
Addysg yng Nghymru
Mae’r RSPB yn credu y dylai byd natur fod yn rhan o fywyd pob plentyn. Mae ‘cysylltiad â byd natur’ yn sicrhau buddion o ran addysg, iechyd, lles a medrau cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau cysylltiad plant Cymru gyda byd natur.
Cysylltiad â byd natur
Yn drist iawn, mae ymchwil ledled y DU yn dangos mai plant Cymru sydd â’r cysylltiad lleiaf â byd natur. Dim ond 13 y cant o blant Cymru sydd â chysylltiad da â byd natur, o’i gymharu â 21 y cant yn y DU ar gyfartaledd.
Beth yw’r ots am hyn? Pan fydd gan blant a phobl ifanc gysylltiad â byd natur, mae hynny’n cael effaith bositif ar eu haddysg, iechyd corfforol, llesiant emosiynol, a’u medrau personol a chymdeithasol, ac mae’n eu helpu i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol.
Mae byd natur y DU mewn perygl mawr. Yn yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur cafwyd bod 60% o rywogaethau a aseswyd wedi prinhau dros y degawdau diwethaf. Mae poblogaethau hyd yn oed rhai o’n rhywogaethau mwyaf cyfarwydd, fel draenogod, adar y to a drudwennod, wedi lleihau. Mae angen plant ar fyd natur i helpu i newid y dyfodol er gwell, ac mae angen byd natur ar blant hefyd.
Mae’r RSPB yn gweithio’n ymarferol yng Nghymru i gysylltu plant â byd natur wrth weithio gydag athrawon, ysgolion a chyrff eraill drwy gyfrwng ystod eang o gynlluniau a gweithgareddau.
Ymweliadau ysgol â gwarchodfeydd natur
Mae dysgu am y byd naturiol oddi allan i’r dosbarth yn rhoi profiad bythgofiadwy i blant, a chyfle i roi cynnig ar bethau newydd a chyffrous. Mae tair o’n gwarchodfeydd natur yng Nghymru – Conwy yng ngogledd Cymru, Llyn Efyrnwy ym Mhowys a Gwlyptiroedd Casnewydd yn ne Cymru – yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru i athrawon a dosbarthiadau.
Gwylio Adar yr Ysgol
Ledled Cymru, mae miloedd o blant ysgol ac athrawon yn cymryd rhan yn arolwg Gwylio Adar yr Ysgol bob blwyddyn. Mae hwn yn rhan o arolwg blynyddol yr RSPB, Gwylio Adar yr Ardd, sef arolwg bywyd gwyllt mwya’r byd.
Rydym yn darparu athrawon gyda phob dim sydd eu hangen arnyn nhw i gymryd rhan, gyda chanllawiau, cynghorion ac adnoddau ar gyfer gwersi llawn hwyl a gwybodaeth.
Hyfforddiant
Ein dymuniad yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon, yn ogystal â’r plant sy’n cael eu dysgu ganddyn nhw.
Mae RSPB Cymru yn darparu hyfforddiant mewn dysgu yn yr awyr agored ar gyfer athrawon cymwys ac athrawon dan hyfforddiant. Yn ogystal â sicrhau bod plant yn agosáu at fyd natur ar ein gwarchodfeydd, rydym yn cynnig sesiynau ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd a thiwtoriaid colegau, ac yn eu cefnogi gydag adnoddau.
Mewn prifysgolion yng Nghymru rydym yn cynnal gweithdai ar gyfer athrawon dan hyfforddiant, gan ganolbwyntio ar werth dysgu yn yr awyr agored a beth a gynigir gan yr awyr agored fel lle ar gyfer dysgu.