
Natur ac Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016
Mae’n amser i godi llais dros natur. Ar 5 Mai, fe wnaethom ni ethol 60 o wleidyddion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Darganfyddwch sut y gallwch chi ddangos iddynt bod natur yn bwysig.
Mae'r etholiad ar ben: be' nesa?
Bydd y pumed Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am lwyddiant neu fethiant Cymru i gwrdd â'n hymrwymiadau rhyngwladol i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2020. Er mwyn cyrraedd y targedau hynny mae'n rhaid i ni roi cartref i fyd natur yng Nghymru.
Sut gallwch chi helpu
Gallwch chi wneud gwahaniaeth drwy ddanfon e-bost at arweinwyr y pum plaid yn y Cynulliad i adael iddynt wybod eich bod yn poeni am fyd natur, ac yr hoffech iddynt weithredu dros natur yn y Cynulliad hwn.
Gallwch ddefnyddio ein templed isod ar gyfer eich e-bost. Os fedrwch chi, ceisiwch bersenoli eich neges er mwyn ei gwneud yn fwy effeithiol. A chofiwch ychwanegu eich enw a'ch cyfeiriad ar y diwedd.
Templed e-bost
At: Carwyn.Jones@wales.gsi.gov.uk; Leanne.Wood@assembly.wales; AndrewRT.Davies@assembly.wales; Neil.Hamilton@assembly.wales
Pwnc: Helpiwch i roi cartref i fyd natur yng Nghymru
Testun:
Annwyl arweinydd grŵp y blaid yng Nghymru,
Y Cynulliad hwn bydd yn gyfrifol am ein llwyddiant neu fethiant i gyflawni ein hymrwymiad rhyngwladol i wrthdroi colled bioamrywiaeth erbyn 2020, ac yr ydym am sicrhau bod ein bywyd gwyllt yn cael ei ddiogelu.
Fedrwch chi wneud pob dim o fewn eich gallu, os gwelwch yn dda, i sicrhau bod y tri pheth canlynol yn flaenoriaeth ar gyfer eich parti yn y bumed Cynulliad Cenedlaethol?
1. Ymrwymo i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth - galluogi monitro cynhwysfawr o'n bioamrywiaeth i ymestyn ein dealltwriaeth o gyflwr byd natur yng Nghymru.
2. Defnyddio rheolaeth sy'n seiliedig ar wyddoniaeth i nodi, ac i roi ar waith, y camau hynny sydd eu hangen i adfer ein safleoedd bywyd gwyllt gorau i 'gyflwr ffafriol', i ddiogelu rhywogaethau dan fygythiad ac i sicrhau datblygu cynaliadwy.
3. Adfer cynefinoedd pwysig ar gyfer byd natur - creu lle i fyd natur yn ogystal â buddion i bobl trwy adfer cynefinoedd sydd dan fygythiad, megis mawndiroedd, gwlypdiroedd a choetiroedd Iwerydd.
Diolch yn fawr