Ymchwil newydd yn taflu goleuni ar droseddau yn erbyn adar ysglyfaethus yng Nghymru

Deio Gruffydd

Tuesday 24 August 2021

Yn ôl adolygiad newydd gan RSPB Cymru a gyhoeddwyd heddiw, prin iawn yw’r achosion o ddwyn wyau a chywion adar ysglyfaethus yng Nghymru, ond er hynny mae’r erledigaeth ohonynt yn barhaus.

Mae Troseddau yn erbyn adar ysglyfaethus yng Nghymru 1990-2019 - a ysgrifennwyd gan RSPB Cymru ac a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Adaryddol Cymru - yn crynhoi helyntion adar ysglyfaethus yng Nghymru dros y tri degawd diwethaf.

Un o’r prif ganfyddiadau ydy, ers y 1900au mae’r achosion o ddwyn wyau a chywion wedi bod yn brin iawn. Roedd lladrad yn arfer bod yn broblem enfawr yng Nghymru, gydag wyau adar ysglyfaethus fel yr hebog tramor a’r barcud coch yn cael eu dwyn gan gasglwyr. Mae cywion y gwyddwalch a’r hebog tramor wedi cael eu targedu hefyd at bwrpas gwerthu i hebogwyr, gan gynnwys yn y Dwyrain Canol. Ond mae cosbau mwy llym a newid yn ymwybyddiaeth ac agwedd y cyhoedd wedi arwain at ddatgelu llond llaw yn unig o achosion yng Nghymru dros y degawd diwethaf.

Ar y llaw arall, mae’r darlun yn ymwneud ag erlid adar ysglyfaethus (e.e. saethu, maglu a gwenwyno) yn un llai cadarnhaol. Er bod nifer y digwyddiadau a gadarnhawyd o erlid adar ysglyfaethus wedi gostwng rhwng 2000 - 09 o’u cymharu â’r degawd blaenorol, gwelwyd cynnydd bychan dros y degawd diwethaf. Er hynny, gallai’r cyfanswm go iawn fod yn llawer uwch, gan ei bod hi’n bosib mai dim ond crafu’r wyneb yw nifer yr achosion o erlid sydd wedi’u cadarnhau.

Yr hyn sydd fwyaf pryderus yw bod nifer yr achosion o wenwyno wedi cynyddu yn y 30 mlynedd diwethaf, gyda 52 achos wedi’u cadarnhau yn y degawd diwethaf. Tra bod gosod abwyd gwenwynig yn yr awyr agored wedi bod yn anghyfreithlon ers 1911, mae’r adolygiad yn awgrymu bod hyn yn parhau i fod yn broblem i fywyd gwyllt yng nghefn gwlad Cymru. Gall adar ysglyfaethus, mamaliaid gwyllt a hyd yn oed anifeiliaid anwes y cartref ddioddef o ganlyniad i  blaladdwyr.

Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaeth RSPB Cymru a phrif awdur y papur:

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da dros y tri degawd diwethaf yn lleihau graddfeydd trosedd yn erbyn ein hadar ysglyfaethus mawreddog. Mae’r lleihad trawiadol yn niferoedd yr achos o ddwyn wyau a chywion yn dangos bod gweithredu’n fwy llym wir yn gweithio. Mae hyn wedi helpu i groesawu’n ôl adar fel y barcud coch a oedd unwaith ar fin diflannu’n gyfan gwbl. Er hynny, mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o erlid adar ysglyfaethus, ac yn arbennig achosion o wenwyno, yn peri pryder mawr. Mae llawer o waith i’w wneud er mwyn mynd i’r afael â’r gweithredoedd troseddol truenus hyn yn erbyn bywyd gwyllt.”

Mae’r papur hefyd yn dangos bod y tebygolrwydd o erledigaeth yn 2010-2019 deirgwaith yn uwch mewn ardaloedd lle'r oedd saethu adar wrth hela yn gyffredin.

Aeth Julian Hughes yn ei flaen:

“Roedd y berthynas rhwng achosion o erlid adar ysglyfaethus a saethu adar wrth hela yn gryfach na’r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl, ac rydyn ni o’r farn bod angen ymchwil pellach i hyn er mwyn ei ddeall.”

Dywedodd Anne Brenchley, Cadeirydd Cymdeithas Adaryddol Cymru:

“Mae ymwybyddiaeth gyhoeddus o erlid adar ysglyfaethus wedi gwella yn y tri deg mlynedd ddiwethaf, yn aml o ganlyniad i ymdrechion cyfunol yr RSPB. Mae Cymdeithas Adaryddol Cymru yn cefnogi’n llwyr bob ymdrech i ostwng nifer yr achosion o erlid adar ysglyfaethus, gan wneud ymchwil arbennig i’r cyswllt ymddangosiadol rhwng erledigaeth a rheolaeth adar sy’n cael eu hela. Rydyn ni’n gobeithio bydd y lefelau o erlid adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon yn parhau i ostwng dros y tri deg mlynedd nesaf.”

Dywedodd Rob Taylor, Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Llywodraeth Cymru:

“Yn hanesyddol, mae’r hil ddynol wedi effeithio ar boblogaeth a hyd yn oed bodolaeth llawer o adar a chynefinoedd yng Nghymru, am amrywiol resymau. Fel cenedl, mae gennyn ni lawer o adar eiconig sy’n harddu ein hawyr gyda balchder ac rydyn ni’n rhoi clod i waith y rheini sydd wedi mynd gam ymhellach i gynnal eu cadwraeth hanfodol. Mae’r barcud coch a gwalch y pysgod yn esiamplau da o lwyddiant yng Nghymru, er y gall y rhain barhau i fod yn destun erledigaeth ddianghenraid hyd yn oed yn 2021. Mae gennyn ni, yr Heddlu, a’n prif asiantaethau partneriaeth ddyletswydd i atal erledigaeth bellach o unrhyw aderyn yng Nghymru a'u hamddiffyn nhw a’u cynefinoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd fy rôl newydd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar hyn fel cenedl a bydd sefydlu Grŵp Gorfodaeth Troseddau Cymru yn dod â’r arbenigedd angenrheidiol ynghyd i gyflawni hynny. Bydd ein gwaith heddiw yn cynnal prydferthwch naturiol ein hadar Cymreig i ninnau, i ymwelwyr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

DIWEDD

Nodiadau:

1. Er mwyn darllen y fersiwn llawn o Troseddau yn erbyn adar ysglyfaethus yng Nghymru 1990-2019, cliciwch yma.

2. Ysgrifennwyd Troseddau yn erbyn adar ysglyfaethus yng Nghymru 1990 - 2019 gan Julian Hughes, Helen Mason, Matthew Bruce a Guy Shorrock. Cyhoeddwyd ef yn rhifyn mwyaf diweddar o Adar yng Nghymru – cylchgrawn Cymdeithas Adaryddol Cymru.

3. Rhwng 2010 a 2019, roedd cysylltiad cryf rhwng digwyddiadau erlid adar ysglyfaethus wedi’u cadarnhau a sgwariau 10km lle'r oedd diwrnodau saethu ffesantod, y betrisen goesgoch a’r rugiar goch. Roedd y tebygolrwydd o erlid deirgwaith yn uwch mewn sgwariau 10-km oedd yn cynnal digwyddiadau saethu adar wrth hela nag mewn lleoedd eraill.

4. Mae llawer o’r plaladdwyr a ddefnyddir ar gyfer gwenwyno bywyd gwyllt yn anghyfreithlon yn barod, ond mae yna ddewis eang o wenwyn cyfreithlon y gellid eu defnyddio. Bendiocarb ydy’r dewis cyffredin o blaladdwyr yn bresennol.

Tagged with: Country: Wales Country: Wales Country: Wales Topic: Birds Topic: Wales Topic: Wales Topic: Birds of prey Topic: Wales