Hwb

Gyda’n gilydd, rydym ni’n gwneud gwahaniaeth

Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024 yr RSPB. Roedd dros 600,000 ohonoch wedi cymryd rhan ledled y DU, ond beth wnaethom ni ei ddysgu?

Two people birdwatching from an urban rooftop.

Beth yw canfyddiadau arolwg mwyaf y byd o fywyd gwyllt yn yr ardd?

Bob blwyddyn, mae pobl yn cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB drwy gyfrif yr adar maen nhw’n eu gweld yn eu hardal. Mae Gwylio Adar yr Ardd yn ei 45fed blwyddyn erbyn hyn ac yn cynnig cipolwg diddorol iawn ar sut mae adar yr ardd yn ymdopi.

Digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024: Y Canlyniadau

Dechreuodd digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd ym 1979, pan ofynnodd Blue Peter, y rhaglen deledu i blant, i wylwyr nodi pa adar roedden nhw wedi eu gweld. Mae llawer wedi newid ers y 1970au. Ond beth sydd wedi newid i’n hadar? Pa adar sydd wedi symud i fyny’r siartiau a pha rai sydd wedi symud i lawr?

9.7 miliwno adar yn ystod digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024.
610,000+o bobl ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024.
12.1 miliwno oriau yn gwylio adar ers 1979.

Y pum aderyn a welir amlaf yn y DU

Aderyn y To yn dathlu ei unfed flynedd ar hugain ar frig siartiau Gwylio Adar yr Ardd. Y cymeriadau bach hyfryd hyn oedd yr adar a oedd yn cael eu gweld amlaf, a chofnodwyd 1,442,300 dros benwythnos Gwylio Adar yr Ardd 2024.

Aderyn y to
1,442,300
1
Aderyn y to
Titw tomos las
1,094,401
2
Titw tomos las
Drudwen
879,006
3
Drudwen
Ysguthan
835,408
4
Ysguthan
Aderyn Du
708,004
5
Aderyn Du

Gwyliwch ganlyniadau 2024 wrth iddynt gael eu datgelu

Eisteddwch yn ôl a mwynhewch ein ffilm fer lle rydym yn datgelu canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024. Sut mae deg uchaf y DU yn cymharu â’r hyn welsoch chi yn eich sesiwn Gwylio Adar?

Canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024: Pa aderyn ddaeth i’r brig?

Dod yn aelod

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn dangos pŵer pobl yn dod at ei gilydd i weithredu dros fyd natur. Byddem wrth ein bodd petaech chi’n dod yn aelod. 

  • Mynediad at 170 a mwy o warchodfeydd natur yn y DU
  • Cylchgronau rheolaidd yr RSPB, sy’n llawn newyddion, erthyglau ac awgrymiadau 
  • Rhodd am ddim i’ch croesawu, gydag aelodaeth i oedolion a theuluoedd
A Blue Whale skeleton suspended from the ceiling of the Hintze Hall at the Natural History Museum, London.
© Trustees of the Natural History Museum 2024

Gweld Adar: Y Gwych a’r Rhyfedd yn yr Amgueddfa Hanes Natur

Gostyngiad o 20% oddi ar docynnau gydag aelodaeth RSPB. Rydym wedi partneru gyda’r Amgueddfa Hanes Natur ar arddangosfa newydd na ellir ei cholli, sy’n dangos sut mae adar wedi defnyddio technegau gwych a ddiddorol i ffynnu am fwy na 150 miliwn o flynyddoedd.

  • Ar agor rhwng 24 Mai 2024 a 5 Ionawr 2025 yn yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain.
  • Mae aelodau'r RSPB yn cael gostyngiad o 20% oddi ar docynnau.

Darganfod popeth am ddigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth? Gallwn ni eich helpu chi! O’r newyddion natur ac erthyglau arbenigol diweddaraf, i bethau i’w gwneud a digwyddiadau llawn hwyl, cymerwch olwg.

Hoffech chi gael ein cylchlythyr rheolaidd?

Drwy gofrestru ar gyfer e-byst yr RSPB, gallwch ddisgwyl - Derbyn y diweddariadau diweddaraf gan yr RSPB - I glywed popeth am ein gwaith i helpu bywyd gwyllt i ffynnu ledled y DU a thu hwnt - Awgrymiadau a chyngor cyfeillgar ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu i achub adar a thu hwnt. natur