
Feature
Tyfu ein Dyfodol
Mae 70% o’r DU yn cael ei ffermio mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Dyna pam mai gweithio gyda’n ffermwyr yw’r cyfle gorau sy...
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025 yr RSPB. Roedd dros 500,000 ohonoch wedi cymryd rhan ledled y DU, ond beth wnaethom ni ei ddysgu?
Bob blwyddyn, mae pobl yn cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB drwy gyfrif yr adar maen nhw’n eu gweld yn eu hardal. Mae Gwylio Adar yr Ardd yn ei 45fed blwyddyn erbyn hyn ac yn cynnig cipolwg diddorol iawn ar sut mae adar yr ardd yn ymdopi.
Dechreuodd digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd ym 1979, pan ofynnodd Blue Peter, y rhaglen deledu i blant, i wylwyr nodi pa adar roedden nhw wedi eu gweld. Mae llawer wedi newid ers y 1970au. Ond beth sydd wedi newid i’n hadar? Pa adar sydd wedi symud i fyny’r siartiau a pha rai sydd wedi symud i lawr?
Mae Aderyn y To yn dathlu ei unfed mlynedd ar hugain ar frig siartiau Gwylio Adar yr Ardd. Y cymeriadau bach hyfryd hyn oedd yr adar a oedd yn cael eu gweld amlaf, a chofnodwyd 1,211,260 dros benwythnos Gwylio Adar yr Ardd 2025.
Eisteddwch yn ôl a mwynhewch ein ffilm fer lle rydym yn datgelu canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025. Sut mae deg uchaf y DU yn cymharu â’r hyn welsoch chi yn eich sesiwn Gwylio Adar?
Drwy gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd, rydych chi wedi gwneud eich rhan i helpu bywyd gwyllt. Hoffech chi fod yn aelod o’r RSPB a helpu adar drwy’r flwyddyn? Bydd eich aelodaeth â’r RSPB yn ein helpu i amddiffyn mwy o adar, adfer mwy o gynefinoedd, ac ariannu gwyddoniaeth sy’n torri tir newydd. Ac fe gewch chi’r canlynol:
Ymunwch â ni heddiw a gwnewch fwy dros adar a bywyd gwyllt arall.
Mae eich sesiwn Gwylio Adar yn cyfrif – daliwch ati! P’un a oes gennych chi ychydig neu lawer o amser i’w sbario, ymunwch â’n cymuned o wirfoddolwyr RSPB a helpu i ddiogelu’r natur sy’n annwyl i chi.
Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth? Gallwn ni eich helpu chi! O’r newyddion natur ac erthyglau arbenigol diweddaraf, i bethau i’w gwneud a digwyddiadau llawn hwyl, cymerwch olwg.
Ymunwch â thîm o dros filiwn o bobl a chofrestrwch er mwyn cael newyddion am natur yn eich blwch derbyn bob pythefnos. Bob yn ail ddydd Sadwrn, byddwch chi’n derbyn neges ebost Notes on Nature – mae’r ebost poblogaidd hwn yn llawn straeon am lwyddiant, newyddion am yr hyn sy’n digwydd mewn gwarchodfeydd natur, ac awgrymiadau a chyngor defnyddiol.
Ymaelodwch â’r RSPB heddiw a chefnogi byd natur drwy gydol y flwyddyn. Cewch fwynhau mynediad at dros 170 o warchodfeydd natur, cylchgrawn i aelodau, a’r teimlad braf o wybod eich bod yn cyfrannu at helpu byd natur.
Mae byd natur mewn argyfwng, ond gall pob un ohonom wneud ein rhan. Cyfrannwch nawr i helpu adar a bywyd gwyllt arall.
Prynwch rywbeth i chi eich hun, i rywun sy’n annwyl i chi, neu i fywyd gwyllt lleol. Pan fyddwch chi’n prynu, byddwch yn ariannu ein gwaith yn gweithredu dros natur.