Feature

Beth ddigwyddodd yn 2023?

Cynhelir Gwylio Adar yr Ardd 2024 rhwng 26 a 28 lonawr! Eisteddwch yn ol, ymlaciwch a gwyliwch adar yr ardd am awr. P'un a ydych chi'n gwylio'r adar am y tro cyntaf, neu'n hen law ar wneud hyn - croeso!

On this page

Canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2023

Gallwch chi gael cipolwg sydyn ar y 10 uchaf yn y DU drwy wylio ein fideo canlyniadau isod.

Canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2023

Hefyd, gwyliwch uchafbwyntiau byw digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2023 – efallai y byddwch chi’n gweld adar nad ydych chi wedi bod yn ddigon ffodus i’w gweld yn eich ardal chi yn ystod y digwyddiad.

Uchafbwyntiau Byw Gwylio Adar yr Ardd

Aderyn y To sydd ar y brig eto!

Mae'r aderyn swnllyd, mentrus a chymdeithasol hwn wedi cadw ei safle ar frig y rhestr, a hynny am yr ugeinfed mlynedd yn olynol, er bod dros 10 miliwn o barau wedi diflannu yn y DU ers diwedd y 1960au. Fodd bynnag, mae niferoedd Adar y To wedi aros yn gymharol sefydlog dros yr ugain mlynedd diwethaf gydag arwyddion o gynnydd mewn rhai rhannau o'r DU.

2. Titw Tomos Las

Ffefryn ym mhob man! Mae'r diddanwr bach cyfarwydd ac egnïol hwn wedi cipio'r ail safle unwaith etc, am y drydedd flwyddyn yn olynol. 

3. Drudwy

Mae'r Drudwy yn cadw ei le yn y trydydd safle. Ond, fel y llynedd, mae niferoedd yr ymwelydd gardd swnllyd, bywiog a checrus hwn yn dal i ddirywio. 

4. Ysguthan

Gyda'u cwan cyfarwydd yn rhan o swn y dref, mae niferoedd y ysguthanod wedi codi'n aruthrol dros y 40 mlynedd diwethaf, felly nid yw'n syndod ei bod yn dal i fod yn y pedwerydd safle.

5. Aderyn Du

Mae'r Aderyn Du yn y pumed safle o hyd, ac mae'n parhau i fod yn un o adar yr ardd mwyaf cyffredin a mwyaf trawiadol yn y DU.

6. Robin Goch

Mae hoff aderyn y DU yn dal yn y chweched safle eleni. Cadwch lygad am yr adar beiddgar a chyfeillgar hyn sy'n aros i chi ddadorchuddio mwydod pan fyddwch chi'n palu'r ardd. 

7. Nico

Mae'r Nico'n gwneud yn dda ac yn dal yn y seithfed safle. Byddwch yn clywed trydar cyfarwydd y Nico eto dros y flwyddyn i ddod. 

8. Titw Mawr

Acrobat penuchel sy'n aros yn yr wythfed safle, sy'n golygu na fydd trydar cyfarwydd a gwichlyd y Titw Mawr yn diflannu yn y dyfodol agos! 

9. Pioden

Mae niferoedd yr aderyn clyfar hwn wedi cynyddu'n raddol mewn ardaloedd trefol dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu ei fod yn aros yn y nawfed safle. 

10. Titw Cynffon Hir

Mae'r Titw Cynffon Hir hyfryd wedi ailymddangos yn y 10 uchaf eleni, sy'n welliant sylweddol ar y llynedd pan roedd yn y pymthegfed safle. 

Ymaelodwch â'r RSPB

Os ydych chi wedi mwynhau cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd eleni, beth am ymaelodi a'r RSPB? Bydd yn helpu i'ch angerdd at fyd natur barhau drwy'r flwyddyn. Byddwch yn cael pecyn croeso, cylchgrawn rheolaidd a mynediad am ddim i bob un o'n gwarchodfeydd natur. 

Ymaelodwch â'r RSPB Heddiw

Share this article