwr Safle Ian Hawkins bod dau gyw wedi hedfan y nyth. 

Prynwyd Cors Ddyga gennym ym 1994 gyda’r nod penodol o ddarparu cynefin i adar y bwn, ac rydym yn falch bod y gwaith yn talu ar ei ganfed erbyn hyn. 

Rydym hefyd wedi bod yn dathlu dychweliad boda’r gwerni, a nythodd am y tro olaf yng Nghymru yn 1946. Magwyd pedwar cyw ar Gors Ddyga’r flwyddyn ddiwethaf. “Mae’n wych cael boda’r gwerni yng Nghymru,” meddai Ian.

“Rydym wedi gwella gwlyptiroedd mewn ardaloedd addas ar Ynys Môn a de Cymru, ac yn rhoi gwir gartref i fyd natur. Mae’r cynefinoedd yn agored ac yn aeddfedu, ac yn barod i fyd natur eu defnyddio.”

Marsh harrier, female in flight, Strumpshaw Fen, Norfolk

Hanner miliwn o bunnoedd i fyd natur yng Nghaerdydd

Cyrhaeddwyd cerrig milltir arwyddocaol o ran rhoi cartref i fyd natur, a gallwn ymfalchïo hefyd ein bod wedi sicrhau cynnydd yn ein huchelgais i sicrhau rhan pobl Cymru. Mae ein project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd a Buglife Cymru, wedi elwa o £500,000 o Gronfa'r Loteri Fawr.

Ers i’r project gychwyn yn 2014, rydym wedi cysylltu dros 20,000 o blant gyda byd natur yng Nghaerdydd drwy ein gwaith mewn ysgolion, parciau a mannau agored. Mae'r arian gwych newydd hwn yn golygu y gallwn ysbrydoli mwy o bobl ifanc, yn ogystal â’u teuluoedd a’u cymunedau, i fwynhau a chysylltu â bywyd gwyllt Caerdydd am bum mlynedd arall.

A girl from Cardiff showing off her re-wilded welly.

Rhesymau i fod yn obeithiol

Y llynedd, cafwyd llu o straeon am lwyddiant; dengys hyn natur tymor hir ein gwaith a’r angen am ymdrech barhaus. Er enghraifft, canlyniad llawer o flynyddoedd o waith datblygu cynefin yw dychweliad môr-wenoliaid gwridog ac adar y bwn. Yn yr un modd, mae pasio deddfwriaeth sy'n gosod bioamrywiaeth wrth wraidd penderfyniadau polisi cyhoeddus yng Nghymru wedi digwydd o ganlyniad i ymdrechion parhaus i ymgysylltu a darbwyllo. 

Er bod ein llwyddiannau’n rhesymau i fod yn obeithiol, mae’r darganfyddiad bod un o bob 14 o rywogaethau Cymru wedi diflannu neu mewn perygl o ddiflannu yn atgyfnerthu ein penderfyniad i achub byd natur Cymru.

 Bittern, feeding in reeds