Adduned Gad Natur Ganu
Ychydig iawn o bethau sy'n codi calon yn fwy na sain côr y wig ar fore braf o wanwyn, ond mae perygl gwirioneddol y gallai ein cefn gwlad fynd yn ddistaw. Mae niferoedd dros hanner o rywogaethau'r DU yn gostwng – gan gynnwys y gog, yr ehedydd a'r durtur – ac ers 1966 mae bellach 44 miliwn yn llai o adar yn harddu ein gwlad.
Mae ein bywyd gwyllt angen i lywodraethau ar draws y DU i weithredu a dyna pam yr ydym yn galw arnynt i greu cyfreithiau sydd ar flaen y gad er mwyn galluogi byd natur i ffynnu unwaith eto.
A wnewch chi godi eich llais heddiw a helpu i drawsnewid dyfodol natur? Ymunwch â ni a gadewch i natur ganu.
Ychwanegwch eich manylion isod os gwelwch yn dda fel y gallwn gofnodi eich cefnogaeth (peidiwch â phoeni, bydd cyfle i chi ddweud wrthym sut yr hoffech chi i ni gysylltu â chi).