Mae Gwylio Adar yr Ysgol yn rhoi cip blynyddol ar sut hwyl mae rhai o'n hoff adar yn ei gael ar dir yr ysgol. Sgroliwch i lawr i weld a oedd unrhyw beth annisgwyl, a gweld sut roedd arolwg eich disgyblion yn cymharu â’r deg uchaf yn gyffredinol.
Ni fyddai’r arolwg hwn wedi bod yn bosibl heb i athrawon a’u disgyblion ddod yn ddinasyddion-wyddonwyr am y diwrnod. Beth am barhau â’r sgwrs ? Pa newidiadau allai greu mwy o le i fyd natur ar dir eich ysgol?
Mae yna ddigon o ysbrydoliaeth ar gael yn ein Gwobr Her Wyllt, fel y gweithgaredd 'Plannu ar gyfer bywyd gwyllt' neu greu 'Crugyn Cynefin'.

Canlyniadau Gwylio Adar yr Ysgol 2022
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol 2022 y RSPB. Mae'r canlyniadau wedi cyrraedd erbyn hyn, felly mae'n bryd i chi weld sut mae eich ysgol yn cymharu â gweddill y DU.

Pa aderyn a ddaeth i'r brig?

Dim newid ar y brig
Mae Ysguthanod yn parhau i fod ar y brig yn Gwylio Adar yr Ysgol 2022. Mae’n gallu bod yn anodd gwahaniaethu rhwng cŵan yr ysguthan a chŵan y dutur dorchog. Ond mae ysguthanod yn cŵan i’r rhythm hwn: 'A proud wood-pi-geon' tra bod y dutur dorchog yn cŵan ei chefnogaeth i bêl-droed: ‘U-ni-ted!’
Rhifau 2 – 4
-
2. Aderyn du
Ffefryn mawr yn rhif dau. Mae’n debyg y byddwch chi’n gweld yr aderyn du yn eich gardd gartref hefyd.
-
3. Brân dyddyn
Mewn gwirionedd, mae wyth gwahanol fath o frân yn y DU. Allwch chi eu henwi?
-
4. Drudwy
Efallai fod y drudwy yn edrych yn ddu, ond mewn gwirionedd mae’n aderyn lliwgar iawn. Roedd y drudwennod yn y bedwerydd safle.
Rhifau 8 – 10
-
8. Titw tomos las
Mae’r titw tomos las weithiau’n nythu mewn llefydd rhyfedd iawn, fel peiriannau tocynnau a blychau postio.
-
9. Gwylan benddu
Mae yna lyfr plant enwog gyda gwylan benddu fel prif gymeriad. Ydych chi’n gwybod pa lyfr yw hwnnw?
-
10. Colomen wyllt
Mae colomennod gwyllt o bob math o liwiau a phatrymau i gael, o lwyd i goch!

Ysgogwch nhw i garu byd natur
Ydych chi wedi clywed am Her Wyllt yr RSPB? Mae’n gynllun gwobrwyo sydd ar gael am ddim i ysgolion, ac mae’n helpu i blant ymgysylltu â natur trwy gyfleoedd dysgu ymarferol. Os ydych chi wedi cwblhau Gwylio Adar yr Ysgol eleni, rydych chi gam yn nes at ennill Gwobr Efydd yn barod, ond mae mwy nag 20 o weithgareddau eraill i ddewis ohonynt. Mae’r wobr Her Wyllt yn darparu fframwaith perffaith ar gyfer dysgu ac mae’n agored i bob oed a gallu.

Dysgu ymarferol mewn gwarchodfa natur RSPB yn eich ardal chi
Mae gwarchodfeydd natur yr RSPB ledled y DU yn cynnig sesiynau dysgu sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm dan arweiniad arbenigwyr addysg. Dewch i’r awyr agored eleni gyda gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli dysgu’r cwricwlwm trwy fyd natur, a chyflawni eich amcanion dysgu ar yr un pryd.
Mae’r sesiynau amrywiol hyn ar gael mewn segmentau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, ac maen nhw’n cael eu cynnal yn amgylchedd hardd ein gwarchodfeydd natur, lle mae bywyd gwyllt yn aros i gael ei ddarganfod.

Y ganolfan addysg
Gadewch i ni eich helpu i ysbrydoli eich disgyblion gyda’r byd naturiol. Mae popeth sydd arnoch ei angen ar ein tudalen athrawon, petai’n wybodaeth am yr Her Wyllt neu’n gylchlythyr addysg.

Ymunwch â'r sgwrs
Rydym ni eisiau clywed gennych chi! Ymunwch â’r sgwrs ar Twitter neu Instagram, rhannwch eich anturiaethau gwyllt, a chael awgrymiadau a syniadau gwych.