
Ennill gwyliau ar lan y Llyn
GWOBR LWCUS
Rheolau
- 1. Mae pawb sy’n byw yn y DU ac sy’n 18 oed neu’n hŷn yn gallu cystadlu am y wobr, ac eithrio cyflogeion yr RSPB, eu teuluoedd, asiantau neu unrhyw drydydd parti sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweinyddu'r wobr. Efallai y gofynnir am dystiolaeth o oedran.
- 2. Rhaid i gyfranogwyr gyfrannu rhodd o £1 neu fwy er mwyn cystadlu’n awtomatig am y wobr.
- 3. Rhaid cyfrannu ar-lein yn rspb.org.uk/deffroefyrnwy NEU drwy’r post i'r RSPB, The Lodge, Sandy, SG19 2DL, neu dros y ffôn ar 01767 693680. Dim ond un ymgais y pen NEU un ymgais i bob teulu a ganiateir. Codir cyfradd safonol y rhwydwaith am bob galwad.
- 4. Y dyddiad agor ar gyfer cystadlu yw 3 Medi 2019. Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu am y wobr yw hanner nos ar 31ain Rhagfyr 2019. Ni fydd unrhyw ymgais sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn yn ddilys.
- 5. Nid yw’r RSPB yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ymgais heb ei chwblhau’n llwyddiannus oherwydd nam technegol, diffyg technegol, methiant caledwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol, neu fethiant lloeren, rhwydwaith neu weinydd o unrhyw fath.
- 6. Bydd enillydd yn cael ei ddewis ar hap [drwy broses gyfrifiadurol NEU o dan oruchwyliaeth person annibynnol] ym mis Ionawr 2020.
- 7. Bydd yr enillydd yn cael aros am noson yn un o ystafelloedd gorau Gwesty Llyn Efyrnwy, gyda golygfa o’r llyn, a bydd y wobr yn cynnwys Brecwast a Chinio Nos ym Mwyty safonol y Tŵr gyda mynediad i'r Sba yn ystod yr arhosiad. Cofiwch nad yw’r costau teithio wedi’u cynnwys.
- 8. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu ar e-bost neu, os na fydd modd gwneud hynny, drwy’r post, gan ddefnyddio'r manylion sydd wedi’u rhoi gan y cyfrannwr, cyn diwedd mis Ionawr 2020, a rhaid darparu cyfeiriad post er mwyn hawlio’r wobr. Os nad yw enillydd yn ymateb i'r RSPB o fewn 21 diwrnod i gael gwybod gan yr RSPB, bydd gwobr yr enillydd yn cael ei hildio a bydd gan yr RSPB hawl i ddewis enillydd arall yn unol â’r broses a ddisgrifir uchod.
- 9. Bydd y wobr yn cael ei hanfon drwy’r post at yr enillydd o fewn 14 diwrnod i’w hysbysu ei fod wedi ennill.
- 10. Nid oes modd cyfnewid na throsglwyddo gwobr yr enillydd ac ni fydd unrhyw arian parod yn cael ei gynnig yn lle’r wobr.
- 11. Mae'r wobr yn cael ei rhoi gan Lake Vyrnwy Hotel Spa, Llanwddyn, Powys, SY10 0LY ac mae’n amodol ar delerau ac amodau pellach a orfodir gan y Cyflenwr.[1] Mae’r wobr yn ddilys am 6 mis o dderbyn y daleb, ac eithrio penwythnosau gŵyl Banc ac efallai y bydd rhai eithriadau’n berthnasol. Mae’r RSPB yn cadw'r hawl i newid y wobr am wobrarall o werth cyfartal neu uwch os bydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr RSPB yn golygu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.
- 12. Mae penderfyniad yr RSPB ynghylch unrhyw agwedd ar y wobr yn derfynol ac yn rhwymo pawb ac ni fydd unrhyw ohebu yn ei chylch.
- 13. Mae'r RSPB yn cadw’r hawl i wrthod mynediad neu wrthod dyfarnu’r wobr i unrhyw un sy’n mynd yn groes i’r Rheolau neu'r Telerau a’r Amodau neu ysbryd y Rheolau neu’r Telerau ac Amodau.
Telerau ac Amodau
- 1. Drwy gyflwyno eich cais i'r RSPB, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo yn gyfreithiol gan y Rheolau a’r Telerau a’r Amodau hyn.
- 2. Mae’r RSPB yn cadw'r hawl i ddirymu, canslo, gohirio neu ddiwygio'r cynnig pan fydd yn angenrheidiol gwneud hynny.
- 3. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd yr RSPB, ei is-gwmnïau, ei asiantau na’i ddosbarthwyr, o dan unrhyw amgylchiadau, yn gyfrifol nac yn atebol am roi iawndal i’r enillydd ac ni fydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, difrod, anaf personol neu farwolaeth sy’n digwydd o ganlyniad i dderbyn y wobr, ac eithrio os achosir hynny gan esgeulustod yr RSPB, ei asiantau neu ei ddosbarthwyr, neu eu cyflogeion. Ni effeithir ar eich hawliau statudol.
- 4. Rydych yn cytuno i indemnio’r RSPB a’i is-gwmnïau yn erbyn unrhyw hawliad gan unrhyw drydydd parti am fynd yn groes i unrhyw rai o’r telerau a’r amodau hyn.
- 5. Mae’r RSPB yn cadw’r hawl i ddiweddaru’r Rheolau a’r Telerau a’r Amodau hyn o dro i dro a bydd unrhyw fersiwn wedi’i ddiweddaru’n weithredol cyn gynted ag y caiff ei gyhoeddi ar rspb.org.uk/deffroefyrnwy.
- 6. Mae eich data yn bwysig iawn i'r RSPB; dim ond yn unol â thelerau Polisi Preifatrwydd yr RSPB fyddwn ni’n defnyddio eich data personol.
- 7. Bydd y wobr yn cael ei llywodraethu gan gyfraith Lloegr ac mae pawb sy’n cymryd rhan yn y wobr yn ildio i awdurdodaeth llysoedd Lloegr.
- 8. Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (yr RSPB) yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, rhif 207076, ac yn yr Alban, rhif SC037654, a’i chyfeiriad cofrestredig yw The Lodge, Sandy, Sir Bedford SG19 2DL.
[1]Mae pob archeb yn amodol ar argaeledd a gall cyfyngiadau (gwyliau banc, ac ati) fod yn berthnasol. Mae pob taleb yn ddilys am 12 mis o ddyddiad ei chyhoeddi. Ni roddir unrhyw ad-daliad os na chaiff y daleb ei defnyddio yn ystod y cyfnod dilys o 12 mis ac ni roddir unrhyw newid os na fydd y swm llawn yn cael ei wario. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am dalebau sy’n cael eu colli, eu lladrata neu eu difrodi ac ni fydd ad-daliad ar gael am dalebau o’r fath. Nid oes gwerth ariannol i'r daleb hon ac nid oes modd ei throsglwyddo. Am delerau ac amodau llawn, edrychwch ar www.lakevyrnwy.com.