Rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd 2021, bydd arweinwyr y byd yn dod at ei gilydd yn Glasgow ar gyfer 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, a elwir yn COP26. Yma byddant yn gwneud dewisiadau a fydd yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd, lle'r ydym yn byw, y byd natur yr ydym yn dibynnu arno a'r bywyd gwyllt yr ydym yn ei garu.
Mae angen i ni ddangos iddyn nhw fod gweithredoedd yn siarad yn uwch na geiriau. Felly rydyn ni'n gofyn i ti weithredu dros fyd natur a rhannu'r hyn rwyt ti wedi'i wneud. Mae pob cam a gymri yn dangos i'r rhai sy'n penderfynu ar ein dyfodol dy fod yn poeni am fyd natur a'r hinsawdd. Bydd yn ein helpu i'w darbwyllo bod angen iddynt gymryd camau pendant yr hydref hwn.
Rhaid inni fynnu bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn dilyn ein harweiniad ac yn gweithredu ar gyfer yr argyfwng byd natur a'r hinsawdd.
Dyma sut y galli di gymryd rhan.

#FyNgweithredHinsawdd
Mae’r argyfwng byd natur a hinsawdd yn bygwth ein bywyd bob dydd. Ond galli di helpu. Yn syml, gweithreda dros fyd natur, a dyweda wrthym beth wyt wedi'i wneud. Yna byddi di'n sefyll gyda miloedd o bobl eraill i fynnu bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn dilyn ein harweiniad.
COP 26 - Pan ddown at ein gilydd, mae newid yn digwydd

Mae gen ti gyfle unigryw

Dim mwy o fawn yn yr ardd
Lleoliad: Ledled y DU
Math o weithred: Rholiwch eich llewys i fyny
Mae mawn yn cymryd canrifoedd i ffurfio ac mae'n gartref i fywyd gwyllt anhygoel. Ond gellir ei ddinistrio mewn mater o ddyddiau. Ymrwyma i fynd yn rhydd o fawn yn dy ardd - mae dewisiadau amgen mawn ar gael yn rhwydd, a galli wneud dy gompost dy hun hefyd!

Plannu coeden neu lwyn
Lleoliad: ledled y DU
Math o weithred: Rholiwch eich llewys i fyny
Dos i gloddio yn dy ardd a phlannu coeden neu lwyn. Maent yn darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt, yn storio carbon i helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac yn gwneud i dy ardd edrych yn wych hefyd! Mae yna goeden neu lwyn sy'n addas ar gyfer pob gofod.

Caru boncyffion a'r dail
Lleoliad: ledled y DU
Math o weithred: Rholiwch eich llewys i fyny
Paid â thacluso! Casgla dy foncyffion a dy ddail at ei gilydd a chreu pentwr. Bydd yn denu'r holl bethau gorau: llysiau'r coed, mwydod, ffyngau a bacteria, ac mae hynny'n helpu'r creaduriaid sy'n gwledda arnyn nhw, gan gynnwys adar a draenogod.

Keep your feeders clean
Location: UK-wide
Type of action: Roll your sleeves up
One of the easiest ways to help wildlife is to put out supplementary food. Try cat food or specialist food for hedgehogs (never milk). Birds like a variety, so try sunflower hearts, suet balls and mealworms. You can feed garden birds all year round.

Look after your local wildlife
Location: UK-wide
Type of action: Roll your sleeves up
One of the easiest ways to help wildlife is to put out supplementary food. Try cat food or specialist food for hedgehogs (never milk). Birds like a variety, so try sunflower hearts, suet balls and mealworms. You can feed garden birds all year round.

Garden naturally
Location: UK-wide
Type of action: Roll your sleeves up
Sometimes, garden creepy crawlies can get out of hand – but pesticides aren’t the answer, as they remove food for other wildlife that feed on them, such as ladybirds. We’ll show you how you can garden greener.

Green living
Location: UK-wide
Type of action: Roll your sleeves up
Small changes at home can make a big difference to nature and the climate. Consider switching your energy provider to reduce your carbon footprint. Or buy in-season to make your weekly shop more nature-friendly.

Mynnu mannau gwyrdd gwell
Lleoliad: ledled y DU
Math o weithred: Creu mwy o fyd natur
Ebostia, ymweld â, neu ffonia’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a gofynnwch iddynt greu mwy o le gwyrdd lle rydych chi - neu gwnewch yn siŵr bod eich gofod presennol yn cael ei reoli'n dda ar gyfer byd natur. Mae gan fannau gwyrdd gymaint o fuddion llesiant, i fyd natur ac i ni ein hunain.

Dywedwch wrth eich gwleidyddion i godi llais dros fyd natur
Maen nhw'n gweithio i chi. Cysylltwch â'ch gwleidydd lleol a gofynnwch iddyn nhw sefyll dros faterion byd natur sydd o bwys i chi. Yn yr argyfwng byd natur a hinsawdd, mae bywyd gwyllt yn dioddef, sy'n golygu ein bod ni'n dioddef. Os bydd digon ohonom yn codi llais dros fyd natur, mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau weithredu.

Llofnodwch ein deiseb am ddyfodol gwell
Lleoliad: ledled y DU
Math o weithredu: Dewch ynghyd
Ychwanega dy enw at fwy na 90,000 o bobl eraill a llofnodwch ein deiseb Adfywio Ein Byd. Mae pob llais yn dangos i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ein bod ni'n awyddus iddyn nhw weithredu ar gyfer dyfodol gwell a gwyrddach. Gyda'n gilydd, byddwn yn mynnu targedau sy'n rhwymo'n gyfreithiol ar gyfer adferiad byd natur.
