Rhannwch y neges â chymdogion a phobl leol drwy roi un o’n posteri yn eich ffenestr.

Tri ffordd y gallwch chi weithredu

1. Defnyddio eich Ffenestr
Rhannwch y neges â chymdogion a phobl leol drwy roi un o’n posteri yn eich ffenestr.
2. Ymuno â’r Bwrlwm
Rhannwch eich angerdd dros fyd natur â’ch ffrindiau, eich teulu a’ch dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Ymunwch â ni drwy rannu eich lluniau a’ch sylwadau eich hun, neu defnyddiwch ein delweddau Adfywio Ein Byd sydd wedi cael eu paratoi yn barod. Peidiwch ag anghofio defnyddio #AdfywioEinByd a #RSPBCymru i ymuno â’r sgwrs!

3. Dod yn Bencampwr Ymgyrchu
Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed ar faterion yr ydych yn poeni amdanynt. Mae ein rhwydwaith o Bencampwyr Ymgyrchu yn hanfodol wrth sicrhau bod gwleidyddion a’r rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau pwysig yn gwybod bod materion sy'n effeithio ar fywyd gwyllt yn bwysig, a'u perswadio i wneud gwahaniaeth dros fyd natur. Y newyddion da yw y gellir gwneud llawer ohono gartref!