Gydag etholiadau Cymru ar 6 Mai 2021, gallwn ddefnyddio ein lleisiau i sicrhau newid. Os bydd gwleidyddion yn dilyn ein pum cam tuag at ddyfodol cynaliadwy, gallwn greu Cymru lle mae pobl yn byw mewn cytgord â bywyd gwyllt, mewn cymdeithas wydn, gydag economi sy’n llawn byd natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Adfywio Ein Byd yng Nghymru
Meddwl am ddyfodol cyfiawn a gwyrdd i Gymru
Cefnogi Byd Natur yng Nghymru
Peidiwch â dychmygu dyfodol gwell. Mynnwch ddyfodol gwell.
Gyda dim ond clic neu ddau, gallwch ddefnyddio ein e-weithred i leisio’ch pryderon am fyd natur ac argyfwng yr hinsawdd yn uchel ac yn glir i ymgeiswyr etholiadol yn eich ardal leol.
Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy na siarad. Mae’n rhaid iddi weithredu. Os bydd mwy ohonom yn lleisio ein barn, ni allant ein hanwybyddu.


Pum ffordd y gallwch chi weithredu
Mae byd natur wedi cyrraedd pwynt hollbwysig yng Nghymru, ond yn 2021 mae rhai cyfleoedd tyngedfennol i ni i gyd wneud gwahaniaeth. Rydyn ni wedi llunio rhestr o bump peth syml y gallwch chi eu gwneud nawr, a fydd wir yn gallu helpu i newid pethau er gwell.
Dod yn Bencampwr Ymgyrchu
Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed ar faterion yr ydych yn poeni amdanynt. Mae ein rhwydwaith o Bencampwyr Ymgyrchu yn hanfodol wrth sicrhau bod gwleidyddion a’r rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau pwysig yn gwybod bod materion sy'n effeithio ar fywyd gwyllt yn bwysig, a'u perswadio i wneud gwahaniaeth dros fyd natur. Y newyddion da yw y gellir gwneud llawer ohono gartref!