Byd natur Cymru’n dal i ddirywio

Friday 4 October 2019

Mae bywyd gwyllt Cymru yn dal i ddirywio yn ôl adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, gyda’r canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o wynebu difodiant.

English version available here

Ers i’r gwaith monitro gwyddonol trwyadl gychwyn yn yr 1970au, gwelwyd gostyngiad o 13% yng nghyfartaledd1 yr helaethrwydd o fywyd gwyllt a astudiwyd ledled y DU.

Ar ôl cyhoeddi adroddiadau Sefyllfa Byd Natur yn 2013 a 2016, mae gweithwyr proffesiynol blaenllaw o dros 70 o sefydliadau bywyd gwyllt y DU wedi ymuno ag asiantaethau’r llywodraeth am y tro cyntaf, i gyflwyno’r darlun cliriaf erioed o statws ein rhywogaethau ar dir ac yn y moroedd.

O’r 3,902 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru, datgelir yn adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 bod 73 ohonynt wedi eu colli o Gymru yn barod, gydag adar fel y turtur a bras yr ŷd bellach wedi diflannu’n llwyr o awyr Cymru. Mae 666 o rywogaethau ychwanegol dan fygythiad o ddifodiant yng Nghymru.

Mae nifer y safleoedd lle mae rhywogaethau’n bresennol yng Nghymru sy’n cael eu monitro wedi gostwng o 10% yng Nghymru ers 1970. Mae’r gostyngiad hwn yn lledaeniad rhywogaethau yn digwydd ddwywaith mor gyflym â’r dangosydd cyfatebol ar gyfer y DU gyfan. Gan fod helaethrwydd bywyd gwyllt yn tueddu i ddirywio cyn diflannu’n llwyr o safle (h.y. cyn bod gostyngiad yn ei ledaeniad), gallai’r gostyngiad hwn yn y lledaeniad fod yn arwydd o ddirywiadau mwy difrifol yn niferoedd rhywogaethau nag y mae modd i ni ei fesur ar hyn o bryd.

Yn y mannau lle bu’n bosibl mesur helaethrwydd y rhywogaethau yng Nghymru, gwelir gostyngiad, ac mae’r gloÿnnod byw a’r gwyfynod wedi eu heffeithio’n arbennig o ddrwg. Mae niferoedd y gloÿnnod byw wedi gostwng o 52% ers 1976 ac mae niferoedd y rhywogaethau sydd angen cynefinoedd mwy arbenigol, megis y brith brown a’r glöyn llwyd, wedi gostwng o fwy na thri chwarter. Mae mamaliaid daearol Cymru hefyd wedi dirywio gyda mwy na 30% o’r rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. Mae rhywogaethau eiconig megis y wiwer goch a llygoden y dŵr, a arferai fod yn gyffredin yng Nghymru, bellach wedi eu cyfyngu i ychydig o safleoedd ac yn wynebu bygythiad gwirioneddol o ddifodiant.

Er mwyn gostwng yr effaith a gawn ar ein bywyd gwyllt, ac er mwyn helpu rhywogaethau sydd mewn trafferth, mae angen i ni ddeall beth sy’n achosi’r dirywiadau hyn. Mae’r dystiolaeth o’r 50 mlynedd ddiwethaf  yn dilyn patrwm tebyg i’r darlun byd-eang a gyflwynwyd ym mis Mai eleni2 ac yn dangos mai’r newidiadau yn y ffordd yr ydym yn rheoli ein tir ar gyfer amaethyddiaeth ac effeithiau parhaus y newid yn yr hinsawdd sy’n cael yr effaith fwyaf ar fyd natur yng Nghymru.

Mae llygredd hefyd yn un o’r problemau mwyaf. Er bod allyriadau llawer o lygryddion wedi eu gostwng yn ddifrifol yn y degawdau diweddaraf, pery llygredd i gael effaith ddifrifol ar gynefinoedd a dŵr croyw sensitif y DU, ac mae bygythiadau newydd ar ffurf llygryddion yn dal i ddod i’r amlwg.

Meddai Daniel Hayhow, prif awdur yr adroddiad:

“Rydym ni’n gwybod mwy am fywyd gwyllt y DU nag unrhyw wlad arall ar y blaned, ac fe ddylai’r hyn y mae’n ei ddweud wrthym ein syfrdanu. Mae angen i ni ymateb ar fwy o fyrder yn gyffredinol os am roi byd natur yn ôl yn ei le. Rhaid i lywodraethau a’u hasiantaethau, busnesau, grwpiau cadwraeth ac unigolion barhau i weithio gyda’i gilydd i helpu i adfer ein tir a’r môr ar gyfer bywyd gwyllt a phobl mewn modd sy’n uchelgeisiol ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

“Yn yr adroddiad hwn, rydym ni wedi defnyddio’r data gorau sydd ar gael ar fioamrywiaeth y DU, a gynhyrchwyd gan bartneriaethau rhwng elusennau a sefydliadau cadwraeth, sefydliadau ymchwil, llywodraethau cenedlaethol a’r DU, a miloedd o wirfoddolwyr ymroddedig. Drwy weithio gyda’n gilydd y mae helpu natur i wella, ond mae’n rhaid dwysau’r frwydr.”

Er bod yr adroddiad yn dangos bod lle i bryderu, mae lle hefyd ar gyfer rhywfaint o obaith gofalus. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ystod eang o fentrau cadwraeth cyffrous, megis prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru gan gynllun LIFE yr UE, a lansiwyd y mis diwethaf, sy’n anelu i amddiffyn a gwella Coetiroedd Derw Gorllewin yr Iwerydd. Mae rhywogaethau megis aderyn y bwn a’r glöyn byw glas mawr wedi eu harbed hefyd drwy ymdrechion unedig sefydliadau ac unigolion.

Mae’r twf a welir yng nghefnogaeth y cyhoedd i gadwraeth yn adlewyrchiad o’r pryder cynyddol ynglŷn â’r argyfyngau amgylcheddol a hinsoddol. Gwelwyd bod cynnydd o 24% yng ngwariant cyrff anllywodraethol ers 2010/11 a chynnydd o 46% yn yr amser a gyfrannir gan wirfoddolwyr ers 2000. Fodd bynnag, mae gwariant y sector cyhoeddus ar fioamrywiaeth y DU, fel cyfran o’r cynnyrch domestig gros, wedi gostwng o 34% ers ei bwynt uchaf yn 2008/09.

Meddai Dan Rouse, cadwraethwraig ifanc o Abertawe:

“Mae natur yn rhywbeth a siapiodd fy mhlentyndod, drwy adael i mi fod yn rhydd i elwa ar fy ymdeimlad o ryfeddod, ac i dreiddio ymhellach i fyd rhyfeddol natur! Pobl ifanc sydd nawr yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb o achub ein byd natur – rydym ni wedi colli bras yr ŷd a’r eos o Gymru – pa mor hir fydd hi nes y byddant wedi diflannu o weddill y DU? Ynghyd â galwad iasol y gylfinir a grwnan ysgafn y turturod.”

Mae copi llawn o adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 ar gael yma

DIWEDD

Tagged with: Country: Wales Country: Wales Country: Wales Topic: Climate change Topic: Conservation Topic: Science Topic: Research