Môr-wenoliaid gwridog yn dychwelyd i nythu yng Nghymru

Danny Griffith

Wednesday 8 August 2018

Roseate tern in flight, sun shining through its outstretched wings.

Am y tro cyntaf mewn mwy na degawd, mae pâr o fôr-wenoliaid gwridog – aderyn y môr prinnaf sy’n nythu yn y DU – wedi magu cywion ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, oddi ar Ynys Môn.

English version available here 

Diolch i gyllid ychwanegol gan Roseate Tern LIFE Recovery Project a gyllidwyd gan yr UE, rydym yn falch o gyhoeddi bod dau o gywion môr-wenoliaid gwridog wedi cael eu geni ar Ynysoedd y Moelrhoniaid yn ystod yr haf hwn – gydag un wedi hedfan y nyth yn llwyddiannus, sef y tro cyntaf ers 2006.

Roedd y cyllid yn darparu estyniad am bythefnos ar dymor wardeinio’r ynysoedd, ynghyd â blychau nythu a gafodd eu dylunio o’r newydd yn cael eu gosod yn strategol o gwmpas yr ynysoedd. Yn ogystal, gosododd y wardeniaid offer yn chwarae galwadau’r môr-wenoliaid gwridog ac adar denu o waith llaw, gyda’r nod o ddenu môr-wenoliaid gwridog a oedd yn pasio i mewn i’r gytref.

Ar un adeg, roedd môr-wenoliaid gwridog i’w gweld drwy Gymru gyfan, a bu bron iddyn nhw ddiflannu yn gyfan gwbl yn ystod y 19eg ganrif oherwydd bod eu plu yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr ar gyfer creu hetiau ffasiynol. Yn anffodus, mae môr-wenoliaid gwridog yn parhau i wynebu llawer o heriau, gan gynnwys prinder bwyd, cynefin nythu sy’n erydu ac ysglyfaethu. Er mwyn ymdrin â’r her hon, lansiwyd project uchelgeisiol, sef y Roseate Tern LIFE Recovery Project a gyllidwyd gan yr EU am bum mlynedd, gan ddod ynghyd â chadwraethwyr o’r RSPB, Birdwatch Iwerddon ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar y tair cytref bridio (dwy yn yr Iwerddon ac un yn y DU).  Yn ogystal, mae’r project yn canolbwyntio ar greu safleoedd sy’n gyfeillgar i fôr-wenoliaid gwridog drwy’r DU ac Iwerddon, yn y gobaith o ailsefydlu cytrefi sy’n ffynnu.

Ar hyn o bryd yn 2018, yn y DU ceir 116 yn unig o barau môr-wenoliaid gwridog sy’n nythu, sydd wedi’u cyfyngu yn gyfan gwbl i Ynys Coquet yn Lloegr. Gyda’u plu anhygoel o welw, gydag ychydig o wrid coch a stribynnau hir ar eu cynffonnau, maen nhw’n cael eu hystyried y mwyaf cain o’r pump môr-wennol sy’n nythu yma ac yn ymweld â’n glannau. Mae’r adar hyn sydd mewn perygl yn mudo bob gwanwyn o orllewin yr Affrig i fridio mewn dyrnaid o gytrefi yn y DU a’r Iwerddon.

Grŵp o ynysoedd creigiog bychain yw Ynysoedd y Moelrhoniaid, sy’n gorwedd ychydig oddi ar gornel ogledd-orllewinol Ynys Môn. Gan fod y llystyfiant yn brin a’r tir yn arw, nid yw’n addas ar gyfer pobl; fodd bynnag, mae’r ynysoedd yn seintwar bwysig ar gyfer adar y môr sy’n nythu. Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn arbennig o arwyddocaol ar gyfer môr-wenoliaid sy’n nythu, wrth gefnogi’r gytref môr-wenoliaid y gogledd fwyaf yn y DU. Yn ystod yr haf, mae’r ynysoedd hefyd yn gartref i adar eraill sy’n bridio fel palod, gwylanod y penwaig, gwylanod cefnddu lleiaf a gwylanod cefnddu mwyaf.

Dywedodd Rheolwr Roseate Tern LIFE Recovery Project, Daniel Piec: “Rydym wrth ein boddau gyda’r newyddion am y môr-wenoliaid gwridog yn dychwelyd i fridio ar Ynysoedd y Moelrhoniaid.  Mae’r gwaith a gafodd ei wneud ar yr ynysoedd yn ystod y blynyddoedd blaenorol wedi bod yn allweddol i’w denu nhw yn ôl.  Diolch i gyllid LIFE, gallwn ni ymestyn y tymor wardeinio er mwyn sicrhau bod y cywion o’r pâr yma o fôr-wenoliaid gwridog yn magu yn llwyddiannus, gan ei wneud y tro cyntaf ar yr ynysoedd yma ers 2006.”

Dywedodd Warden RSPB Cymru, Ian Sims: “Mae’r RSPB, gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, wedi bod yn gweithio i ddiogelu’r adar môr ar Ynysoedd y Moelrhoniaid am nifer o flynyddoedd, ac wrth ystyried môr-wenoliaid gwridog sy’n nythu, mae ganddyn nhw hanes amrywiol. Yn 2016, bu un pâr yn bridio, ond ni fagwyd unrhyw gywion. Cyn hynny, buon nhw’n bridio y tro diwethaf yn 2006 – pan fagwyd un cyw gan y pâr.  Tra bod dau bâr wedi bridio yn 2003, ni fagwyd unrhyw gywion. Er hynny, ni ellir gorbwysleisio’r newyddion yma – yn enwedig o gofio ymdrechion y staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

“Er hynny, nid hwn oedd yr unig newyddion da i daro’r ynysoedd yr haf hwn. Gwelsom gynnydd dramatig hefyd mewn môr-wenoliaid y gogledd, gydag amcangyfrif o 600-700 mwy o barau o’u cymharu â 2017 – cynnydd o 20% yn gyffredinol. Gyda hyn, rydym yn obeithiol o ddenu mwy o fôr-wenoliaid yn y dyfodol.”

Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â Phroject Roseate Tern LIFE Recovery Project, ewch i www.roseatetern.org   

DIWEDD

Dilynwch y newyddion diweddaraf i gyd gan RSPB Cymru ar Trydar @RSPBCymru

Lluniau:

Er mwyn cael detholiad o luniau, cysylltwch â Danny Griffith, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru, 012489 672850 danny.griffith@rspb.org.uk  

Last Updated: Tuesday 28 August 2018

Tagged with: