Adfer mawndir yn dod ag adar prin yn ôl ar ôl ugain mlynedd

Tuesday 14 September 2021

Mae prosiect mawr i adfer mawndir wedi arwain at ddychweliad cwtiaid aur a gylfinirod sy’n paru i fferm fynydd yn Eryri, dyma’r tro cyntaf i’r adar baru yno mewn dros ugain mlynedd.

**Datganiad i'r wasg ar y cyd hefo Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru**

  • Trwy gymryd agwedd ffermio sy'n gyfeillgar i fyd natur a gwneud gwaith arloesol i adfer y mawndir, mae'r brodyr Ritchie sy'n rheoli'r fferm wedi cydbwyso'n ofalus cyflawni dros fyd natur, lliniaru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd a chynnal busnes fferm gynaliadwy. 

Dros y pedair blynedd diwethaf mae RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’r teulu Ritchie wedi bod yn rhan o gydweithrediad arloesol, yn gweithio i adfer mawndiroedd yn rhan uchaf Dyffryn Conwy, wedi’i ariannu’n rhannol trwy Gynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru, a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r teulu Ritchie yn denantiaid i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mlaen y Coed, fferm fynydd sy’n rhan o stad Ysbyty Ifan. Mae rhostiroedd ar y stad hon yn dod o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Migneint: ehangder mawr o rostir a gorgors yr ucheldir sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, gyda photensial enfawr i gyflenwi nwyddau cyhoeddus, megis storio carbon, bioamrywiaeth, hidlo dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd - pan fyddant mewn cyflwr iach ac wedi’u rheoli'n dda.

Yn 2017, dechreuodd y bartneriaeth weithio i adfer ardaloedd o fawndir oedd wedi'u difrodi a'u diraddio, gyda'r nod o greu cynefinoedd iachach ar gyfer adar yr ucheldir yr oedd eu niferoedd yn dirywio. Fe wnaethant dreulio pedwar gaeaf yn blocio ffosydd draenio a rhigolau erydu dwfn yn y mawndiroedd; yn creu argaeau mawn bach a oedd yn ei dro yn caniatáu i byllau bach ffurfio ac ail-wlychu tirwedd y mawndir. Cafodd yr holl waith yn y cynefin mawnog gwlyb heriol hwn ei wneud gan y teulu Ritchie eu hunain, gan ddefnyddio eu peiriannau fferm eu hunain.

Mae monitro gofalus o’r cynefin wedi dangos ei fod wedi gwella’n sylweddol ers i’r gwaith gael ei wneud. Mae pyllau yn ail-ffurfio ac mae planhigion cors arbenigol fel mwsoglau migwyn, plu'r gweunydd a gwlith yr haul yn ffynnu unwaith eto. Mae mawndir gwlyb yn gynefin delfrydol ar gyfer cwtiaid aur a gylfinirod a dros yr haf dychwelodd y ddwy rywogaeth i'r safle i fridio'n llwyddiannus yn y cynefinoedd wedi'u hail wlychu gyda chywion o'r ddwy rywogaeth i'w gweld. Dyma’r tro cyntaf i’r adar fridio’n llwyddiannus ar y safle hwn ers yr 1990au.

Dywedodd Dewi Davies, Rheolwr Prosiect ar gyfer Prosiect Dalgylch Uwch Conwy:

“Mae’r trawsnewid yr ydym wedi’i weld trwy ein partneriaeth ar y dirwedd arbennig yma wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r hyn a oedd unwaith yn ardal o orgors ddiraddiedig, bellach yn gynefin cyfoethog sy'n darparu cyfres gyfan o wasanaethau ecosystem hanfodol fel storio carbon, hidlo dŵr, amddiffyn rhag llifogydd a chartref i fywyd gwyllt.”

Dywedodd David Smith, Uwch Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru:

“Mae’r llwyddiannau hyn yn dangos bod gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin o adfer byd natur yn gweithio, ac mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r brodyr Ritchie wedi llwyddo i gyfuno ymdrechion cadwraeth gyda’r dasg bob dydd o redeg eu busnes fferm. Mae’n stori wych, a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli prosiectau tebyg yn y dyfodol.”

Dywedodd Edward Ritchie, tenant Blaen y Coed:

“Mae'n wych cael clywed y gylfinir yn ôl i Flaen y Coed. Mae'r prosiect hefyd wedi helpu i ddarparu gwaith peiriannau arbenigol i'm brawd. Ac mae'r canlyniadau wedi caniatáu ar gyfer pori mwy gwasgaredig gan y defaid yn yr ardal, felly rydyn ni'n falch o'r ffordd mae pethau wedi mynd."

DIWEDD

Nodiadau:

1. Mae'r prosiect hwn wedi defnyddio technegau sy’n cynnwys blocio ffosydd draenio; blocio nodweddion erydiad mawr ar y corff mawn fel rhigolau mawn dwfn a llydan; ail-wlychu micro-nodweddion megis pantiau arwyneb a thwneli erydiad a sefydlogi mawn noeth ar fignenni (peat hags) gan ddefnyddio llystyfiant yn y fan a'r lle ac argaeau bach.

2. Y bwriad yw datblygu cyflwr cynefin ‘bron yn naturiol’ ar gyfer gorgors ar Ardal Cadwraeth Arbennig y Migneint, gan atal erydiad; adfer y lefel trwythiad yn llawn; adfer pyllau cors; caniatáu i'r mawn wlychu ac adeiladu'n naturiol gyda llystyfiant gorgors sy'n llawn mwsogl migwyn - gan gynyddu gwytnwch y cynefin allweddol hwn yn yr argyfwng hinsawdd.

Tagged with: Country: Wales Country: Wales Country: Wales Topic: Conservation Topic: Upland Topic: Wales Topic: Climate change Topic: Conservation