
Gweithredu Dros Natur
O fwynhau sain ddyrchafol cân yr adar trwy ffenestr agored, i gael dos i'w groesawu o awyr iach ac ymarfer corff mewn parc lleol, mae pobl ledled y DU yn troi at natur am gysur, ac efallai am y tro cyntaf.
Pa weithredoedd yr ydych chi’n cymryd?
Mae'n amser gwych i sylwi ar y gwerthfawrogiad newydd sydd i'r byd o'n cwmpas a chydweithio i adeiladu'r dyfodol yr ydym am ei weld. Mae'n amser #GweithreduDrosNatur. P'un a ydych chi'n bwydo bywyd gwyllt eich cymdogaeth, yn lobïo'ch AS, yn ysgrifennu cân brotest neu'n bwyta llai o gig a llefrith, rydyn ni wrth ein bodd yn gwybod pa gamau rydych chi eisoes yn eu cymryd dros fyd natur - mawr neu fach. Tynnwch lun neu fideo a'i rannu gyda ni. Trwy rannu eich gweithredoedd gallwch chi helpu i ysbrydoli eraill i wneud eu rhan hefyd, a chreu symudiad cadarnhaol. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen isod, neu #GweithreduDrosNatur. Mae'r ffurflen isod yn Saesneg, fodd bynnag, mae croeso i chi gyflwyno'ch atebion yn Gymraeg. |

