Un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru yn wynebu difodiant

Eleri Wynne

Friday 23 September 2016

Dydd Mercher 21 Medi, bydd cynghrair o fwy na 50 o gyrff cadwraeth blaenllaw o bob rhan o Gymru yn uno i bwysleisio sefyllfa byd natur yng Nghymru.

Yn dilyn adroddiad arloesol Sefyllfa Byd Natur: Cymru yn 2013, mae arbenigwyr blaenllaw o 50 o sefydliadau bywyd gwyllt ac ymchwil (nodyn 2) wedi cyfuno eu gwybodaeth a'u harbenigedd i gyflwyno darlun cliriach fyth o statws bywyd gwyllt Cymru. Mae adroddiad 2016 yn datgelu bod 56% o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi prinhau ar draws y DU yn y 50 mlynedd ddiwethaf. Yng Nghymru, mae un o bob 14 rhywogaeth yn wynebu difodiant - gyda 57% o blanhigion gwyllt, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar yn prinhau, sy'n peri gofid mawr (nodyn 3).

Hefyd, rydym yn gwybod llawer mwy am ein bywyd gwyllt morol nac erioed o'r blaen. Mae mwy na thraean o fertebriaid a phlanhigion y môr (y gwyddom amdanynt) wedi prinhau mewn niferoedd, gyda thri chwarter y fertebriaid y môr wedi prinhau ar draws y DU (nodyn 4). Mae mesur newydd wedi'i ddatblygu i asesu iechyd ein hamgylchedd naturiol. Ystyrir bod sgôr o 90% neu is yn drothwy sy'n dangos na all ein hecosystemau weithredu i gwrdd â'n hanghenion ni neu anghenion natur (nodyn 3). O bob un o'r 218 a fu'n destun yr asesiad, mae sgôr Cymru ychydig yn is na 83% ac mae yn y chwarter isaf yn nhermau sefyllfa ein hecosystemau naturiol. Mae hyn ychydig yn well na'r Alban (81.3%), Lloegr (80.6%) a Gogledd Iwerddon (80%) ond yn bell ar ôl gwledydd eraill Ewrop, er enghraifft yr Almaen (88.3%) a Norwy (95.3%).

Dywedodd Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru ac un o awduron adroddiad 2016, Stephen Bladwell: "Dyma'r tro cyntaf i ni wybod cymaint â hyn am sefyllfa byd natur yng Nghymru a'r bygythiadau iddo. Am y tro cyntaf, rydym wedi gallu nodi a mesur y prif resymau pam fod ein bywyd gwyllt yn newid - ac mae'n amlwg mai newidiadau i ddulliau rheoli tir a newid yn yr hinsawdd yw'r ddau brif ffactor sy'n effeithio ar fyd natur.

"Dros y degawd diwethaf, mae'r dirywiad i fyd natur wedi parhau. Fodd bynnag, mae yna newyddion da. Gwyddom fod mesurau cadwraeth, os cânt eu cyflwyno'n dda, yn gweithio a gallant helpu i wyrdroi'r dirywiad i rywogaethau a chynefinoedd. Mae hyn yn amlwg gyda'r cynnydd yn nifer y dyfrgwn ac ystlumod, yn ogystal â gloÿnnod byw megis yr ieir bach modrwyog ac adar megis y barcud."

I godi ymwybyddiaeth am ein byd naturiol a sut gallwn helpu i atal y dirywiad hwn, bydd adroddiad Sefyllfa Byd Natur: Cymru 2016 yn cael ei lansio mewn digwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim, ar ddydd Mercher 21 Medi yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd. Comisiynwyd Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru 2013-2016, Martin Daws, Prifardd Eisteddfod Genedlaethol 2016, Aneirin Karadog, a'r rapiwr Ed Holden (aka Mr Phormula) i greu barddoniaeth ar thema byd natur Cymru. Ar y diwrnod byddent yn gweithio gyda nifer o artistiaid blaenllaw o Gymru - pob un ohonynt yn pwysleisio pwysigrwydd natur drwy gyfres o berfformiadau byw, am 12yh a 5yh (nodyn 5).

Dywedodd y perfformiwr a'r Prifardd, Aneirin Karadog: "Fel bachgen ifanc yn tyfu i fyny roeddwn yn ddigon ffodus i allu mwynhau digonedd o fywyd gwyllt ar fy stepen drws. Mae bod yn agos at fyd natur yn un o'r rhoddion mwyaf gwerthfawr ac fel tad, mae'n fy nhristáu meddwl bod llai o fywyd gwyllt yng Nghymru heddiw i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Ond, rydym yn cael ein hadnabod fel cenedl angerddol yng Nghymru ac rwy'n credu y gallwn ddefnyddio'r angerdd hwn i wyrdroi sefyllfa ein bywyd gwyllt." Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd cymunedau, ysgolion a'r cyhoedd yn cael cyfle i ddisgrifio yn eu geiriau eu hunain 'beth mae natur yn ei olygu iddynt hwy'. Byddant yn gallu ysgrifennu eu negeseuon personol eu hunain ar nifer o gynfasau mawr a fydd yn teithio o amgylch y wlad - pob un ohonynt yn dangos rhai o'r rhywogaethau sy'n wynebu'r perygl mwyaf yng Nghymru (nodyn 5). Bydd y cynfasau'n cael eu harddangos yn y digwyddiad lansio cyhoeddus ar 21 Medi, a fydd yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth o fyd natur yng Nghymru. Dywedodd y bardd Gair Llafar, Martin Daws: "Fel rhywun sy'n mwynhau adrodd storïau yn fawr iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig, rwy'n edrych ymlaen at ddod â stori natur yng Nghymru yn fyw. P'un a ydych yn ymwybodol ohono ai peidio, mae natur yn rhywbeth sy'n effeithio ni gyd, a gall pob un ohonom gyfrannu er mwyn helpu i'w achub."

Mae partneriaeth Sefyllfa Byd Natur yn annog pobl i roi llais i fyd natur drwy gymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau, sy'n cael eu cynnal gan y partneriaid Sefyllfa Byd Natur er mwyn helpu natur. Gall gwirfoddolwyr ddewis prosiectau o'r categorïau canlynol; cyfrif a monitro natur, ymgyrchu, rheoli eich gofod a byw'n gynaliadwy. I dderbyn manylion llawn am y prosiectau, ewch i rspb.org.uk/stateofnature.

Aeth Stephen ymlaen i ddweud: "Mae'r ffordd yr ydym yn diogelu a rheoli ein hamgylchedd yn hollbwysig er mwyn gwyrdroi dirywiad byd natur. Mae angen dull cydlynol ar draws y llywodraeth, busnesau, sefydliadau cadwraeth a'r cyhoedd. Cafodd deddfwriaeth arloesol ei phasio'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a allai, os gweithredir yn effeithiol, weld Cymru'n arwain y ffordd ar gyfer adferiad bioamrywiaeth yn y DU. Mae angen i Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth pobl Cymru, godi i'r her."

1. Bydd Sefyllfa Byd Natur DU/Lloegr yn cael ei lansio ar 14 Medi a bydd yn cael ei lansio gan Syr David Attenborough a sefydliadau cadwraeth ac ymchwil y DU yn Y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain. Cynhelir digwyddiadau eraill yng Nghaeredin a Belfast yn ystod yr wythnos nesaf i lansio'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

2. Mae partneriaeth Sefyllfa Byd Natur 2016 ar draws y DU yn cynnwys:

Adran yr Amgylchedd Taleithiau Guernsey, A Focus on Nature, A Rocha UK, ALERC, Amphibian & Reptile Conservation, Bat Conservation Trust, Biological Records Centre, Botanical Society of the British & Ireland, British Dragonfly Society, British Lichen Society, British Pteridological Society, BTO, Buglife, Bumblebee Conservation Trust, Butterfly Conservation, Centre for Ecology and Hydrology, Chartered Institute for Ecology and Environmental Management, Coed Cadw, Conchological Society of Great Britain and Ireland, Cyfeillion y Ddaear, Durrell Wildlife Conservation Trust, Earthwatch, Freshwater Habitats Trusts, Froglife, Fungus Conservation Trust, I-spot, Llywodraeth Guernsey, Mammal Society, Manx Birdlife, Marine Biological Association, Marine Conservation Society, MARINElife, National Forum for Biological Recording, National Biodiversity Network, NHM, Orca, People's Trust for Endangered Species, Plantlife, PREDICTS, Rothamsted Research, RSPB, SAHFOS, Shark Trust, Vincent Wildlife Trust, Whale and Dolphin Conservation, WWF, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Yr Ymddiriedolaeth Natur, ZSL.

3. Yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf, mae 57% o blanhigion fasgwlaidd, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar wedi prinhau yng Nghymru. Ers 1970, ar draws y DU, mae 56% o rywogaethau wedi prinhau, gyda 40% yn dangos dirywiad cryf neu gymedrol, roedd 31% yn dangos fawr ddim newid ac roedd 29% yn dangos cynnydd cryf neu gymedrol. Yn ystod y degawd diwethaf, mae 53% o rywogaethau wedi prinhau a 47% wedi cynyddu. Roedd y mesurau hyn yn seiliedig ar dueddiadau ansoddol ar gyfer bron i 4,000 o rywogaethau tir a dwr croyw yn y DU. Mae mesurau cenedlaethol y Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII) yn ein darparu ag un dull o asesu hyd a lled diflaniad byd natur o ganlyniad i weithgareddau dynol sy'n mynd yn ôl ganrifoedd. Awgrymir bod gwerthoedd BII o dan 90% yn dangos bod ecosystemau o bosib wedi cwympo'n is na'r pwynt lle gellir dibynnu arnyn nhw i ateb anghenion cymdeithas. Felly mae'r gwerth ar gyfer Cymru - 82.8% - yn peri pryder mawr; o'r 218 o wledydd y mae gwerthoedd BII wedi eu cyfrifo, daw Cymru 49 o'r gwaelod. Mae hyn yn gosod Cymru ym mhump isaf yr holl wledydd a ddadansoddwyd.

4. Mesurwyd sefyllfa ein bywyd gwyllt morol ar draws y DU gyda mwy na thraen o'r o'r fertebriaid a phlanhigion (y gwyddom amdanynt) wedi lleihau mewn nifer, gyda thri chwarter y fertebriaid morol wedi prinhau ar draws y DU. Mae nifer yr adar môr yn y DU yn dirywio'n gyflym gyda'r nifer o adar y môr ar y rhestr Goch o rywogaethau sydd mewn perygl yn dyblu yn yr asesiad diweddaraf (2015).

5. Bydd adroddiad Sefyllfa Byd Natur: Cymru 2016 yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant ddydd Mercher 21 Medi. Bydd nifer o weithgareddau a pherfformiadau gwahanol yn cael eu cynnwys, yn cynnwys perfformiad gair llafar gan Martin Daws ac Aneirin Karadog perfformiadau cerddorol gan Ed Holden, Gareth Bonello ac Ellie Makes Music, a pherfformiad syrcas arbennig gan Organised Kaos Cynhelir y perfformiadau rhwng 12yh-2yh ac yna eto rhwng 5yh-7yh. Bydd y cyhoedd yn cael cyfle hefyd i boblogi 8 canfas mawr siâp rhywogaethau a fydd yn ymweld â lleoliadau ar hyd a lled Cymru. Ymhlith y lleoliadau mae: Canolfan Siopa Dewi Sant Caerdydd, Undeb y Myfyrwyr Caerdydd, Canolfan Siopa St Elli Llanelli, Canolfan Siopa Deiniol Bangor, County Park Wrecsam, Amgueddfa Aberystwyth, Maes Myrddin Caerfyrddin a Chanolfan Capitol Caerdydd. Bydd y 4 canfas sy'n weddill yn cael eu creu gan Martin Daws ac Aneirin Karadog, a fydd yn ysgrifennu cerddi sydd wedi'u comisiynu'n arbennig, i'w harddangos ar y cynfasau; yr arlunydd graffiti Millimagic a disgyblion ysgolion cynradd Caerdydd - drwy brosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd RSPB Cymru.

Tagged with: Country: Wales Topic: Conservation