
Mae data newydd yn amlygu dirywiad hirdymor yn rhywogaethau adar coetir ar draws y DU.
English version available here.
Mae rhai rhywogaethau coetir arbenigol wedi dirywio’n sylweddol, gan gynnwys titw’r helyg, y rhywogaeth a ddangosodd yr ail ddirywiad mwyaf ymhlith holl adar cyffredin ac eang y DU.
Adar tir amaeth yw pump o’r 10 rhywogaethau cyffredin ac eang a ddirywiodd fwyaf yng Nghymru.
Mae dosbarthiad a niferoedd adar yng Nghymru yn newid yn ddramatig, gyda’r dirywiad mewn llawer o rywogaethau yn destun pryder yn ôl adroddiad newydd.
Mae Sefyllfa Adar ym Mhrydain 2020 (SUKB) – y siop un stop ar gyfer holl ganlyniadau diweddar o arolygon adar ac astudiaethau monitro yn amlygu bod anffawd adar coetir yn parhau.
Mae mesurydd adar coetir y DU yn dangos dirywiad hirdymor o 27% ers yr 1970au cynnar, gyda gostyngiad o 7% dros y pum mlynedd diwethaf yn unig. Mae poblogaethau titw’r helyg wedi dirywio ar y fath raddfa ledled y DU fel mai dyma’r rhywogaeth a ddangosodd yr ail ddirywiad mwyaf o blith holl adar cyffredin ac eang y DU. Er mwyn gwella dealltwriaeth o gynefin titw’r helyg, mae gwirfoddolwyr yn cynnal arolwg ledled y wlad mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chymdeithas Adaryddol Cymru.
Mae’r Arolwg Adar Magu (BBS) yn dangos bod y ji-binc a’r dryw eurben ymhlith y deg rhywogaeth sy’n dangos y gostyngiad mwyaf ymhlith mesurau’r arolwg. Mae’r maint y dirywiad a welwyd ymhlith poblogaethau rhywogaethau sy’n gysylltiedig â choetiroedd derw yng Nghymru, megis y gwybedog brith a thelor y coed, yn golygu eu bod bellach yn rhy brin i’r BBS eu monitor yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch rhai rhywogaethau eraill hefyd. Mae niferoedd y frân goesgoch yng Nghymru, sy’n ffurfio tri chwarter cyfanswm y DU, wedi dirywio yn ogystal gan olygu na ddylem gymryd y rhywogaeth hon yn ganiataol. Gyda chyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr RSPB ac arbenigwyr y frân goesgoch (o’r Cross & Stratford Chough Project), dadansoddodd 25 mlynedd o gofnodion o astudiaethau monitro nythod a modrwyo lliw a gynhaliwyd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru a’r miloedd o frain coesgoch a welwyd gan ffermwyr, cerddwyr a gwylwyr adar. Dengys yr astudiaeth bod brain coesgoch mewn perygl: gostyngodd y nifer o gywion mewn nythod y gwyddys amdanynt o 25% rhwng 1994 a 2019, a gostyngodd nifer eu safleoedd nythu mewndirol o 72%.
Bu dirywiad gofidus yn niferoedd y gylfinirod sy’n nythu yng Nghymru hefyd. Os yw’r gyfradd ddirywio bresennol yn parhau, mae gwaith gan BTO Cymru yn awgrymu y gallai gylfinirod sy’n bridio ddiflannu o Gymru o fewn yr 13 mlynedd nesaf oni chymerir camau sylweddol. Mae eu dirywiad cenedlaethol cyflym yn golygu bod y rhywogaeth bellach yn cael ei hystyried yn un o flaenoriaethau brys cadwraeth adar yng Nghymru. Mae’n ymddangos bod y dirywiad yn gysylltiedig â chyfuniad o golli cynefinoedd, rheoli cynefinoedd mewn ffyrdd anffafriol ac ysglyfaethu. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad o bron 70% yn y niferoedd ers 1995, a chyfyngodd ei ystod o 50%.
Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru:
“Mae’r adroddiad hwn yn profi unwaith eto nod natur yng Nghymru a’r DU mewn argyfwng. Mae’r dirywiad parhaus mewn adar coetir a thir amaeth, gan gynnwys rhywogaethau eiconig fel y gylfinir a’r fran coesgoch yn frawychus. Mae dirywiad yn ansawdd cynefinoedd yn her fawr sy’n wynebu adar a bywyd gwyllt, ac mae’r ffaith y gallai’r gylfinir magu ddiflannu o Gymru mewn llai nag ugain mlynedd yn gofyn am gamau llym i newid y ffyrdd y caiff y dirwedd ei rheoli. Mae’r ymchwil tu ôl i’r dirywiad mewn brain coesgoch hefyd yn bryder gwirioneddol o ystyried pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i’r adar hyn.
“Mae llwyddiant parhaus barcutiaid coch yn profi y gellir cyflawni canlyniadau cadarnhaol gyda gwaith caled ac ymroddiad gan wirfoddolwyr a rheolwyr tir. Mae arnom angen ymdrech debyg gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a ffermwyr i wyrdroi’r dirywiad enfawr mewn rhywogaethau tir amaeth yng Nghymru.”
Dywedodd Patrick Lindley, Uwch Adaregydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mewn ymateb i’r argyfwng natur mae adroddiad Sefyllfa Adar ym Mhrydain yn darparu cipolwg ar ‘iechyd’ ein hadar yng Nghymru a’r DU. Mae’r problemau sy’n wynebu adar, p’un a ydynt yn magu ai pheidio, yn broblemau sy’n wynebu ecosystemau cyfan. Mae’n hanfodol ein bod yn ailsefydlu rhwydweithiau ecolegol gwydn ledled Cymru i fod wrth galon cadwraeth byd natur.
“Mae gobaith i rai rhywogaethau. Mae llwyddiant diweddar adar y bwn sy’n magu, bodaon y gwerni a garanod yng Nghymru yn dangos yr hyn a ellir ei wneud trwy adfer ecosystemau ar y raddfa briodol. Mae rhywogaethau eraill yn ffynnu’n wael. Erbyn hyn, ystyrir mai’r gylfinir yw blaenoriaeth brys cadwraeth adar yng Nghymru a’r DU. Mae senarios wedi’u modelu yn rhagweld y gall gylfinir magu fod ar fin diflannu yng Nghymru yn y ddegawd nesaf. Mae’r cloc bellach yn tician.
“Er y gall y dyfodol ymddangos yn llwm i rai adar, cydnabyddir fwyfwy bod ein hamgylcheddau naturiol yn bwysig nid yn unig i’w bioamrywiaeth ond hefyd o safbwynt yr amryw fuddion y mae natur yn ei gynnig i bobl. Yr her i ni gyd yw cyfleu’r buddion ehangach hyn i gymdeithas.”
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddirywiad parhaus adar tir amaeth ledled y DU. Mae pump o’r 10 rhywogaeth gyffredin ac eang sydd wedi dirywio fwyaf yng Nghymru yn adar tir amaeth, gan gynnwys y drudwy a’r ydfran, sydd bellach yn llai niferus na’r gorffennol. Mae’r ddwy rywogaeth hon yn dibynnu ar infertebratau a geir mewn porfeydd caeëdig ar gyfer bwydo cywion. Mae’r niferoedd gostyngedig ohonynt o bosib yn adlewyrchu’r newidiadau yn y modd y rheolir glaswelltir.
Mae’r adroddiad yn cynnwys gwell newyddion i rai rhywogaethau. Yng Nghymru, cynyddodd niferoedd adar y to o 92% rhwng 1995 a 2018. Ar draws y DU, adar y to yw’r trydydd aderyn magu mwyaf cyffredin o hyd, ond mae miliynau o barau wedi diflannu ers diwedd yr 1960au. Mae’r adroddiad hefyd yn sôn bod poblogaeth y barcud coch wedi dyblu a mwy yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gan olygu bod y niferoedd ohonynt yn parhau i gynyddu’n llwyddiannus o’r ychydig o barau ohonynt a oedd yn yr 1930au.
Dywedodd Katharine Bowgen, Ecolegydd Ymchwil BTO Cymru:
“Gyda pharhad yn nirywiad y gylfinir, mae prosiectau ymchwil diweddar yng Nghymru yn taflu goleuni ychwanegol ar ymddygiadau’r bridwyr cuddiedig hyn drwy olrhain gwaith maes a rhagfynegi tueddiadau eu poblogaeth drwy ganlyniadau arolygon ehangach. Mae cyfuno’r dulliau hyn wirioneddol yn ein cynorthwyo i ddeall sut maen nhw’n rhyngweithio â’r dirwedd. Byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau o fewn mesurau cadwraeth ehangach ar gyfer y rhywogaeth. Yn ogystal, diolch i’r holl wirfoddolwyr yng Nghymru a gyfrannodd at yr adroddiad hwn yn gyffredinol.”
DIWEDD
Nodiadau’r golygydd:
- Partneriaeth SUKB: Mae SUKB 2020 yn cael ei gynhyrchu gan dri NGO: y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), yr Ymddiriedolaeth Adaryddiaeth Brydeinig (BTO) ac Ymddiriedolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion (WWT), ar y cyd gyda chyrff cadwraeth natur statudol y DU: Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon (DAERA), y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC), Natural England (NE), Cyfoeth Naturiol Cymru (ANC) and NatureScot.
Er 1999 mae adroddiadau State of UK’s Birds wedi darparu trosolwg blynyddol o statws rhywogaethau adar bridio a’r rhai nad ydynt yn bridio yn y DU a’i Thiriogaethau Tramor. Mae’r adroddiad yn cydosod data o arolygon blynyddol, cyfnodol ac unigol ac astudiaethau monitro adar, megis yr Arolwg Adar Bridio (BBS), Arolwg Adar Corstir (WeBS) a’r Rhaglen Monitro Gwyddau ac Elyrch (GSMP). - Er mwyn darllen adroddiad yr SUKB cliciwch yma.
Last Updated: Thursday 17 December 2020