Rydyn ni’n addo y bydd yn brofiad gwerth chweil! Mae gennym bopeth sydd arnoch ei angen i’ch helpu i godi’n gynnar a mwynhau’r diwrnod. Defnyddiwch eich canllaw goroesi Gŵyl Côr y Bore Bach i gael awgrymiadau gorau ar sut i fanteisio i’r eithaf ar y diwrnod - o beth ddylech chi fynd gyda chi i’r amseroedd gorau i glywed y prif gantorion.

Ymunwch â Gŵyl Côr y Bore Bach cyntaf erioed

Eich canllaw goroesi Gŵyl Côr y Bore Bach

Gŵyl Côr y Bore Bach ar warchodfeydd natur yr RSPB
Mae’n dymor y dathlu ym myd natur ac rydych chi’n cael eich gwahodd i ŵyl gerddoriaeth sy’n annhebyg i unrhyw un arall. Mae Côr y Bore Bach wrthi’n ymarfer, ac mae ein gwarchodfeydd natur yn cynnig y cyfle i wrando ar berfformiadau gan yr aderyn du a’r robin goch, yn ogystal ag ymddangosiadau gan enwogion fel y gog ac eosiaid. Wrth i’r corws ddatblygu drwy’r bore, bydd arbenigwyr wrth law i roi gwybodaeth i chi yn ystod y perfformiad, fel na fyddwch yn colli nodyn.

Twît-twît! Gŵyl Côr y Bore Bach YN FY
Mae gŵyl Côr y Bore Bach yn mynd yn gymdeithasol. Ymunwch ag eraill ledled y DU i wrando ar synau anhygoel Côr y Bore Bach am 5am, ac ymunwch yn y sgwrs gan ddefnyddio #DiwrnodCorwsyWawr #DawnChorusDay

Perfformwyr yr ŵyl
Dyma roi gwybod i chi beth fydd yn digwydd ar bob llwyfan yn yr Ŵyl Côr y Bore Bach - mae pob cynefin yn llwyfan wahanol. Waeth os ydych chi’n byw ger coetir neu ffermdir, y mynyddoedd neu’r môr, byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy yw’r prif gantorion.

Angen help gydag adnabod cân yr adar?
Gallwn ni helpu! Byddwch yn barod ar gyfer Gŵyl Côr y Bore Bach gyda chanllaw'r RSPB, RSPB Guide to Birdsong - bydd yn eich helpu i ddysgu ac adnabod cân yr adar gam wrth gam ac ar eich cyflymder eich hun.
More festival highlights
-
Cael gafael ar docyn AAA
I sicrhau eich bod yn cael mynediad cefn llwyfan i waith yr RSPB, a mynediad VIP i’n gwarchodfeydd natur, ymunwch â’r dorf o filiwn o bobl sy’n aelodau o’r RSPB.
-
Cefnogi’r artistiaid
Mae adar yn cynnal perfformiad anhygoel inni ei fwynhau bob blwyddyn, ond mae angen ein help ar rai ohonynt. Rhowch heddiw i helpu i achub Côr y Bore Bach .
-
Gwrandewch ar Curlew Sounds
Peidiwch â cholli allan ar ein halbwm o gerddoriaeth wych, wedi’i ysbrydoli gan alwad gylfinirod. Mae’n cynnwys gwaith gan gerddorion megis Merlyn Driver, David Gray a Talvin Singh.