Watch the video

Pleidleisiwch gyda byd natur mewn golwg

Mae'r Etholiad Cyffredinol yw'r amser perffaith i fynnu bod byd natur ar yr agenda gwleidyddol. Gadewch i ni uno ac anfon neges nad oes modd ei hanwybyddu: mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol ymrwymo i amddiffyn y cartref a rannwn â byd natur. #GadNaturGanu
Sut rydych chi'n helpu

Mae natur mewn argyfwng, mae'r arwyddion i brofi hynny ym mhobman. Ond mae amser i newid pethau. Trwy Gad Natur Ganu, y streiciau ieuenctid a hinsawdd ac adroddiad newydd Sefyllfa Byd Natur, mae symudiad yn ffurfio. Dewch i ymuno â ni.
Gwnewch newid dros fyd natur

Nawr eich bod wedi cymryd rhan yn Niwrnod Gad Natur Ganu mae yna nifer o ffyrdd y gallwch barhau i greu newid. O wyrddio'ch cartref i ymgyrchu gyda ni, gallwch helpu i wneud cyfraniad positif i'r amgylchedd. Peidiwch ag anghofio, gallwch barhau i wrando ar gân adar trwy ein ap Birdsong Radio, a chael eich ffrindiau i gymryd rhan! Gadewch i ni wybod sut hwyl gawsoch chi trwy ddefnyddio #GadNaturGanu
Cynhaliwch eich Diwrnod Gad Natur Ganu eich hun

Cynhaliwch eich digwyddiad Diwrnod Gad Natur Ganu eich hun a rhannwch eich cariad at gân adar. Gallwch chi drefnu bore coffi gyda thrac sain adar yn canu yn y cefndir, cynnal parti gwrando ar ganeuon adar, neu annog eich cydweithwyr i gael seibiant o'u gwaith er mwyn gwrando ar adar yn canu!