Dewiswch iaith: Cymraeg English

RSPB organic farm at Lake Vyrnwy

Cymru

Rydym wedi bod yn cymryd camau breision yn ein hymdrech i achub natur yng Nghymru eleni, esbonia Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru.

Blwyddyn dda

Bu’n flwyddyn dda ac rwy’n falch o allu adrodd ar rai o’n llwyddiannau nodedig a’n prosiectau cadwraeth.

Wrth edrych yn ôl rwyf wedi cael fy nharo gan amrywiaeth ein gwaith, o gadwraeth ar raddfa fawr ar Wastadeddau Gwent i’r frwydr hynod benodol dros linosod y mynydd yn Eryri, yn ogystal â phrosiectau sy’n atgyfnerthu ein rôl o achub natur yng Nghymru a’r rhai sy’n ennyn diddordeb cenedlaethau’r dyfodol ym myd natur. 

Gwent Levels RSPB Reserve, aerial view

Diogelu'r dyfodol

Y llynedd, cyhoeddwyd cytundeb o bwys sy’n sicrhau dyfodol ein tenantiaeth ar fferm ystâd Llyn Efyrnwy ym Mhowys. Blwyddyn yn ddiweddarach ac rydym yn gwirioneddol deimlo manteision tenantiaeth 30-mlynedd.

Saif y fferm o fewn gwarchodfa natur genedlaethol 10,000 hectar o ran maint sy’n croesawu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig, yn Ardal Cadwraeth Arbennig a dyma’r arwynebedd mwyaf o rostir grug mewn perchnogaeth unigol yng Nghymru.

Mae’r ardal yn cynnwys gorgors, rhostir a choetir ac mae’n gartref i fodaod tinwyn, cudyllod bach, grugieir coch a phlanhigion a phryfed arbennig iawn. 

Mae’r denantiaeth yn rhoi rheolaeth hirdymor i ni ar y cynefin, sy’n allweddol i gadwraeth yr amgylchedd arbennig iawn yma.

Rydym eisoes wedi cychwyn ar raglen enfawr i atgyweirio milltiroedd o ffensys, ac rydym yn adeiladu cwt tail. Nid yw’n swnio’n rhyw hyfryd iawn, ond rydym angen y tail i dyfu cnydau i fwydo’r anifeiliaid yn y gaeaf, a bydd y cwt yn ein galluogi i wneud gwrtaith llawn maethynnau mewn modd cost effeithiol ac effeithlon o ran amser.  

Ffermio ar gyfer bywyd gwyllt

Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar ein dulliau pori. Yn ogystal â defaid mynydd Cymreig a merlod mynydd Cymreig, mae gennym hefyd wartheg duon Cymreig. Yn ddiweddar, buom yn eu rhoi i bori ar y mynyddoedd yn yr haf. Maent yn pori’n wahanol i ddefaid, gan greu brithwaith o wahanol gynefinoedd.  Rydym wedi gweld fioledau yn tyfu, sy’n boblogaidd gyda gloÿnnod byw brith y gors. Mae tystiolaeth hefyd fod gorhedyddion y waun yn cynhyrchu wyau mwy o faint mewn ardaloedd lle y mae gwartheg wedi pori rhostir. Mae’r tail cyfoethog yn cynnal pryfed, sy’n cael eu bwyta gan orhedyddion y waun, sydd yn eu tro yn darparu bwyd i gudyllod bach. 

Mae’n dangos yn glir fel yr ydym yn rhedeg y fferm yn fasnachol ac er budd byd natur. Mae’r fferm wedi ei rhedeg erioed i fod yn economaidd hyfyw ac mae hon yn ffordd o reoli’r fferm ar gyfer bywyd gwyllt, gan ffermio yn y “byd real” yr un ffordd. 

Cymru fwy cynaliadwy

Bu tîm polisi RSPB Cymru yn gweithio’n galed gydag aelodau’r Cynulliad a swyddogion i gyflwyno gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth amgylcheddol newydd yng Nghymru. Roeddwn yn arbennig o falch o’n mewnbwn i Ddeddf Amgylchedd (Cymru) newydd a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym Mawrth 2016. Gyda chefnogaeth ein cefnogwyr, a chan weithio gyda phartneriaid, sicrhawyd bod y ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys ymrwymiad y bydd Cymru yn rheoli ei hadnoddau naturiol mewn modd mwy cynaliadwy.

Gyda chefnogaeth ein cefnogwyr ymgyrchu, a chan weithio gyda phartneriaid, sicrhawyd bod y ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys ymrwymiad y bydd Cymru yn rheoli ei hadnoddau naturiol mewn modd mwy cynaliadwy, ac yn cydnabod gwerth a manteision ecosystemau iach. 

Bydd rhoi’r Ddeddf ar waith yn allweddol, ac rydym yn awr yn brysur yn cynorthwyo i oleuo datblygu polisïau ac adroddiadau sy’n cael eu cynhyrchu mewn cydymffurfiaeth â’r Ddeddf. Byddwn yn parhau i roi llais i fyd natur ac eiriol dros bolisïau gwirioneddol gynaliadwy sy’n gweithio ar gyfer natur ac ar gyfer pobl. 

Aerial view of Lake Vyrnwy
Llyn Efyrnwy - golygfa o’r awyr
Hen harrier Circus cyaneus, adult female perched on heather, Loch Gruinart RSPB reserve, Islay, June 2002
Boda Tinwyn
Welsh black cattle at Lake Vyrnwy
Gwartheg du Cymreig

Amddiffyn ein treftadaeth naturiol

Mae’n bleser gen i gyhoeddi prosiect arall ar raddfa fawr, ond un o natur wahanol iawn - Partneriaeth Tirwedd Gwastadeddau Byw Gwent.

Mae Gwastadeddau Gwent yn glytwaith o hafanau bywyd gwyllt amrywiol, yn ymestyn hyd Aber Afon Hafren o Gaerdydd at Bont Hafren a thu hwnt. Maent yn gartref i gyfoeth o rywogaethau carismatig sydd dan fygythiad gan gynnwys cornchwiglod, dyfrgwn, llygod dŵr, y chwilen ddŵr arian fawr ac un o gacynod prinnaf y DU sef y gardwenynen feinlais. Mae’r ardal hefyd yn cynnal nifer o blanhigion arbenigol gan gynnwys ffugalaw, saethlys a llinad di-wraidd - y planhigyn blodeuol lleiaf yn y byd. 

Cyflawni mwy drwy bartneriaethau 

Ddiwedd y llynedd, dyfarnwyd £2.8 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i RSPB Cymru mewn partneriaeth ag 11 o sefydliadau eraill ac awdurdodau lleol yng Nghymru i adfer a gwarchod treftadaeth naturiol Gwastadeddau Gwent. Bydd y prosiect hwn yn cynnwys ail-gysylltu’r gymuned â’r tirlun i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y rhan hynod hon o’r wlad. 

Ar hyn o bryd rydym yn y cam datblygu: ynghyd â’n partneriaid, rydym yn gweithio ar raglen o weithgareddau a fydd yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2017 hyd ddiwedd 2020. Mae ymgysylltu â’r gymuned wrth galon ein gwaith i sicrhau fod barn a dymuniadau pobl leol yn rhoi ffurf ar y prosiect hwn.  Rydym yn hynod falch ein bod yn ymwneud â hyn: drwy weithio gyda phartneriaid a’r gymuned ar brosiectau ar raddfa’r tirwedd fel hyn, gallwn gyflawni a gwneud mwy dros natur. 

Cardwenynen feinlais
TAPE Event, created by Numen / For Use- a Croatian collective working in the field of conceptual art, scenography and spatial design. Brought to Cardiff as part of a partnership between RSPB Cymru’s flagship Giving Nature a Home in Cardiff project, Welsh arts organisation Migrations and the City of Cardiff Council, children playing, Cardiff

Ysbrydoli cariad at natur

Cafwyd tro dramatig i’n gwaith i roi cartref newydd i natur yng Nghaerdydd y llynedd pan fuom yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad celfyddydol o Ogledd Cymru “Migrations” a Chyngor Dinas Caerdydd i gynhyrchu TAPE, gosodiad celfyddydol a daniodd ddychymyg miloedd o bobl o’r ddinas a thu hwnt. Wedi’i osod mewn coeden ym Mharc Bute, roedd TAPE yn strwythur tebyg i gocŵn enfawr a oedd yn ddigon mawr i gynnwys teulu cyfan. Elfen hanfodol o’n strategaeth  Rhoi Cartref i Fyd Natur yw ymgysylltu plant a’u teuluoedd â natur, a bu hyn yn foddo gyflawni hynny yn sicr. Daeth oddeutu 74,000 o bobl i’w weld ym mis Awst: dringodd ddeutu 10,000 i mewn i TAPE, a bu eraill yn edrych yn edmygus arno, yn cael picnic gerllaw, neu ddim ond yn cael golwg. 

Ochr yn ochr â hyn buom yn cynnal gweithgareddau mwy traddodiadol yn ymwneud â natur i blant - gan ymgysylltu 1,000 o blant yn llwyddiannus.  Diolch yn fawr i chi ein gwirfoddolwyr a roddodd 700 o oriau i helpu i adeiladu TAPE, cynnal digwyddiadau ac ymgysylltu â phobl.  

Rydym yn hynod falch o’r ffordd yr aeth pethau, ac mae Migrations yn hapus hefyd. Gymaint felly fel ein bod yn cynnal digwyddiad arall gyda’n gilydd ym mis Gorffennaf 2016 o’r enw ‘Yn Llygaid yr Anifail’. Mwy am hynny yn adolygiad blynyddol 2016-17. Mae cydweithio fel hyn yn bwysig. Mae’n ymwneud â gwthio'r ffiniau, bod yn arloesol, cymryd risgiau ac estyn allan at bobl nad ydynt eisoes yn ymgysylltu â ni. Mae natur a chelf yn mynd gyda’i gilydd yn dda iawn ac mae’n ein dangos mewn goleuni newydd sy’n gwneud i bobl siarad. 

Y frwydr dros linos y mynydd

O’r dramatig i’r bychan iawn. Mae’r llinos yn aderyn bach brown di-nod yr olwg sydd wirioneddol angen cymorth gennym.  

Unwaith roedd yn eithaf cyffredin yn ucheldir Gogledd Cymru, ond mae bellach yn gyfyngedig i ddwy ardal yn Eryri, gydag arolwg yn 2008 yn amcangyfrif nad oedd ond 14-17 o barau ar ôl. Dim ond hadau fydd y llinos yn eu bwyta, gan fagu cywion ar hadau yn unig. Mae hyn yn golygu fod tir amaethyddol yn hollbwysig er mwyn iddynt oroesi ac rydym wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr ers nifer o flynyddoedd i danlinellu hyn; mae rhai ffermwyr eisoes yn ychwanegu at fwydlen naturiol yr adar drwy fwydo hadau nyjer iddynt. Y llynedd, aethom ati i gynyddu ein hymdrechion ac erbyn hyn mae pedair fferm yn cymryd “seibiau oddi wrth bori” pryd y caiff yr anifeiliaid eu symud ymaith am 8-10 wythnos i ganiatáu i weiriau a blodau hadu a darparu bwyd ar gyfer llinosod. Yna caiff y caeau eu pori fel arfer. 

Y nod yn y pen draw yw cael gwared â’r angen i ddarparu hadau nyjer,  ac rydym yn monitro’r seibiau pori i weld faint o ddefnydd sy’n cael ei wneud ohonynt fel ffynhonnell hadau gan linosod. Mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn cydweithio’n agos â ni ar y prosiect hwn, gan fodrwyo yn y gorsafoedd bwydo ac yn yr ardaloedd lle bydd yr adar yn treulio’r gaeaf sef yn aber Afon Dyfrdwy. Ond y gymuned o ffermwyr yn Eryri sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r aderyn brown bregus hwn. Drwy newid rhai o’u harferion ffermio, maent yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau dyfodol gwell i’r llinos. 

Achub natur gyda’n gilydd 

Erys heriau enfawr i fywyd gwyllt yng Nghymru: colli cynefin, dirywiad rhywogaethau a newid yn yr hinsawdd ymysg eraill. Fodd bynnag, wrth edrych yn ôl dros ein llwyddiannau eleni, mae digon o resymau dros fod yn obeithiol. Nid yn lleiaf ein hymdrechion i weithio mewn partneriaeth. Drwy weithio gyda’n gilydd, rwy’n obeithiol y gallwn achub natur. 

Twite at Balranald nature reserve, Noth Uist, Scotland
Llinos y mynydd