Feature

Welsoch chi beth ar eich teclyn bwydo adar??

Ydych chi erioed wedi SEFYLL YN STOND wrth i chi sylwi ar rywbeth rhyfedd allan o'ch ffenestr? A cheisio eich gorau i beidio â chynhyrfu wrth chwilio am eich sbectol i gadarnhau nad yw eich llygaid yn chwarae triciau?

On this page

Gyda bwyd yn mynd yn brin, mae'r gaeaf yn adeg pan fydd rhywogaethau mwy anarferol yn gallu ymddangos yn eich gardd wrth iddynt ddechrau teimlo’n llwglyd. 

A gyda Gwylio Adar yr Ardd ar fin digwydd, rydyn ni wedi edrych drwy luniau'r RSPB i gael tystiolaeth ffotograffig o'r adar mwyaf rhyfedd/prin sydd wedi'u gweld ar declynnau bwydo a byrddau adar yn ogystal ag ambell famal llwglyd, mentrus. 

Iâr Ddŵr

Yn gyntaf, yr Iâr Ddŵr. lawn ddim mor brin â hynny, ond ar declyn bwydo adar? Mae'r aderyn lliw eithaf du gyda phig coch a melyn yn fwy tebygol o gael ei weld o gwmpas ymylon pyllau a llynnoedd yng nghefn gwlad yn ogystal â dinasoedd. Mae ei deiet yn cynnwys hadau, planhigion dŵr, glaswelltau, mwydod, malwod a physgod bach. Ond os yw'r dŵr wedi rhewi neu os oes cyflenwad byr o fwyd, byddant yn chwilio am gynhaliaeth lle gallant. gan gynnwys teclynnau bwydo adar o bryd i'w gilydd. Ffotograffwyd yr un yma yn Suffolk.

Sgrech y Coed

Mae'r fflach las drydanol o sgrech y coed yn mynd i mewn i'n gerddi yn digwydd yn fwy aml. Maen nhw'n adar swil sy'n byw mewn coetir yn bennaf, Ile maen nhw'n bwyta mamaliaid bach, pryted, cnau a hadau. Ond roedd canlyniadau Gwylio Adar yr Ardd y llynedd yn dangos eu bod wedi neidio i fyny 9 Ile i rif 23 yn y prif adar a welwyd, cynnydd o 73% o'i gymharu â niferoedd 2021.

Maent yn adnabyddus am gladdu mes yn yr hydref fel cyflenwad cudd i'w cynnal drwy'r gaeaf. Ond os ydyn nhw'n rhedeg allan a does dim byd arall i'w fwyta, maen nhw weithiau'n ymweld â gerddi i gael cnau mwnci. Rydych yn gwybod eu bod o gwmpas oherwydd swn eu cri. Sgrech uchel a blin sy'n aml yn digwydd wrth iddynt hedfan, fel pe baen nhw'n flin eich bod chi wedi tarfu ar eu cinio.

Golfan y Mynydd

Efallai fod yr aderyn yma o'r wlad yn gwisgo ychydig yn fwy trwsiadus na'i berthyn, sef yr aderyn to, ond maen nhw'n llawer mwy swil ac nid ydynt mor gyffredin yn ein gerddi na'n mannau awyr agored. Rydych chi'n fwy tebygol o weld un mewn gwrychoedd, ond maen nhw'n dod i erddi, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig ar draws canolbarth Lloegr, gogledd ddwyrain Lloegr, a dwyrain yr Alban. Fel adar y to, maen nhw'n hoffi cymysgedd da o hadau.

Llinos Bengoch

Er bod y llinos yn fach iawn - dim ond ychydig yn fwy na Thitw Tomos Las - maen nhw'n felstr ar gampau acrobataidd. Maen nhw’n byw yn y goedwig, ac yn aml yn treulio amser yn hongian o frigau mewn coed bedw a gwern. Ond byddant yn ymweld â gerddi pan fydd pethau'n mynd yn anodd ac maent yn hoff iawn o hadau Nyjer. Yn y gaeaf, maen nhw'n gallu dod i'r rhan fwyaf o lefydd yn y DU.

Socan Eira

Mae'r bronfreithod mawr hyn, sy'n hoff o drydar, yn heidio i'r DU yn y gaeaf, ond yn treulio'u hamser allan yng nghefn gwlad yn bennaf. Maen nhw wrth eu bodd ag aeron ond os yw'r eira'n gorchuddio'r gwrychoedd a'r caeau, maen nhw weithiau'n dod i erddi i chwilio am fwyd. Bydd yr adar llwydlas sydd â brest frith yn arbennig o hoff o ffrwythau fel afalau, a byddant yn hel adar eraill ymaith i'w cadw nhw i'w hunain. 

A Fieldfare in the snow, perched on an iron birdfeeder stand and pecking at an apple.

Bronrhuddyn y Mynydd

Ymwelydd arall y gaeaf sydd fel arfer yn treulio'r gaeaf allan yn y caeau a'r coetir ffawydd. Maen nhw'n edrych fel ji-binc sydd ychydig yn fwy, gyda'r gwryw yn fwy oren na choch llachar y ji-binc. Mae'r ddwy rywogaeth yn aml yn dod at ei gilydd mewn heidiau a phan fydd y tywydd yn mynd yn arw, gellir eu gweld mewn gerddi. Maen nhw fel arfer yn hoffi bwydo o'r llawr neu o fwrdd adar, gyda chalonnau blodau'r haul yn ffefryn.

Delor y Cnau

Nid yw'r aderyn bach hwn, sydd tua'r un maint a thitw mawr, yn symud ymhell o goetiroedd neu barciau natur. Gellir ei weld yn dringo i fyny boncyffion coed neu'n ymgripio o dan ganghennau, ond bydd yn dod at declynnau bwydo adar am gnau mwnci a hadau os yw ei ffynonellau bwyd naturiol yn brin. 

Maen nhw yma drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr, ac maen nhw'n cael eu gweld o bryd i'w gilydd yn ne'r Alban. 

A Nuthatch, perched on a feeder filled with peanuts, looking up.

Titw’r Wern

Efallai mai Titwod y Wern yw eu henw, and mae'r adar bach hyn sydd a chap du fel arfer yn cael eu gweld mewn coetiroedd llydanddail, parciau a gerddi weithiau. Maen nhw'n cael eu galw'n gasglwyr ac os byddan nhw'n dod o hyd i'ch teclyn bwyd adar, maen nhw'n debygol o ddod yn ôl dro ar ôl tro i gasglu hadau. Mae hadau blodau'r haul yn ffefryn mawr. Cânt eu gweld yn bennaf yng Nghymru a de a dwyrain Lloegr. 

Adar prin iawn a welwyd ar declynnau bwydo adar

Titw Cribog

Mae'r titwod hyn â gwallt Mohican wedi'u cyfyngu i raddau helaeth i goedwigoedd pin Caledonaidd a phlanhigfeydd pîn yr Alban, yng ngogledd yr Alban. Ond os ydych chi'n ddigon ffodus i fyw gerllaw neu ymweld â'r ardal. bydd yr aderyn bach acrobatig yn ymweld â theclynnau bwydo. Gellir ei weld yn aml gyda thitwod eraill. gan symud o le i le ar yr helfa am hadau addas. 

Rhai adar nodedig eraill

Fe wnaethon ni siarad â thim yr RSPB a ddaeth o hyd i rai adar eraill ond heb lluniau. 

Roedd y rhain yn cynnwys y gynffon sidan, bras y cyrs, y bras melyn a'r ddrudwen wridog. Ond mae'n rhaid i'r wobr am yr aderyn mwyaf uchelgeisiol fynd i ffesant brwdfrydig a welwyd mewn gwarchodfa RSPB yn gwneud ei orau glas i fynd ar declyn bwydo adar oedd yn hongian. 

Mamaliaid llwglyd

Nid dim ond yr adar sy'n gallu gwneud i chi edrych ddwywaith ar declynnau bwydo adar. Mae mamaliaid llwglyd hefyd yn ymddangos, ac nid ydym yn sôn am y wiwer lwyd. 

Llygoden y Coed

Mae ein llygoden fwyaf cyffredin, gyda llygaid a chlustiau mawr, yn aml yn byw mewn gerddi a pharciau. Nid yw'n syndod eu bod weithiau'n cael eu gweld ar declynnau bwydo adar, gan fanteisio i'r eithaf ar gyflenwad digonol o hadau. Maen nhw'n aml yn dod yn ôl i barhau i ychwanegu at eu cyflenwad tanddaearol dros y gaeaf. 

Gwiwer Goch

Mae'r Wiwer Goch yn fwy prin na'r Wiwer Lwyd, ond as ydych chi'n ddigon ffodus i'w cael yn agos atoch, byddant yn ymweld â theclynnau bwydo. 

Os bydd ymwelydd coch yn galw heibio, bydd yn bwyta amrywiaeth eang o gnau a hadau, gyda chnau cyll yn ffefryn, yn enwedig yn eu cregyn.

Os ydyn nhw'n cymryd cnau mwnci, gwnewch yn siŵr eu bod heb afflatocsin a cheisiwch gynnig amrywiaeth o fwydydd eraill fel hadau blodau'r haul neu gastanau melys. 

NODER: peidiwch ag annog Gwiwerod Coch i ymweld os oes gennych Wiwerod Llwyd o gwmpas y lle. Mae'r Wiwer Lwyd fwy, anfrodorol, yn gallu lledaenu brech y wiwer i Wiwerod Coch, sy'n eu lladd. 

Mochyn Daear

Iawn: teclyn bwydo gwiwerod yn hytrach nag adar yw hwn. Ond dychmygwch y sgrialu ar gyfer camera os gwelsoch chi fochyn daear mentrus yn dringo i fyny i gael y cnau mwnci. Yn ystod y gaeaf, nid yw'r mamaliaid du a gwyn yn gaeafgysgu ond maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn cysgu yn eu brochfa, gan fyw oddi ar fraster wrth gefn. Os ydych chi'n eu gweld ac eisiau rhoi rhywbeth bach iddynt, mae cnau daear heb halen a chnau Brasil yn ddewis da, yn ogystal â ffrwythau neu lysiau, fel moron neu datws wedi'u coginio. 

Llwynog

Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n gyfrwys, ond dydyn ni erioed wedi gweld rhywbeth tebyg i hyn. Fel moch daear, mae llwynogod yn hollysyddion ac mae eu deiet arferol yn cynnwys aeron a ffrwythau yn ogystal â chreaduriaid fel cwningod, cnofilod a brogaod. 

Os bydd eira'n disgyn, mae'n anodd dod o hyd i fwyd, telly bydd llwynogod yn chwilio am fwyd mewn ffyrdd dyfeisgar, gan gynnwys dringo ar fyrddau adar. 

Llwynog

Bele’r Coed

Mae'r mamal prin hwn yn dod allan yn y nos i symud drwy'r coed. Fe'i ceir yn bennaf yn yr Alban, gyda niferoedd bach mewn pocedi ynysig yng Nghymru a Lloegr. Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael un neu ddau yn byw gerllaw, maen nhw'n hoffi cnau mwnci a resins, a byddan nhw'n ymweld â byrddau adar i gael cyflenwad. Mae'r un sydd yn y llun yn mwynhau cacen ffrwythau a ddylai, fel y mae i ni, fod yn rhywbeth i'w fwynhau o bryd i'w gilydd. 

An adult and a small child birdwatching from inside a house, behind a large window. The child is holding yellow binoculars and the adult is smiling and pointing to something outside.
Beth ydych chi wedi’i weld?
Rhannwch eich uchafbwyntiau o’r digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd a dilyn #GwylioAdarYrArdd ar y cyfryngau cymdeithasol.
A lone Blue Tit hanging off the bottom of a domestic bird feeder.
Gwylio Adar yr Ardd
Helpwch ni i gyfri’r adar sy’n dibynnu arnoch chi. Mae’n hwyl, yn rhad ac am ddim ac i bawb. Ymunwch rhwng 26 a 28 Ionawr.
Share this article