Canlyniadau Gwylio Adar yr Ysgol 2026

'DIOLCH YN FAWR' i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol 2026. Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych gydag oddeutu 4,200 o ysgolion yn cymryd rhan, a bron i 143,000 o bobl – 32% yn fwy na 2025.

Three children sat on a wooden bench outside of their school.

Mae canlyniadau dros 3,800 o wylwyr adar nawr wedi cael eu prosesu, felly mae’n bryd gweld sut mae eich ysgol chi yn cymharu ag ysgolion eraill ar draws y Deyrnas Unedig.

Datblygu eu sgiliau trin data

Rydym wedi cynnwys ‘cymedr’ nifer yr adar a gofnodwyd yn Gwylio Adar yr Ysgol i lunio rhestr o’r deg rhywogaeth a welwyd fwyaf. Gallwch ddefnyddio’r canlyniadau hyn i helpu eich disgyblion i ddatblygu eu sgiliau trin data. 

Gallwch ddefnyddio’r wers trin data PowerPoint, a gynlluniwyd gan Archives IT, i addysgu eich disgyblion sut mae defnyddio offer siart far ar-lein a chyflwyno canlyniadau eleni. Fel arall, gallwch chi lawrlwytho data hanesyddol o’n tudalen adnoddau a chreu graff linell i gymharu niferoedd yr adar a gofnodwyd dros y blynyddoedd diwethaf. 

Pa aderyn ddaeth i'r brig?

Mae Gwylio Adar yr Ysgol yn rhoi cip blynyddol ar sut hwyl mae rhai o'n hoff adar yn ei gael ar dir ein hysgol. Byddwch yn gweld y deg rhywogaeth a welwyd fwyaf yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol isod. Sut maen nhw’n cymharu â’r hyn a welodd eich ysgol chi? 

Ni fyddai’r arolwg hwn wedi bod yn bosibl heb i athrawon a disgyblion ddod yn ddinasyddion-wyddonwyr am y diwrnod. Diolch am wneud i’r cyfan gyfrif! 

1. Ysguthan

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 6.1

Ysguthanod yw’r colomennod mwyaf a’r rhai mwyaf cyffredin yn y DU. Maen nhw i'w gweld mewn trefi, dinasoedd a chefn gwlad. 

2. Aderyn Du

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 5.5

Mae’r Aderyn Du yn aderyn gardd cyffredin. Gwrandewch ar y gwryw yn canu, yn aml o ben coeden neu bot simnai. 

3. Brân Dyddyn

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 5.1

Mae brain yn perthyn i deulu’r Corvidae, sy'n cynnwys Sgrech y Coed, Jac-dos, Ydfrain a Phiod. Sawl math o Corvidae ydych chi wedi'i weld?

4. Pioden

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 4.2

Gall yr adar mawr du a gwyn yma fod yn eithaf swnllyd ac mae ganddyn nhw alwad cras sy'n swnio fel rhywun yn chwerthin. Ydych chi wedi clywed un? 

 

5. Drudwen

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 4.0

Mae Drudwy yn gymdeithasol ac yn enwog am ymgynnull mewn heidiau mawr yn y gaeaf. 'Murmuriadau' yw’r enw a roddir ar y rhain ac maen nhw’n gallu cynnwys hyd at filiwn o adar! 

6. Aderyn y To

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 3.9

Mae Adar y To i'w gweld yn agos at bobl yn unig. Maen nhw wrth eu bodd yn bwydo ar unrhyw friwsion byddwn ni’n eu gadael ar ôl yn ddamweiniol, ac efallai byddwch chi’n eu gweld yn nythu o dan fondo tai.

7. Gwylan Benddu

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 3.2

Er ein bod fel arfer yn meddwl am lan y môr wrth feddwl am wylanod, mae Gwylanod Penddu yr un mor hapus i mewn yn y tir ag ydyn nhw wrth y môr. 

8. Colomen Wyllt

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 3.0

Mae Colomennod Gwyllt yn gallu bod yn wahanol arlliwiau a lliwiau ac maen nhw’n gyffredin mewn ardaloedd trefol ledled y byd.

9. Robin Goch

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 2.8

Oeddech chi'n gwybod bod y Robin Goch weithiau'n cael ei alw'n gyfaill i'r garddwr?  Mae hyn oherwydd eu harfer o ddilyn garddwyr, gan obeithio dal pryfyn neu chwilen a ddaw i’r golwg wrth i’r garddwr balu. 

10. Titw Tomos Las

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 2.5

Mae Titw Tomos Las yn aderyn bach lliwgar gyda phlu glas, gwyrdd a melyn. Ymwelydd rheolaidd â’r ardd sy’n fwy na bodlon defnyddio blychau nythu. 

Parhau i ddysgu drwy natur

Os gwnaethoch chi fwynhau digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol, edrychwch ar Her Wyllt yr RSPB. Mae hwn yn gynllun gwobrwyo am ddim i ysgolion i helpu plant i ymgysylltu â natur trwy gyfleoedd dysgu ymarferol. Drwy gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol, rydych chi eisoes gam yn nes at ennill Gwobr Efydd. Fe welwch lawer mwy o weithgareddau, gan gynnwys syniadau ar gyfer creu mwy o le i fywyd gwyllt ar dir eich ysgol.

A group of school children being lead through a long grass meadow by their teacher.
Cofrestrwch ar gyfer Learning Through Nature, e-gylchlythyr Addysg tymhorol yr RSPB

Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol neu yn y sector addysg ac yr hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am nwyddau, adnoddau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i helpu wrth addysgu a dysgu, cofrestrwch ar gyfer ein e-gylchlythyr addysg tymhorol.