Dewiswch iaith: Cymraeg English

Fulmars Fulmarus glacialis, in flight and the rising moon, Ramsey Island RSPB reserve, Wales

Cadwraeth yng Nghymru

Mae RSPB Cymru’n gwarchod cynefinoedd a bywyd gwyllt sydd dan fygythiad. Oherwydd y nifer o gynefinoedd sydd gennym ar gyfer rhai o rywogaethau’r DU sydd mewn perygl fwyaf, yn ogystal â gofynion cynyddol pobl, rydym yn hynod o brysur!

Pam fod Cymru’n lle arbennig i fyd natur?

Mae’r RSPB wedi bod yn gwarchod bywyd gwyllt yng Nghymru ers 1911, pan gyflogwyd ‘Mrs Jones o Landdwyn’, i weithio fel ‘Gwyliwr’  i warchod nythfa o fôr-wenoliaid rhostog ar Ynys Môn. Erbyn hyn, rydym yn gweithio ledled Cymru i roi cartref i fyd natur.

Mae gennym yng Nghymru rai cynefinoedd arbennig iawn. Mae aber yr Hafren o dan bwysau sydd bron yn barhaol oherwydd cynigion i greu bared neu lagwnau llanwol i harneisio ei rym ar gyfer ynni adnewyddadwy. Ac eto dyma le godidog i fyd natur: wedi ei ddynodi’n ardal o wlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn cael ei warchod gan ddeddfau.

Ambell dro disgrifir coedlan dderw’r Atlantig fel ‘Coedwig Law Cymru’. Mae’r RSPB yn berchen ar, ac yn rheoli,  rhannau ohoni o gwmpas aber yr afon Mawddach, Ynys-hir a Charngafallt ac yn ei rheoli. Dyma gartref adar ymfudol traws-Sahara sy’n gysylltiedig â Chymru: y gwybedog brith, telor y coed a’r tingoch. Mae’r cynefin hwn hefyd yn bwysig iawn am ei gen a’i blanhigion megis mwsoglau a llysiau’r afu. 

Mae ffridd - ‘cynefin ar y cyrion’ - yn unigryw i Gymru. Fe’i ceir ar gyrion ein mynyddoedd a’n rhostiroedd, ar y ffin  rhwng y ffermdir a amgaewyd yn hanesyddol a’r ucheldir heb ei amgáu, ac ar greigiau geirwon a llethrau serth o fewn caeau amgaeedig. Mae’n cynnwys casgliad o gymunedau ecolegol afreolaidd ac amrywiol ond, yn y bôn, dyma ‘gwr yr ucheldir’. Chwiliwch am fwy o wybodaeth am y ffridd.

People walking in woodland at RSPB Ynys-hir nature reserve
People exploring RSPB Ynys-hir nature reserve

Cadarnle i adar môr

Mae poblogaethau Cymru o adar môr yn dod yn fwyfwy pwysig ar lefel ryngwladol. Gyda phoblogaethau’n prinhau’n ddifrifol ar hyd a lled gogledd y DU (yn enwedig yr Alban), mae’r ffaith fod adar môr Cymru – er bod yr wylan goesddu’n eithriad – yn dal eu tir, a hyd yn oed yn cynyddu yn eu nifer, yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn gwneud pob dim posibl i’w gwarchod.

Mae ynysoedd arfordir Cymru’n hanfodol bwysig i sawl rhywogaeth. Yng Nghymru mae hanner poblogaeth y byd o adar drycin Manaw, ac mae Ynys Gwales -  gwarchodfa adar cyntaf yr RSPB yng Nghymru – yn gartref i’r drydedd nythfa fwyaf yn y byd o huganod. 

Rydym yn gwarchod Ynysoedd y Moelrhoniaid - grŵp bychan o ynysoedd oddi ar Ynys Môn - sydd bellach yn gartref i nythfa fwyaf môr-wenoliaid y gogledd yn y DU. Mae hyn nid yn unig oherwydd bod niferoedd yn cynyddu yno, ond oherwydd bod nythfeydd enfawr o fôr-wenoliaid y gogledd yn yr Alban wedi crebachu’n ddifrifol.

Razorbills on nesting cliff

Gwarchod bywyd y môr

Gwell gwarchodaeth i’n moroedd

Mae’r moroedd o amgylch ein hynysoedd yn cynnal bron i hanner bywyd gwyllt y DU. Mae ein dyfroedd yn darparu mannau bwydo cyfoethog ar gyfer miliynau o adar môr sydd â chywion i’w bwydo. Ond maen nhw mewn perygl. 

Cyfrannwch heddiw

Rhywogaethau arbennig

Mae rhai rhywogaethau yng Nghymru yn arbennig oherwydd eu bod ar gwr de orllewinol eu cynefin nythu yn Ewrop. Er enghraifft, mae’r gylfinir wedi prinhau’n ddifrifol yn y blynyddoedd diwethaf. Yn yr un modd, mae’r cwtiad aur hardd bron â diflannu o dir a daear Cymru – dim ond rhyw 50 pâr sydd ar ôl. 

Y boblogaeth fechan a bregus o gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las, y mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gaeafu ar warchodfa RSPB Ynys-hir - yw’r haid fwyaf deheuol sy’n gaeafu yn y DU.

Mae’r rugiar ddu ar gwr deheuol ei chynefin nythu hefyd. Prinhaodd eu niferoedd i ddim ond 131 o geiliogod oedd yn perfformio arddangosfa baru ym 1997. Wrth gydweithio â pherchnogion tir a stad, yn enwedig stad Wynnstay Home Farm, cynyddodd eu nifer i 420 o geiliogod yn arddangos eu hunain yng Nghymru yn 2015 – y nifer uchaf yn y degawdau diwethaf. Er bod eu nifer i’w weld yn cynyddu, mae’n bryderus bod maint cynefin y rhywogaeth hon yng Nghymru yn crebachu. 

Mae Cymru’n cynnal 55% o boblogaeth y DU o’n haelod mwyaf prin o deulu’r frân: y frân goesgoch. Yn 2014 roedd yma 215 pâr. 

Yng Nghymru y llwyddodd llond llaw o farcutiaid i ddal eu tir drwy gyfnod o ddegawdau o erledigaeth yn y DU (roedd y rhywogaeth wedi diflannu yn Lloegr erbyn 1871 a’r Alban yn 1879). Dim ond yn yr 1960au y dechreuodd y boblogaeth gynyddu’n araf i dros 20 pâr; cyrhaeddodd dros 100 pâr erbyn canol yr 1990au. 

Diolch i ymdrechion cadwraethwyr, ffermwyr a thirfeddianwyr mae dros fil o barau o farcutiaid coch bellach yn nythu yng Nghymru.

Curlew Numenius arquata, flapping wings after bathing in shallow pool, Geltsdale RSPB reserve, Cumbria, England, May
Curlew
David Douglas (Conservation Scientist) heads up a team looking into the effects of a wind farm on Golden plover Pluvialis apricaria, Sutherland, Scotland
Golden plover
Black grouse Tetrao tetrix, adult male on lek. Corrimony RSPB reserve. Scotland.
Black grouse
Choughs (pyrrhocrax graculus) pair in flight at dusk, South Stack RSPB reserve, Wales
Chough
Red kite Milvus milvus, in flight, UK
Red kite
Panoramic view of reeds and pools, RSPB Conwy reserve

Ein gwarchodfeydd natur

Mae RSPB Cymru’n helpu i warchod lleoedd arbennig dros fywyd gwyllt drwy gyfrwng amrywiaeth eang o ddulliau. 

Rydym yn rheoli 18 gwarchodfa natur yng Nghymru, yn amrywio o ynysoedd oddi ar y lan i gopaon mynyddoedd, ac o wlyptiroedd i goedlannau. Mae ein gwaith ar y safleoedd hyn yn cynnwys rheoli’r cynefin sydd gennym eisoes i’w gadw mewn cyflwr da dros fywyd gwyllt. 

Rydym hefyd yn creu cynefin newydd. Er enghraifft, ar ein gwarchodfa Cors Ddyga ar Ynys Môn, rydym wedi creu gwelyau hesg, corsydd, glaswelltir llaith a phyllau bach ar ddarn o dir amaethyddol.

Gwarchod safleoedd bywyd gwyllt

Mae amgylchedd naturiol Cymru o dan bwysau datblygiadau o bob math - o ffyrdd i brojectau ynni adnewyddadwy i orsafoedd pŵer niwclear. Rydym yn ymateb pan fydd bygythiad i gynefinoedd gwerthfawr - ar unrhyw bryd, mae’n bosibl ein bod yn delio ag oddeutu 100 o achosion. Hoffem gymryd rhan mewn mwy, ond gan mai adnoddau cyfyngedig sydd gennym ni allwn ond cymryd rhan yn yr achosion pwysicaf.